2024
blwyddyn From Wikipedia, the free encyclopedia
2024 yw'r flwyddyn gyfredol; blwyddyn naid.
20g - 21g - 22g
1970au 1980au 1990au 2000au 2010au - 2020au - 2030au 2040au 2050au 2060au 2070au
2019 2020 2021 2022 2023 - 2024 - 2025 2026 2027 2028 2029
Digwyddiadau
Ionawr


- 1 Ionawr
- Yr Aifft, Ethiopia, Iran, Sawdi Arabia a'r Emiradau Arabaidd Unedig yn ymuno a'r grwp BRICS.[1]
- Priodas o'r un rhyw (priodas gyfunryw) yn dod yn gyfreithiol yn Estonia.
- Gwlad Belg yn derbyn arlywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd.
- Daeargryn maint 7.5 yn taro penrhyn Noto, Japan, gan ladd 222 o bobl.[2]
- 2 Ionawr – Dwy awyren yn gwrthdaro mewn maes awyren yn Tokyo, Japan; pump o bobl yn cael eu lladd.[2]
- 3 Ionawr – Bomio dwbl yn Kerman, Iran, yn lladd 84 o bobl.[3]
- 7 Ionawr – Etholiad cyffredinol Bangladesh.[4]
- 8 Ionawr – Dros miliwn o bobl yn arwyddo deiseb yn galw ar Paula Vennells i golli ei CBE.[5]
- 9 Ionawr
- Paula Vennells yn cytuno i roi ei CBE yn ôl.[6]
- Gabriel Attal yn dod yn Brif Weinidog Ffrainc.
- 11 Ionawr – Clymblaid dan arweiniad yr Unol Daleithiau yn lansio streiciau awyr ar dargedau Houthi yn Iemen, mewn ymateb i ymosodiadau ar longau yn y Môr Coch.[7]
- 13 Ionawr – Lai Ching-te yn ennill etholiad arlywyddol Taiwan.[8]
- 14 Ionawr
- Llosgfynydd Reykjanes yn ffrwydro ger tref Grindavik, Gwlad yr Iâ.[9]
- Frederik X yn dod yn frenin Denmarc ar ôl ymwrthod a'i fam, y Frenhines Margrethe II.[10]
- 15-17 Ionawr – Meddygon iau yng Nghymru yn mynd ar streic.[11]
- 16 Ionawr – Louis Rees-Zammit yn newid o rygbi i bel-droed Americanaidd.[12]
- 19 Ionawr – Tata Steel yn cyhoeddi ei fod yn torri 2,800 o swyddi y rhan fwyaf ohonynt ym Mhort Talbot.
Chwefror
- 1 Chwefror – Gorsaf Bad Achub Pwllheli ar gau oherwydd anghytundebau ac ymddiswyddiadau staff.[13]
- 3 Chwefror – Michelle O'Neill (Sinn Fein) yn dod yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon; Emma Little-Pengelly o'r DUP yn dod yn ddirprwy iddi.
- 5 Chwefror – Charles III yn cyhoeddi fod ganddo canser.
- 15 Chwefror – Gwlad Groeg yn cyfreithloni priodas gyunryw.
Mawrth
- 7 Mawrth - Sweden yn ymuno a NATO.
- 15-17 Mawrth - Etholiad arlywyddol Rwsia.
- 16 Mawrth
- Vaughan Gething yn dod yn arweinydd y Blaid Lafur Gymreig.
- Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru'n gorffen yn y lle olaf ar ol colli'r pum gêm.
- 20 Mawrth
- Leo Varadkar yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel Taoiseach Iwerddon.
- Vaughan Gething yn dod yn Brif Weinidog Cymru.
- 22 Mawrth
- Catherine, Tywysoges Cymru yn cyhoeddi fod ganddi ganser.
- Ymosodiad gan eithafwyr a gefnogir gan ISIS yn Neuadd y Ddinas Crocus ym Moscfa yn lladd 137 o bobl.
Ebrill

