Remove ads
pentref a chymuned ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Castell Caereinion[1] (Saesneg: Castle Caereinion). Saif y pentref i'r gorllewin o'r Trallwng ac ychydig i'r de o'r briffordd A458, ar y ffordd gefn B435.
Ymhlith ei hynafiaethau mae Tŷ Mawr, tŷ Cymreig traddodiadol sy'n dyddio o 1400, ac a adferwyd yn 1997-8. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Garmon; mae'r eglwys bresennol yn dyddio o 1874.
Yma hefyd mae gweddillion Castell yr Eglwys sef mwnt a beili a roddodd ei enw i'r pentref (am ei fod yn gorwedd yng nghantref Caereinion), a godwyd gan Madog ap Maredudd yn 1156.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 509.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Castell Caereinion (pob oed) (592) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Castell Caereinion) (86) | 15.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Castell Caereinion) (238) | 40.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Castell Caereinion) (59) | 25.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.