iaith From Wikipedia, the free encyclopedia
Iaith Semitaidd yw'r Arabeg (Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value).), gan ddeillio o Arabeg Glasurol yn y 6g. Fel ieithoedd Semitaidd eraill (heblaw Malteg), ysgrifennir Arabeg o'r dde i'r chwith. Arabeg yw iaith y Coran, llyfr sanctaidd y Mwslimiaid. Caiff ei siarad ar draws Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hyd at Irac ac ynysoedd y Maldif a hi yw chweched iaith y byd yn nhermau nifer ei siaradwyr os ystyriwn hi fel un iaith yn hytrach na chasgliad o dafodieithoedd.[2]
Arabeg | ||
---|---|---|
Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value). al-ʻarabiyyah/ʻarabī | ||
al-ʿArabiyyah yn Arabeg ysgrifenedig (sgript Naskh) | ||
Ynganiad IPA | /al ʕarabijja/, /ʕarabiː/ | |
Siaredir yn | Gwledydd y Gynghrair Arabaidd, Israel, Iran, Twrci, Eritrea, Mali, Niger, Tsiad, Senegal, De Swdan, Ethiopia, cymunedau Arabeg yn y Byd Gorllewinol | |
Cyfanswm siaradwyr | 295 miliwn (2010)[1] | |
Teulu ieithyddol |
| |
System ysgrifennu | Yr wyddor Arabeg Breil Arabeg Yr wyddor Syrieg (Garshuni) Yr wyddor Hebraeg (Judaeo-Arabeg) | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Mae Arabeg safonol yn iaith swyddogol mewn 27 gwlad | |
Rheoleiddir gan | Nid oes rheoliad swyddogol | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | ar | |
ISO 639-2 | ara | |
ISO 639-3 | ara | |
Wylfa Ieithoedd | – | |
Heddiw, yr unig ffurf safonol o Arabeg yw Arabeg Modern Safonol a elwir weithiau'n Arabeg Lenyddol.[3]
Mae'r geiriau Cymraeg alcali, alcemeg, alcof, alcohol, algebra, candi, lemon, sebon a soffa yn dod o'r Arabeg.
Ysgrifennir yr wyddor Arabeg o'r dde i'r chwith. Rhennir y llythrennau yn ddau fath: y rhai sydd yn cysylltu ar y naill ochr a'r llall, a'r rhai sydd yn cysylltu â'r llythyren flaenorol yn unig. Yn y dosbarth cyntaf mae ffurf flaen, canol, olaf, ac annibynnol i bob llythyren; yn yr ail ddosbarth mae ffurf olaf ac annibynnol yn unig.
Mae ynganiad Arabeg yn amrywio o wlad i wlad ac o ardal i ardal, yn enwedig o ran llafariaid.
Dyma'r cytseiniaid a ddefnyddir mewn Arabeg safonol, gan ddefnyddio'r Gwyddor Seinegol Ryngwladol
Gwefusol | Deintiol | Llafnol-Deintiol | Ôl-orfannol/ Taflodol |
Felar | Tafodigol | Argegol | Glotol | |||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
di-bwyslais | pwysleisiol | |||||||||
Trwynol | m | n | ||||||||
Ffrwydrol | Di-lais | t̪ | tˤ | k | q | ʔ | ||||
Lleisiol | b | d̪ | dˤ | d͡ʒ | ||||||
Ffrithiol | Di-lais | f | θ | s̪ | sˤ | ʃ | x ~ χ | ħ | ||
Lleisiol | ð | z̪ | ðˤ | ɣ ~ ʁ | ʕ | ɦ | ||||
Rhotig | r | |||||||||
Dynesol | l | (ɫ) | j | w |
Trefn arferol y frawddeg Arabeg yw VSO (Berf - Goddrych - Gwrthrych), fel yn y Gymraeg.
Mae llawer o eiriau Arabeg a ieithoedd semitaidd eraill wedi eu ffurfio ar sail gwreiddyn semitaidd, tair cytsain fel arfer. Gall un gwraidd greu nifer fawr o eiriau cysylltiedig, er enghraifft gyda'r gwraidd k - t - b:
Mae cymaint o amrywiaeth rhwng gwahanol fathau o Arabeg fod rhai ieithyddion yn eu hystyried yn ieithoedd ar wahân. Er hynny, o ran yr iaith ysgrifenedig, defnyddir Arabeg Modern Safonol yn gyffredinol, ac Arabeg y Corân trwy'r byd i gyd.
Trawsgrifiad Arabeg yn yr wyddor Ladin.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.