Ymgyrch filwrol gan Israel yn ninas Rafah, yn ne Llain Gaza, yw ymgyrch ymosodol Rafah a lansiwyd ar 6 Mai 2024 fel rhan o oresgyniad y Llain yn ystod Rhyfel Gaza.
Tanciau'r IDF yng nghroesfan Rafah ar gychwyn yr ymgyrch ymosodol (7 Mai 2024). | |
Enghraifft o'r canlynol | ymosodiad milwrol |
---|---|
Rhan o | goresgyniad Llain Gaza gan Israel |
Lleoliad | Rafah |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyn yr ymosodiad, llochesodd oddeutu 1.4 miliwn o Balesteiniaid a ddadleolwyd yn Rafah, yn sgil gorchmynion Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) i wacáu Llain Gaza, brwydro rhwng Israel ac Hamas, a chyrchoedd awyr gan luoedd Israel ers Hydref 2023. Yn Chwefror 2024, cyhoeddodd Israel ei bwriad i oresgyn Rafah er mwyn bwrw rhyfelwyr Hamas allan o'r ddinas.[1] Yn nechrau Mai, wrth i drafodaethau am gadoediad ddod i ddim, dechreuodd Israel baratoi am ymosodiad a gorchmynnodd wacâd dwyrain Rafah.[2][3] Ar 6 Mai, derbyniodd Hamas delerau cadoediad a gynigwyd gan lywodraethau'r Aifft a Chatar,[4][5] ond gwrthodwyd y cytundeb yn unfrydol gan gabinet rhyfel Israel am ei fod yn "bell o orchmynion angenrheidiol Israel". Mynegodd llywodraeth Israel felly y byddai'r ymgyrch filwrol yn Rafah yn mynd yn ei blaen.[6][7][8][9][10] Cynllun cyntaf yr IDF oedd i lansio chwiliad chwim a thrylwyr gyda dwy adran o'r fyddin, ond datganodd llywodraeth Unol Daleithiau America y byddai ymosodiad mawr o'r fath yn croesi "llinell goch" ac yn peryglu cefnogaeth gweinyddiaeth yr Arlywydd Joe Biden i ymdrech ryfel Israel. Gorfodwyd i Israel felly leddfu'r ymgyrch arfaethedig, gyda'r nod o gipio'r ffin rhwng Llain Gaza a'r Aifft, i rwystro smyglwyr arfau, ac i ddibynnu ar gyrchoedd dargedig ar y ddinas yn hytrach nag ymosodiad diarbed.[11]
Wedi i Israel wrthod cadoediad, lansiodd yr IDF gyrchoedd awyr ar Rafah, a goresgynnwyd cyrion y ddinas gan luoedd Israelaidd, gan gipio a chau'r groesfan rhwng Gaza a'r Aifft.[4][12][13] Dechreuodd yr IDF symud i mewn i ardaloedd poblog y ddinas ar 14 Mai.[14] Cyhoeddodd Israel na fyddai'r ymgyrch yn dod i ben oni bai am ddeoliad Hamas neu ryddhad y gwystlon Israelaidd yn Gaza.[13] Ar 24 Mai, gorchmynnodd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol i Israel beidio â'i hymgyrch ymosodol yn ddi-oed,[15] dyfarniad a wrthodwyd gan Israel.
Gwaethygwyd y sefyllfa ddyngarol yn Rafah yn sylweddol o ganlyniad i ymosodiad Israel. Cafodd rhyw 950,000 o Balesteiniaid eu symud i ardaloedd a honnir eu bod yn anniogel ac yn brin o ddarpariaethau.[3][16] Lladdwyd bron 210 o Balesteiniaid ac anafwyd 280 yn ystod ymgyrch fomio Israel. Mae ysbytai wedi eu heffeithio gan gyrchoedd yr IDF a'r rhwystrau ar gyflenwadau.[17][18] Yn ogystal, mae'r ymgyrch ymosodol wedi achosi croesfannau Kerem Shalom a Rafah i gau dros dro, gan waethygu'r argyfwng dyngarol ar draws Gaza oll.[19]
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.