pentref bychan ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Llangynog ym Maldwyn, Powys, Cymru, yw Pennant Melangell, sydd 93.7 milltir (150.9 km) o Gaerdydd a 167.7 milltir (269.8 km) o Lundain. Gorwedd ym mhen uchaf Cwm Pennant tua 2.5 milltir i'r gorllewin o bentref Llangynog. Gorweddai yng nghantref Mochnant yn yr Oesoedd Canol.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.826767°N 3.448117°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
Mae afon Tanad, sy'n rhedeg trwy'r cwm, yn tarddu yn uchel ar y bryniau i'r gorllewin o Bennant Melangell ar lethrau dwyreiniol Cyrniau Nod.
Dylid darllen yr erthygl hwn ynghyd testun Santesau Celtaidd 388-680
Enwir y pentref ar ôl Santes Melangell c.575-641,[1][1] nawddsant y plwyf. Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o Iwerddon ond fagwyd hi yng Ngwynedd yn ferch Eithni Wyddeles a Cyfwlch Addfwyn. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i Bowys i fyw yng Nghwm Pennant. Un diwrnod, tua 604, daeth Brochwel (Brochfael), pennaeth Powys, (Brochwel Ysgithrog efallai) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela ysgyfarnog, a rhedodd at Felangell a llochesu dan ei gwisg. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r tir yn y cwm iddi, a elwir yn awr yn Bennant Melangell. Daeth Melangell yn arweinydd Cymuned Cristnogol bychan yno.[2]
Yn yr hen eglwys, a gysegrir i'r santes, gellir gweld creirfa Melangell, sydd wedi ei hail-adeiladu wedi iddi gael ei dinistrio adeg y Diwygiad Protestannaidd ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath ym Mhrydain ac yn unigryw yn ei chynllun. Ceir cerfluniau o sgwarnogod ar ysgrîn y Grog. Codwyd yr adeilad bresennol yn y 12g. Ychwanegodd cell haner gron a elwir "Cell y Bedd" ar seiliau o'r 10fed canrif yn yr 20ed canrif. Credir fod Melangell wedi claddu yno. Amgylchynir yr eglwys gan llan fawr sy'n cynnwys coed yw hynafol, rhai ononynt yn fwy na 2000 oedsy'n awgrymu fod y safle yn gyn-Gristnogol.[1]
Roedd yr eglwys yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yn yr Oesoedd Canol. Gyda twf mewn diddordeb yn yr amgylfyd yn ail haner yr ugeinfed canrif daeth Melangell yn santes poblogaidd unwaith eto yng Nghymru fel nawdd santes bywyd gwyllt a'r amgylchfyd naturiol.[1] Yn ddiweddar mae Cyngor Sir Powys wedi creu llwybr "Pererindod Melangell" yn arwain yno.[3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.