cymuned ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned yng nghanolbarth Powys, Cymru, yw Llanddewi Ystradenni[1] (Saesneg: Llanddewi Ystradenny). Saif ar lan ddwyreiniol Afon Ieithon ar ffordd yr A483, tua 7 milltir i'r gogledd o dref Llandrindod.
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 310, 286 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,500.49 ha |
Cyfesurynnau | 52.308056°N 3.308048°W |
Cod SYG | W04000291 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]
Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Buddugre, yng nghantref Maelienydd; codwyd Castell Buddugre yno yn y 12g. Dros y cwm i'r gorllewin ceir adfeilion Abaty Cwm Hir, lle claddwyd corff Llywelyn ap Gruffudd ar ôl iddo gael ei ladd ger Buallt yn Rhagfyr 1282.
Saif Eglwys Dewi Sant neu "Landdewi" o fewn mynwent sydd bron yn grwn yng nghanol y pentref, ger Neuadd Llanddewi. Mae'r adeilad presennol, sy'n adeilad cofrestredig Gradd II, yn dyddio i 1890, ond ceir yma rhai rhanau o'r hen eglwys a fu yma cyn hynny.[4]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanddewi Ystradenni (pob oed) (310) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanddewi Ystradenni) (27) | 9.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanddewi Ystradenni) (152) | 49% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanddewi Ystradenni) (39) | 31.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 5% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.