- 8 Ebrill - Diffyg llwyr ar yr haul dros rannau o Fecsico, yr Unol Daleithiau a Dwyrain Canada.
- 9 Ebrill - Simon Harris yn dod yn Taoiseach Iwerddon.
- 19 Ebrill – 1 Mehefin – Etholiad cyffredinol India yn cael ei gynnal.[14]
- 24 Ebrill - Dwy athrawes a disgybl yn cael eu trywanu gan ddisgybl benywaidd yn Ysgol Dyffryn Aman.[15]
- 29 Ebrill - Humza Yousaf yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel Prif Weinidog yr Alban.
Mai
- 6 Mai – Ymosodiad Israel ar Rafah.
- 8 Mai - John Swinney yn dod yn Brif Weinidog yr Alban.
Mehefin
- 14 Mehefin – Cyn is-bostfeistr Llandudno Alan Bates yn cael ei urddo'n farchog, a hefyd cyn AS Wayne David (marchog), y darlledwr Roy Noble (CBE) a' dawnsiwr Amy Dowden (MBE).[16]
Gorffennaf


- 1 Gorffennaf - Hwngari yn derbyn arlywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd.
- 4 Gorffennaf - Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2024: y Blaid Lafur yn dychwelyd i'r llywodraeth ar ôl 14 mlynedd.
- 5 Gorffennaf
- Syr Keir Starmer yn dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
- Rachel Reeves yn dod yn Ganghellor Trysorlys y DU.
- Jo Stevens yn dod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Llywodraeth y DU.
- 13 Gorffennaf - Ymgais i lofruddio Donald Trump.
- 15 Gorffennaf - Etholiad yr Unol Daleithiau: Donald Trump yn dewis JD Vance fel ei gyd-chwaraewr.
- 16 Gorffennaf - Vaughan Gething yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel Prif Weinidog Cymru.
- 21 Gorffennaf - Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, yn tynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl ar gyfer etholiad arlywyddol mis Tachwedd; cefnogi Kamala Harris fei ymgeisydd y Blaid Ddemocrataidd.
- 24 Gorffennaf - Eluned Morgan yn dod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.
- 26 Gorffennaf - Seremoni agoriadol Gemau Olympaidd yr Haf 2024 ym Mharis; roedd 68 gwlad gyda phoblogaeth llai na Chymru'n cymryd rhan.
- 29 Gorffennaf - Tair merch yn cael eu trywanu i farwolaeth gyda chyllell, mewn dosbarth dawns ar thema Taylor Swift, yn Southport, Lloegr.
- 30 Gorffennaf - Terfysgoedd yn dechrau mewn ymateb i ladd y merched yn Southport; lledodd y terfysgoedd yn fuan ar draws Lloegr a Gogledd Iwerddon; dim un yng Nghymru.
Awst
- 3–10 Awst – Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024
- 5 Awst
- Yn dilyn protestiadau mawr, Sheikh Hasina Wazed yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Bangladesh.
- Vaughan Gething yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog o Gymru, gyda'r bleidlais dros Brif Weinidog Cymru'n cymeryd lle y diwrnod canlynol.[17]
- 6 Awst
- Eluned Morgan yn dod yn Brif Weinidog Cymru.
- Etholiad yr Unol Daleithiau: Kamala Harris yn dewis Tim Walz fel partner gwleidyddol.
- 11 Awst – Seremoni gloi Gemau Olympaidd yr Haf ym Mharis.
- 28 Awst – Seremoni agoriadol Gemau Paralympaidd yr Haf ym Mharis.
Medi
- 5 Medi – Michel Barnier yn dod yn Brif Weinidog Ffrainc.
- 8 Medi – Seremoni gloi Gemau Paralympaidd yr Haf ym Mharis.
Hydref
- 1 Hydref
- Shigeru Ishiba yn dod yn Brif Weinidog Japan.
- Mark Rutte yn dod yn Ysgrifennydd Cyffredinol NATO.
- Claudia Sheinbaum yn dod yn Arlywydd Mecsico.
- 3 Hydref – Y Deyrnas Unedig yn cytuno i roi Ynysoedd Chagos yn ôl i Mawrisiws, gyda'r Unol Daleithiau yn cadw milwyr ar Diego Garcia.
- 20 Hydref – Prabowo Subianto yn dod yn Arlywydd Indonesia.
- 29 Hydref – Lladd 217 o bobl mewn llifogydd yn rhanbarth Valencia yn Sbaen.
Tachwedd
- 2 Tachwedd – Kemi Badenoch yn dod yn arweinydd y Blaid Geidwadol.
- 5 Tachwedd – Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2024: Ethol Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
- 12 Tachwedd – Justin Welby yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel Archesgob Caergaint.
- 23 Tachwedd – Rygbi'r undeb: Cymru'n colli ei 12fed gêm yn olynol.
- 26 Tachwedd – Hizballah ac Israel yn cytuno ar gytundeb cadoediad.
Rhagfyr
- 1 Rhagfyr – Joe Biden yn maddau ei fab, Hunter Biden er i'w fab gael ei ganfod yn euog gan lys.
- 3 Rhagfyr
- Netumbo Nandi-Ndaitwah yn ennill etholiad arlywyddol Namibia.
- Arlywydd De Corea Yoon Suk Yeol yn ysgogi protestiadau mawr yn ei erbyn am iddo geisio deddf newydd: gorfodaeth milwrol.
- 7 Rhagfyr – Adfer Notre-Dame de Paris dros bum mlynedd ar ol cael ei ddifrodi'n drwn gan dan.
- 8 Rhagfyr – Yr Arlywydd Syria Bashar al-Assad yn ffoi o Damascus ar ôl cael ei ddymchwel.
- 13 Rhagfyr – Francois Bayrou yn dod yn Brif Weinidog Ffrainc.
- 14 Rhagfyr
- 15 Rhagfyr – Israel yn cyhoeddi y bydd yn cau llysgenhadaeth Gweriniaeth Iwerddon oherwydd protestiadau efawr yn erbyn hil-laddiad y Palesteiniaid gan Israel.
- 16 Rhagfyr – Canghellor yr Almaen Olaf Scholz yn colli pleidlais o hyder.
Diwylliant
Cerddoriaeth
Albymau
- Feeder – Black/Red[18]
- Georgia Ruth – Cool Head[19]
- Pádraigín Ní Uallacháin – Seven Daughters of the Sea - Seacht nIníon na Mara[20]
- Charli XCX – Brat
- Beyonce – Cowboy Carter
Teledu
- Lost Boys & Fairies gan Daf James, gyda Siôn Daniel Young.[21]
Marwolaethau
Ionawr


- 4 Ionawr
- Leah Owen, 70, cantores[22]
- Glynis Johns, 100, actores[23]
- David Soul, 80, actor a chanwr[24]
- 6 Ionawr – Vaughan Hughes, 76, newyddiadurwr, cyflwynydd a chynhyrchydd[25]
- 8 Ionawr – J. P. R. Williams, 74, chwaraewr rygbi'r undeb[26]
- 11 Ionawr – Annie Nightingale, 83, darlledwraig radio[27]
- 13 Ionawr – Stephen Laybutt, 46, pel-droediwr[28]
- 17 Ionawr – Emyr Glyn Williams, 57, sylfaenydd labeli recordiau, ysgrifennwr a gwneuthuriwr ffilmiau[29]
- 22 Ionawr – Elke Erb, 85, awdures a bardd[30]
- 27 Ionawr – Gogi Saroj Pal, 78, arlunydd
- 28 Ionawr – Judith D. Sally, 86, mathemategydd
- 30 Ionawr – Chita Rivera, 91, actores[31]
Chwefror

- 2 Chwefror – Ian Lavender, 77, actor[32]
- 4 Chwefror – Barry John, 79, chwaraewr rygbi'r undeb[33]
- 6 Chwefror
- John Bruton, 76, cyn-Taoiseach Iwerddon[34]
- Seiji Ozawa, 88, arweinydd cerddorfa[35]
- 12 Chwefror – Steve Wright, 69, troellwr[36]
- 16 Chwefror – Alexei Navalny, 47, gwleidydd[37]
- 18 Chwefror – Gwilym Tudur, 83, gwr busnes, ymgyrchydd ac awdur[38]
- 19 Chwefror
- Ewen MacIntosh, 50, actor[39]
- J. Beverley Smith, 92, hanesydd[40]
- 25 Chwefror – Estella Leopold, 97, botanegydd[41]
- 29 Chwefror – Brian Mulroney, 84, Prif Weinidog Canada[42]
Mawrth

- 3 Mawrth – Edward Bond, 89, dramodydd
- 10 Mawrth – Karl Wallinger, 66, cerddor[43]
- 17 Mawrth
- Steve Harley, 73, canwr a cherddor[44]
- Morfydd E. Owen, 88, academydd[45]
- 18 Mawrth
- Zonia Bowen, 97, awdures a sefydlydd Merched y Wawr[46]
- Rose Dugdale, 81, terfysgwraig[47]
- 23 Mawrth – Maurizio Pollini, 82, pianydd[48]
- 28 Mawrth – Marian Zazeela, 83, arlunydd[49]
Ebrill

- 1 Ebrill – Sylvia Fein, 104, arlunydd
- 4 Ebrill
- Zsuzsa Ferge, 92, mathemategydd[50]
- Lynne Reid Banks, 94, awdures[51]
- 5 Ebrill – Yr Athro Chris Williams, 61, academydd[52]
- 8 Ebrill
- Keith Barnes, 89, chwaraewr rygbi'r gynghrair[53]
- Peter Higgs, 94, ffisegydd damcaniaethol[54]
- 9 Ebrill – Sheila Isham, 96, arlunydd
- 10 Ebrill – O. J. Simpson, 76, actor a bel-droediwr Americanaidd
- 11 Ebrill – Shigeharu Ueki, 69, pel-droediwr
- 13 Ebrill – Faith Ringgold, 93, arlunydd
- 15 Ebrill – Derek Underwood, 78, cricedwr[55]
- 19 Ebrill – Leighton James, 71, pel-droediwr
- 23 Ebrill – George Baker, 88, pel-droediwr
- 27 Ebrill – C. J. Sansom, 71, awdur
- 30 Ebrill – Duane Eddy, 86, cerddor
Mai

- 9 Mai
- Roger Corman, 98, cyfarwyddwr ffilm
- Shirley Conran, 91, newyddiadurwr ac awdures[56]
- 13 Mai – Alice Munro, 92, llenores
- 14 Mai – Owen John Thomas, 84, gwleidydd
- 22 Mai – David Wilkie, 70, nofiwr[57]
- 29 Mai – Syr Mansel Aylward, 81, meddyg ac academydd[58]
Mehefin
- 5 Mehefin – Michael Mosley, 67, meddyg o Sais[59]
- 17 Mehefin – Claudia Williams, 91, arlunydd
- 18 Mehefin – Anouk Aimée, 92, actores o Ffrainc[60]
- 20 Mehefin – Donald Sutherland, 88, actor
- 28 Mehefin – Audrey Flack, 93, arlunydd
- 29 Mehefin – Jacqueline de Jong, 85, arlunydd
Gorffennaf

- 1 Gorffennaf
- Ismail Kadare, 88, nofelwr o Albania[61]
- June Leaf, 94, arlunydd
- 7 Gorffennaf – Ian Buckett, 56, chwaraewr rygbi'r undeb
- 11 Gorffennaf – Shelley Duvall, 75, actores
- 12 Gorffennaf – Ruth Westheimer, 96, therapydd
- 13 Gorffennaf
- P. Buckley Moss, 91, arlunydd
- Richard Simmons, 76, hyfforddwr ffitrwydd
- 18 Gorffennaf – Bob Newhart, 94, actor a digrifwr
- 19 Gorffennaf – Ray Reardon, 91, pencampwr snwcer[62]
- 20 Gorffennaf – Moacir Rodrigues Santos, 54, pel-droediwr
- 23 Gorffennaf – Margaret Jones, 105, arlunydd
- 27 Gorffennaf – Edna O'Brien, 93, awdures
- 31 Gorffennaf – Ismail Haniyeh, 61, arweinydd Hamas
Awst

