pentref a chymuned ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llan-gors.[1] Saif i'r dwyrain o Aberhonddu.[2] Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Peulin.
Eglwys Sant Peulin, Llan-gors | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,080, 1,117 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,572.62 ha |
Cyfesurynnau | 51.940362°N 3.259919°W |
Cod SYG | W04000309 |
Cod OS | SO134275 |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Gerllaw'r pentref mae Llyn Syfaddan, y llyn naturiol mwyaf yn ne Cymru a lleoliad Crannog Llyn Syfaddan, un o ddwy grannog y gwyddir amdani yng Nghymru, a oedd o bosib, a chysylltiad gyda theulu brenhinol Brycheiniog, sy'n brawf o gyslltiad Cymru gydag Iwerddon (lle ceir miloedd o granogau). Ceir cofnod gan Gerallt Gymro o draddodiad lleol mai dim ond o flaen tywysog cyfreithlon Cymru y canai adar y llyn.
Heblaw pentref Llangors, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llangasty Tal-y-llyn, Llanfihangel Tal-y-llyn, Llan-y-wern a Cathedin. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,045.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llan-gors (pob oed) (1,080) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llan-gors) (129) | 12.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llan-gors) (632) | 58.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llan-gors) (112) | 25.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.