From Wikipedia, the free encyclopedia
Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Caer Beris, heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: Cilmeri, Powys; cyfeiriad grid SO029507. Enwyd plasdy lleol gerllaw ar ei hôl.
Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf 11g ac ail hanner 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry.
Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: BR093.[1]
Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.