pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, cymuned, a phlwyf eglwysig ym Mhowys, Cymru, ydy Llansilin.[1][2] Saif tua 6 milltir i'r gorllewin o Groesoswallt, yng Nglyn Ceiriog. Oherwydd i ardaloedd gweinyddol Cymru gael eu hail-drefnu sawl gwaith, roedd y capel yn Sir Ddinbych hyd 1974 ac yng Nghlwyd rhwng 1974 ac 1996. Erbyn heddiw, mae ym Mhowys, yn dilyn symud y ffin yn 1996.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 698, 682 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,743.38 ha |
Cyfesurynnau | 52.8446°N 3.1759°W |
Cod SYG | W04000320 |
Cod OS | SJ209283 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[4]
Mae capel Llansilin wedi ei chysegru i Sant Silin. Mae'r rhan gynharaf o'r adeilad presennol yn dyddio i'r 13g, er bod capel ar y safle am gyfnod hir cyn hynny. Mae'r rhan fwyaf o'r adeilad yn dyddio i'r 15g. Dinistrwyd y clochdy gwreiddiol gan dân, ac adeiladwyd y clochdy presennol yn 1832. Cyflawnwyd gwaith adnewyddu yn ystod 1889/1890, ac ail-agorwyd y capel ym Mehefin 1890.
Treuliodd y bardd Huw Morus (Eos Ceiriog) (1622-1709) rhan helaeth ei oes ar fferm Pont-y-meibion yn y plwyf. Ceir cofeb iddo wedi'i gosod ym mur yr hen ffermdy. Am fod y ffermdy mewn tafod o'r plwyf sy'n ymestyn i blyfi cyfagos, arferai cerdded dros y bryn bob dydd Sul i addoli yn eglwys ei blwyf ei hun.[5]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llansilin (pob oed) (698) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llansilin) (184) | 26.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llansilin) (222) | 31.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llansilin) (82) | 29.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 5% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.