From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae pererindod, sef taith i le sanctaidd, yn elfen bwysig mewn nifer o grefyddau, yn cynnwys Cristionogaeth, Islam, Iddewiaeth, Hindwaeth a Bwdiaeth.
Roedd pererindod yn bwysig iawn yn y Canol Oesoedd, ac mae'n parhau ar raddfa lai. Y gyrchfan fwyaf poblogaidd yw Israel, i ymweld a nifer o safleoedd cysylltiedig a gyrfa Iesu Grist. Yn y Canol Oesoedd yn arbennig, roedd pererindod i Rufain yn boblogaidd iawn, a hefyd i Santiago de Compostela yn Sbaen ar hyd y Camino de Santiago, cyrchfannau sy'n parhau'n boblogaidd. Yng Nghymru roedd tair pererindod i Ynys Enlli yn cael ei hystyried yn gyfwerth a phererindod i Rufain.
Ystyrir y bererindod ('Hajj') i Mecca yn rhan bwysig o grefydd Islam. Mae'r sawl sydd wedi bod ar y bererindod yn cael defnyddio'r teitl Haji.
Y brif gyrchfan yw gweddillion safle'r deml yn Jeriwsalem, lle mae Mur yr Wylofain.
Mae pedair prif gyrchfan i Fwdhyddion: Kapilavastu lle ganed y Bwda, Bodh Gaya lle cafodd ei oleuo, Sarnath ger Varanasi lle traddododd ei bregeth gyntaf a Kusinagara lle cyrhaeddodd Paranirvana. Maent i gyd yng ngogledd India.
Yn ogystal i'r prif safleoedd hyn ceir nifer o gyrchfannau pererindod lleol neu genedlaethol yn y gwledydd Bwdhaidd.
Er nad yw'n ofynnol i Hindŵ fynd ar bererindod mae'n rhan bwysig o'r grefydd. Y pedair prif gyrchfan yw Kedarnath, Gangotri, Yamunotri a Rishikesh, i gyd yn yr Himalaya ger tarddle Afon Ganges. Dyma'r Chardham. Mae Haridwar (neu 'Hardwar'), ger Rishikesh, yn bwysig hefyd. Benares (Varanasi), ger aber afonydd Ganges a Yamuna, yw'r enwocaf fel safle pererindod flynyddol (mela) sy'n cyrraedd ei huchafbwynt yn y Kumbh Mela sy'n denu rhai miliynau o bobl.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.