Merthyr Cynog

pentref gwledig a phlwyf ym Mrycheiniog, de Powys From Wikipedia, the free encyclopedia

Merthyr Cynog

Pentref gwledig a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Merthyr Cynog.[1] Saif yn ardal Brycheiniog, ar lethrau deheuol Mynydd Epynt rhwng afonydd Ysgir Fawr ac Ysgir Fechan, ffrydiau sy'n ymuno yn nes i lawr i ffurfio afon Ysgir, un o ledneintiau afon Wysg.

Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...
Merthyr Cynog
Thumb
Mathcymuned, pentrefan 
Enwyd ar ôlCynog Ferthyr 
Poblogaeth245 
Daearyddiaeth
SirPowys 
Gwlad Cymru
Arwynebedd7,201.37 ha 
Cyfesurynnau52.0167°N 3.4833°W 
Cod SYGW04000330 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Thumb
Cau
Am leoedd eraill o'r enw "Merthyr", gweler Merthyr (gwahaniaethu).

Lleolir y pentref ar bwys lôn wledig sy'n dringo i gyfeiriad Epynt o Aberhonddu, 6 milltir i'r de-ddwyrain. Y pentref cyfagos yw Llanfihangel Nant Brân, dros y bryn i'r gorllewin, a'r Capel Uchaf i'r gogledd-ddwyrain.

Ystyr y gair merthyr yma yw "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)." Cysylltir y plwyf â Chynog Ferthyr, sant a mab hynaf Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog. Yn ôl traddodiad, lladdwyd Cynog gerllaw a chodwyd eglwys ar ei fedd. Ymhlith y lleoedd eraill a gysylltir â'r sant ceir Defynnog, tua 5 milltir i'r de-orllewin, ger Pontsenni.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]


Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Merthyr Cynog (pob oed) (245)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Merthyr Cynog) (44)
 
18.5%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Merthyr Cynog) (155)
 
63.3%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Merthyr Cynog) (19)
 
19.2%
:Y ganran drwy Gymru
 
5%
Cau

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.