pentref ym Mhowys, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Yr Ystog[1] (Saesneg: Churchstoke[2] neu Church Stoke). Saif y pentref i'r de-ddwyrain o dref Trefaldwyn, yn agos at y ffin a Lloegr, ger cyffordd y priffyrdd A489 ac A490. Mae Afon Camlad yn llifo heibio iddo. Ceir archfarchnad fawr Harry Tuffins yn y pentref, ynghyd ag ysgol gynradd a dwy dafarn.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,691, 1,674 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5,430.76 ha |
Cyfesurynnau | 52.54°N 3.08°W |
Cod SYG | W04000263 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[4]
Heblaw pentref Yr Ystog, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Hyssington a Snead; mae rhan fechan o'r gymuned ar wahan i'r gweddill, i'r de o Drefaldwyn. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,571.
Dyddia corff Eglwys Sant Niclas o 1815, ond mae'r tŵr o'r 13g. Gerllaw mae gweddillion castell mwnt a beili a adawenir fel Castell yr Esgob.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Yr Ystog (pob oed) (1,691) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Yr Ystog) (70) | 4.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Yr Ystog) (412) | 24.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Yr Ystog) (227) | 32.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.