pentref yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Cadfarch, Powys, Cymru, yw Penegoes[1] ( ynganiad ). Saif yng ngogledd-orllewin y sir, yn ardal Maldwyn, ar lan Afon Dyfi ac ar briffordd yr A489 tua 2 filltir i'r dwyrain o dref Machynlleth ar y ffordd i Fallwyd. Caiff y gymuned ei enw o Sant Cadfarch, y cysegrir Eglwys Sant Cadfarch ym Mhenegoes iddo.
Math | pentref |
---|---|
Cysylltir gyda | Cadfarch |
Poblogaeth | 550 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 52.598 km² |
Cyfesurynnau | 52.5924°N 3.808°W |
Cod post | SY20 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
Rhed ffordd gul i fyny o'r pentref i Aberhosan a chyfeiriad Pumlumon i'r dwyrain. Ceir nifer o goedwigoedd yn y bryniau o gwmpas y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]
Ceir hen blasdy o'r enw Dol Cuog ym Mhenegoes, enw sy'n cadw cof am Abercuawg, lleoliad cerdd enwog sy'n rhan o gylch Canu Llywarch Hen.
Ganed yr arlunydd enwog Richard Wilson (1714-1782) yn rheithordy Penegoes. Roedd ei dad John Wilson yn rheithor y plwyf.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.