Llanfihangel Tal-y-llyn

pentref ym Mhowys, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia

Pentref a phwlyf eglwysig yng nghymuned Llan-gors, Powys, Cymru, yw Llanfihangel Tal-y-llyn.[1][2] Saif 32.6 milltir (52.4 km) o Gaerdydd. Saif yn ardal Brycheiniog yn ne'r sir, tua 4 milltir i'r dwyrain o Aberhonddu, yn y bryniau rhwng Bannau Brycheiniog i'r gorllewin a'r Mynydd Du i'r dwyrain.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Llanfihangel Tal-y-llyn
Mathpentref 
Daearyddiaeth
SirPowys 
Gwlad Cymru
Cyfesurynnau51.946283°N 3.288605°W 
Cod OSSO114283 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Thumb
Cau

Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Llan-gors, Llechfaen, Llan-y-wern a Llandyfaelog Tre'r-graig.

Mae'n un o'r sawl pentref o'r un enw yng Nghymru a enwir ar ôl Sant Mihangel. Cyfeiria "Tal-y-llyn" at y ffaith ei fod yn gorwedd ger treflan Tal-y-llyn, o fewn golwg Llyn Syfaddan.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.