pentref ym Mhowys, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Treflan wledig yng nghymuned Yr Ystog, Powys, Cymru, yw Bachelldref (amrywiadau: Bachelldre, Bachelltref; Saesneg: Bacheldre).[1] Saif 72.2 milltir (116.2 km) o Gaerdydd. Fe'i lleolir ar y ffordd A489 tua 5 km (3 milltir) i'r de-ddwyrain o Drefaldwyn.
Melin hynafol Bachelldref | |
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.52°N 3.12°W |
Cod OS | SO2492 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
Gorwedd Bachelldref ar y ffin rhwng Powys yng Nghymru a Swydd Amwythig yn Lloegr. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o ardal Gymraeg ei hiaith a ymestynnai yn nwfn i mewn i'r sir Seisnig ac roedd yn ganolfan bwysig yn niwylliant Cymraeg a'r Gororau. Roedd yn rhan o gwmwd Gorddwr, Powys Wenwynwyn.
Cedwir ar glawr sawl cerdd i arglwyddi lleol Bachelldref sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol Diweddar. Yn eu plith ceir cerddi gan Sypyn Cyfeiliog, sef Dafydd Bach ap Madog Wladaidd (bl. tua 1340 – 1390), a ganodd awdl foliant i Ddafydd ap Cadwaladr o Fachelldref, ac un arall gan Deio ab Ieuan Du i'r un gŵr. Canodd Lewis Glyn Cothi i Gruffudd ap Hywel, ŵyr Dafydd ap Cadwaladr, tua'r flwyddyn 1480. Canodd Owain ap Llywelyn ab y Moel awdl foliant i Gadwaladr ap Gruffudd o Fachelldref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.