tref a chymuned ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Y Trallwng[1] (Saesneg: Welshpool;[2] cyn 1835 Pool). Saif yng ngogledd-ddwyrain y sir ar lan Afon Hafren, 4 milltir (6.4 km) o'r ffin rhwng Cymru â Lloegr. Arferai fod yn yr hen Sir Drefaldwyn. Gerllaw, i'r dwyrain, saif Cefn Digoll (408 metr (1,339 tr), a chwaraeodd ran mor allweddol yn amddiffyn y genedl oddi wrth y goresgynwyr estron: y Saeson. Yma ar 16 Awst 1485 y cyfarfu dwy fyddin: milwyr Harri Tudur (tua dwy fil o filwyr) a byddin Rhys ap Thomas (tua 3,000) gan uno'n un fyddin gref; oddi yma teithiodd y fyddin tua'r dwyrain i'r Amwythig ac ymlaen i Faes Bosworth.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 6,664, 6,639 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Hafren |
Cyfesurynnau | 52.6597°N 3.1473°W |
Cod SYG | W04000352 |
Cod OS | SJ225075 |
Cod post | SY21 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Ceir yn y Trallwng farchnad ddefaid, a gynhelir bob dydd Llun, yw'r mwyaf o'i fath yn Ewrop.[3] Tua milltir o'r dref saif Castell Powys, a godwyd yn wreiddiol gan y Tywysogion Cymreig yn y 13g. Cysegrir y ddwy eglwys i sant Cynfelyn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Alex Davies-Jones (Llafur).[5]
Mae ffiniau plwyf Eglwys St Cynfelin fwy neu lai'n dilyn hen ffiniau cwmwd Ystrad Marchell, o fewn cantref Ystlyg yn Nheyrnas Powys.[6][7]
Am gyfnod byr, o tua 1212, y Trallwng oedd prifddinas Powys Wenwynwyn (sef de Powys).
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Y Trallwng (pob oed) (6,664) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Trallwng) (785) | 12.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Trallwng) (2876) | 43.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Trallwng) (1,105) | 37.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 5% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.