Iaith Semitaidd yw'r Arabeg (العَرَبِيةُ), gan ddeillio o Arabeg Glasurol yn y 6g. Fel ieithoedd Semitaidd eraill (heblaw Malteg), ysgrifennir Arabeg o'r dde i'r chwith. Arabeg yw iaith y Coran, llyfr sanctaidd y Mwslimiaid. Caiff ei siarad ar draws Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hyd at Irac ac ynysoedd y Maldif a hi yw chweched iaith y byd yn nhermau nifer ei siaradwyr os ystyriwn hi fel un iaith yn hytrach na chasgliad o dafodieithoedd.[2]
Ysgrifennir yr wyddor Arabeg o'r dde i'r chwith. Rhennir y llythrennau yn ddau fath: y rhai sydd yn cysylltu ar y naill ochr a'r llall, a'r rhai sydd yn cysylltu â'r llythyren flaenorol yn unig. Yn y dosbarth cyntaf mae ffurf flaen, canol, olaf, ac annibynnol i bob llythyren; yn yr ail ddosbarth mae ffurf olaf ac annibynnol yn unig.
Mae ynganiad Arabeg yn amrywio o wlad i wlad ac o ardal i ardal, yn enwedig o ran llafariaid.
Trefn arferol y frawddeg Arabeg yw VSO (Berf - Goddrych - Gwrthrych), fel yn y Gymraeg.
Mae llawer o eiriau Arabeg a ieithoedd semitaidd eraill wedi eu ffurfio ar sail gwreiddyn semitaidd, tair cytsain fel arfer. Gall un gwraidd greu nifer fawr o eiriau cysylltiedig, er enghraifft gyda'r gwraidd k - t - b:
كَتَبْتُ katabtu 'Ysgrifenais'
كَتَّبْتُ kattabtu 'Gofynais i rywbeth gael ei ysgrifennu'
Mae cymaint o amrywiaeth rhwng gwahanol fathau o Arabeg fod rhai ieithyddion yn eu hystyried yn ieithoedd ar wahân. Er hynny, o ran yr iaith ysgrifenedig, defnyddir Arabeg Modern Safonol yn gyffredinol, ac Arabeg y Corân trwy'r byd i gyd.
Arabeg Hadhramaut (oddeutu 8 miliwn o siaradwyr) yn Hadhramaut ac ar wasgar.
Arabeg Iemen (oddeutu 15 miliwn o siaradwyr yn Iemen a de Sawdi Arabia). Mae'n debyg i Arabeg y Gwlff.
Arabeb Najd neu Bedawi (10 miliwn o siaradwyr). Yn ogystal â'r siaradwyr yn Sawdi Arabia, dyma iaith mwyafrif dinasyddion Qatar
Arabeg Hijaz (6 miliwn o siaradwyr), gorllewin Sawdi Arabia
Arabeg y Sahara, a siaradir yn rhannau o Algeria, Niger a Mali
Arabeg Baharna (600,000 o siaradwyr), ymysg y Shïa yn Bahrain a Qatif, a rhywfaint yn Oman. Mae'n wahanol i Arabeg y Gwlff mewn sawl ffordd.
Iddew-Arabeg, neu Qәltu. Wrth i Iddewon mudo i Israel, lleihaodd defnydd Iddew-Arabeg rhannau eraill o'r byd Arabeg ei iaith, ac mae bellach dan fygythiad.