Pentref bychan gwledig, cymuned a phlwyf eglwysig ym Mhowys, Cymru, yw Saint Harmon[1] (Saesneg: St Harmon).[2] Fe'i lleolir 2 filltir i'r gogledd o bentref Rhaeadr Gwy ar lôn fynydd rhwng y pentref hwnnw a Llanidloes. Saif ar lan Afon Marteg, ffrwd sy'n aberu yn Afon Gwy ger Rhaeadr. Enwir y pentref ar ôl Sant Garmon ("Harmon"). Saif y pentref mewn ardal o fryniau isel, gyda Moel Hywel (505 m) yn codi i'r dwyrain.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 593, 615 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 7,353.17 ha |
Cyfesurynnau | 52.344°N 3.486°W |
Cod SYG | W04000342 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]
Hanes a hynafiaethau
Tan ddiwedd yr 16g, roedd bagl neu groes Sant Curig i'w gweld yn eglwys y plwyf (sy'n 6 milltir o glas y sant hwnnw yn Llangurig dros y bryniau). Ceir disgrifiad o'r groes gan Gerallt Gymro yn ei Hanes y Daith Trwy Gymru (1188): 'yn eglwys Sant Garmon ceir y fagl a enwir Bagl Sant Curig, yr hon a ymestyn ychydig yn ei brig, ar y naill achr a'r llall, ar wedd croes, ac a orchuddir amgylch ogylch ag aur ac arian.' Arferid gwella cleifion â hi.[5]
Bu Gwenllian ferch Owain Glyndŵr a'i gŵr Phylib ap Rhys yn byw ym mhlas Cenarth yn y plwyf yn hanner cyntaf y 15g.
Pobl o Saint Harmon
- Gwenllian ferch Owain Glyndŵr (15g)
- Francis Kilvert: Bu'r dyddiadurwr yn offeiriad yma o 1876 hyd 1877.
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.