pentref ym Mhowys, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym Mhowys, Cymru, yw Manafon.[1] Fe'i lleolir yng ngogledd y sir yn ardal Maldwyn, 2 filltir a hanner i'r de o bentref Llanfair Caereinion ac 8 milltir i'r gorllewin o'r Trallwng ar lôn y B4390.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 321 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.612044°N 3.310561°W |
Cod SYG | W04000328 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
Saif Manafon ar ddwy lan Afon Rhiw mewn ardal o fryniau isel coediog a ffermydd ar wasgar. Mae'r plwyf yn rhan o Esgobaeth Llanelwy. Mae eglwys y plwyf, a gysegrwyd i Sant Mihangel, yn bur hynafol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Manafon (pob oed) (301) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Manafon) (54) | 18.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Manafon) (127) | 42.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Manafon) (35) | 26.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 5% |
Bu'r bardd a golygydd Gwallter Mechain (Walter Davies) yn ficer Manafon am gyfnod o 30 mlynedd, o 1807 hyd 1837, a chynhyrchodd ran helaeth o'i waith llenyddol yno. Bu Evan Evans (Ieuan Fardd) yn gurad yno am gyfnod ganol y 18g.
Treuliodd y bardd R. S. Thomas gyfnod o ddeuddeg mlynedd yn rheithor Manafon (1942-1954). Cafodd yr ardal ddylanwad dwfn arno. Yno yr aeth ati i ddysgu'r Gymraeg ac mae rhai o'i gerddi mwyaf adnabyddus, sy'n ymwneud â chymdeithas amaethyddol y fro, natur, a hanes Cymru yn deillio o'r amser hwnnw. Ceir pennod am ei brofiadau yn y fro yn ei hunangofiant Neb. Dyma un o'i ddisgrifiadau o Fanafon o'r gyfrol honno, a ysgrifennir yn y trydydd berson:
Defnyddiodd y cerddor David Sylvian brofiadau R. S. Thomas ym Manafon yn sail i'w albwm Manafon (2009).
David Lloyd (1656 - 1731) cyfreithiwr a gwleidydd Cymreig ym Mhennsylvania
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.