Cilmeri

pentref ym Mhowys, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia

Cilmeri
Remove ads

Pentref gwledig a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Cilmeri[1] (Saesneg: Cilmery).[2] Fe'i lleolir ar y briffordd A483 tua 2 filltir i'r gorllewin o dref Llanfair-ym-Muallt ar lan ogleddol Afon Irfon. Mae Trafnidiaeth Cymru yn galw yng Ngorsaf reilffordd Cilmeri sydd ar llinell Rheilffordd Calon Cymru.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Erthygl am y pentref a chymuned yw hon. Am ystyron eraill, gweler Cilmeri (gwahaniaethu).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]


Remove ads

Llywelyn Ein Llyw Olaf

Mae Cilmeri hefyd yn enw ar lecyn gerllaw'r pentref lle lladdwyd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ar 11 Rhagfyr 1282, sef ychydig islaw'r garreg a'r rhyd sy'n croesi Afon Irfon. Codwyd cofeb i'r tywysog yn 1956 gan wladgarwyr Cymreig i gofio amdano. Ers hynny mae'r gofeb yn denu nifer o ymwelwyr ar 11 Rhagfyr, Diwrnod Llywelyn Ein Llyw Olaf, i dalu teyrnged i Lywelyn. Cofnodwyd yn wreiddiol mai cynllwyn dan-din gan y Saeson a arweiniodd at ei gwymp, ei fod wedi dod at y rhyd i drafod termau heddwch, ar ei ben ei hun, fel a gytunwyd. Ond ni chadwodd y fyddin Seisnig at ei gair, ac roedd nifer ohonynt yn ei ddisgwyl.

Cilmeri yw enw ar awdl a chyfrol o gerddi nodedig gan y prifardd Gerallt Lloyd Owen (Cilmeri a Cherddi Eraill, Gwasg Gwynedd, 1991).

Coffâd Blynyddol

Ar y dydd Sadwrn agosaf at yr 11 Rhagfyr pob blwyddyn cynhelir coffâd i Llywelyn yng Nghilmeri. Yn ystod y penwythnos cynhelir cwrdd yn eglwys hynafol Llanynys, gorymdaith o dafarn y Prince Llywelyn at y maen coffa, a coffâd ger y maen[5]. Cynhelir digwyddiadau eraill yn Aberedw ac yn Abaty Cwmhir ar y dydd Sul. Ceir manylion y digwyddiadau a'r amserlen yn flynyddol ar wefan Gurfal Archifwyd 2017-05-29 yn y Peiriant Wayback.

Remove ads

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Remove ads

Henebion

Saif hen domen a beili Caer Beris rhwng y pentref a Llanfair-ym-Muallt. Yma hefyd ceir Crug Crwn Gwaun Neli.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads