Gwladwriaeth Islamaidd

From Wikipedia, the free encyclopedia

Gwladwriaeth Islamaidd

Cyfundrefn ymbarél derfysgol yw'r Wladwriaeth Islamaidd[9] (Arabeg: الدولة الإسلامية ad-Dawlah l-ʾIslāmiyyah) (Saesneg: Islamic State (IS)) a adnabyddir cynt fel Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant (Arabeg: الدولة الاسلامية في العراق والشام‎ اختصاراً: داعش Dawlat al-ʾIslāmiyya fi al-'Iraq wa-l-Sham), ISIS neu ISIL. Yn 2014 roedd ei haelodau'n weithgar yn Irac a Syria. Bwriad y grŵp a'i gynghreiriad yw sefydlu gwladwriaeth Islamaidd Sunni ffwndamentalaidd a fyddai'n ymestyn o'r Lefant i Gwlff Persia a gweddill y byd. Galwant eu hunain yn galiffad, ac maent yn hawlio awdurdod crefyddol dros pob Mwslim dros hyd a lled y byd[10] a cheisiant reoli'n wleidyddol gwledydd Mwslemaidd y byd,[11] gan gychwyn gydag Irac, Syria a thiriogaethau'r Lefant (yr Iorddonen, Israel, Palesteina, Libanus, Cyprus a rhan o dde Twrci.[12][13]

Ffeithiau sydyn Y Wladwriaeth Islamaiddالدولة الإسلامية (Arabeg)ad-Dawlah l-ʾIslāmiyyah, Llywodraeth ...
Y Wladwriaeth Islamaidd
الدولة الإسلامية (Arabeg)
ad-Dawlah l-ʾIslāmiyyah
Baner Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant
Motto: باقية وتتمدد (Arabeg)
"Bāqiyah wa-Tatamaddad" (trawslythreniad)
"Y gweddill sy'n cynyddu"
[1][2]
Y sefyllfa ar 24 Awst 2014
     Ardaloedd a reolir gan Y Wladwriaeth Islamaidd
     Ardaloedd a hawliwyd gan Y Wladwriaeth Islamaidd
     Gweddill Irac a Syria
Nodyn: diffeithwch anghyfannedd yw llawer o'r map.
Y sefyllfa ar 24 Awst 2014      Ardaloedd a reolir gan Y Wladwriaeth Islamaidd      Ardaloedd a hawliwyd gan Y Wladwriaeth Islamaidd      Gweddill Irac a Syria Nodyn: diffeithwch anghyfannedd yw llawer o'r map.
Y sefyllfa ar 24 Awst 2014

     Ardaloedd a reolir gan Y Wladwriaeth Islamaidd      Ardaloedd a hawliwyd gan Y Wladwriaeth Islamaidd      Gweddill Irac a Syria

Nodyn: diffeithwch anghyfannedd yw llawer o'r map.
PrifddinasAr-Raqqah, Syria[3][4]
35°57′N 39°1′E
Llywodraeth Califfiaeth
 -  Caliph Ibrahim[5][6]
Sefydliad
 -  Cyhoeddi sefydlu Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant 3 Ionawr 2014[7][8] 
 -  Cyhoeddi Califfiaeth 29 Mehefin 2014 
Rhanbarth amser Amser Safonol Arabia Amser +3)
Côd deialu +963 (Syria)
+964 (Iraq)
Cau

Grŵp "terfysgol"

Dynodwyd y grŵp yn derfysgol gan nifer o wledydd gan gynnwys: Unol Daleithiau America, y Deyrnas Gyfunol, Awstralia, Canada, Indonesia a Sawdi Arabia, ac fe'i disgrifiwyd gan y Cenhedloedd Unedig[14] a'r wasg yn y Gorllewin fel grŵp "terfysgol". Mynegodd y CU eu bod yn euog o "mass atrocities" ac yn euog o droseddau rhyfel.[15][16]

Irac

Mae'r grŵp wedi newid ei enw sawl tro; pan ffurfiwyd ef gyntaf yng ngwanwyn 2004 galwyd ef yn Jamāʻat al-Tawḥīd wa-al-Jihād, sef "Y Sefydliad dros Undduwiaeth a Jihad" (JTJ).[17] Fe'i sefydlwyd yn Irac ar 15 Hydref, 2006 dan yr enw Gwladwriaeth Islamaidd Irac.

Roedd y grŵp gwreiddiol yn cynnwys sawl grŵp Iracaidd, yn cynnwys Cyngor Shwra y Mujahideen, Al-Qaeda, Jeish al-Fatiheen, Jund al-Sahaba, Katbiyan Ansar Al-Tawhid wal Sunnah, Jeish al-Taiifa al-Mansoura, a.y.y.b., a mudiadau eraill o ffydd Sunni. Y bwriad oedd sefydlu califfiaeth yn ardaloedd Sunni Irac.

Pan oedd Rhyfel Irac ar ei anterth, hawliai bresenoldeb sylweddol yn nhaleithiau Iracaidd Al Anbar, Ninawa, Kirkuk, Salah ad Din, a rhannau o Babil, Diyala, a Baghdad. Hawliai Baqubah yn "brifddinas". Mae miloedd o bobl, yn sifiliaid ac yn aelodau o'r lluoedd diogelwch, wedi cael eu lladd gan y grŵp yn Irac.

Syria

Ers dechrau'r Rhyfel yn Syria, mae'r grŵp wedi sefydlu presenoldeb sylweddol yn nhaleithiau Syriaidd Ar-Raqqa, Idlib ac Aleppo. Ei brif gynghreiriad yn Syria yw Jabhat al-Nusra, y cryfaf o'r grwpiau jihad Salaffaidd sy'n ceisio dymchwel llywodraeth yr Arlywydd Bashar al-Assad.[18]

Ym mis Mehefin 2013, cyhoeddodd al-Nusra jihad yn erbyn Cyrdiaid gogledd Syria. Ar 5 Awst 2013, llofruddiodd rhyfelwyr al-Nusra dros 450 o bentrefwyr mewn gwaed oer, yn cynnwys 120 o blant, ym mhentref Cyrdaidd Tal Abyad.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.