pentref ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llangynog.[1] Saif yng ngogledd y sir ar lan Afon Tanad, ger cyflifiad yr afon honno ag Afon Eirth, ar y ffordd B4391 tua hanner ffordd rhwng Y Bala i'r gogledd-orllewin a'r Trallwng i'r de-ddwyrain, yn Nyffryn Tanad. Y dref agosaf yw'r Bala.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | Cynog Ferthyr |
Poblogaeth | 339, 297 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,356.49 ha |
Cyfesurynnau | 52.824406°N 3.405141°W |
Cod SYG | W04000314 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
I'r gogledd a'r gorllewin o'r pentref mae bryniau moel Y Berwyn yn ymestyn am filltiroedd. Mae lôn gul yn arwain o'r pentref i fyny cwm diarffordd i blwyf hanesyddol Pennant Melangell gydag eglwys wedi ei chysegru i'r santes Melangell.
Tu ôl i'r pentref i'r gogledd ceir bryngaer Craig Rhiwarth, ar lethrau Y Clogydd (1954 troedfedd), sy'n dyddio i Oes yr Haearn. Tair kilometr i'r Gogledd-Ddwyrain saif Cylch Cerrig Cwm Rhiwiau.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd yr eglwys gan Sant Cynog (m. 492). Ceir hen ywen (fenywaidd) yn tyfu yn y fynwent; mesurwyd hon yn 2008, a chafwyd ei bod yn 23 troedfedd o'i chwmpas ac yn 2008 roedd yn 24` 7`` (7.49m).[4].
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llangynog, Powys (pob oed) (339) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangynog, Powys) (122) | 36.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangynog, Powys) (111) | 32.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llangynog, Powys) (65) | 42.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 5% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.