- 2 Awst – Alun Carter, 59, chwaraewr rhyngwladol rygbi'r undeb[63]
- 9 Awst - Carl Bevan, 51, cerddor ac arlunydd
- 12 Awst - Maria Bianca Cita, 99, gwyddonydd
- 18 Awst - Alain Delon, 88, actor
- 22 Awst
- Dewi 'Pws' Morris, actor, 76[64]
- Delwyn Williams, 85, gwleidydd a chyfreithiwr
Medi

- 5 Medi - Rebecca Cheptegei, athletwraig, 33
- 9 Medi
- James Earl Jones, actor, 93
- Caterina Valente, actores a chantores, 93
- 10 Medi - Michaela DePrince, dawnsiwraig, 29
- 18 Medi - Salvatore Schillaci, pel-droediwr, 59
- 22 Medi – Brian Huggett, golffiwr, 87[65]
- 27 Medi – Fonesig Maggie Smith, actores, 89[66]
- 28 Medi – Kris Kristofferson, canwr ac actor, 88[67]
- 30 Medi - Ken Page, actor, cynhyrchydd a sgriptiwr, 70
Hydref

- 7 Hydref - Emilio Gabaglio, 87, gwleidydd ac undebwr llafur
- 10 Hydref
- Fleur Adcock, 90, bardd[68]
- Ethel Kennedy, 96, ymgyrchydd
- 12 Hydref - Alex Salmond, 69, gwleidydd, Prif Weinidog yr Alban
- 16 Hydref - Liam Payne, 31, canwr (One Direction)
- 17 Hydref
- Mitzi Gaynor, 93, actores a chantores
- Jeanne Socquet, 95, arlunydd
- 18 Hydref - Mahasen al-Khateeb, 31, arlunydd
- 29 Hydref - Teri Garr, 79, actores
Tachwedd

- 2 Tachwedd - Janey Godley, 63, digrifwraig
- 3 Tachwedd - Quincy Jones, 91, arweinydd corau, cyfansoddwr a chynhyrchydd recordiau
- 4 Tachwedd - Olivera Nikolova, 88, awdures
- 6 Tachwedd - Dorothy Allison, 75, llenores[69]
- 10 Tachwedd - Barbara Aland, 87, diwinydd
- 12 Tachwedd
- Joanne Chory, 69, botanegydd
- Timothy West, 90, actor[70]
- 15 Tachwedd - Yuriko, y Dywysoges Mikasa, 101
- 20 Tachwedd - John Prescott, 86, gwleidydd, Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig
- 24 Tachwedd - Barbara Taylor Bradford, 91, nofelydd[71]
- 25 Tachwedd - Eddie Stobart, 95, dyn busnes
- 28 Tachwedd - Janine Connes, 98, gwyddonydd
Rhagfyr


- 1 Rhagfyr - Terry Griffiths, 77, chwaraewr snwcer[72]
- 10 Rhagfyr - Madeleine Arbour, 101, arlunydd
- 15 Rhagfyr - Thelma Adams, 86, menyw fusnes a ffermwraig
- 26 Rhagfyr
- Manmohan Singh, 92, Prif Weinidog India
- Geoff Wheel, 73, chwaraewr rygbi
- 27 Rhagfyr - Olivia Hussey, 73, actores
- 29 Rhagfyr
- Gladys Afamado, 99, arlunydd a bardd
- Jimmy Carter, 100, 39ain Arlywydd yr Unol Daleithiau
Gwobrau Nobel
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.