Karl Wallinger

cerddor pop a roc Cymreig yn ogystal â chyfansoddwr caneuon a chynhyrchydd (1957–2024) From Wikipedia, the free encyclopedia

Karl Wallinger

Cerddor, cyfansoddwr caneuon a chynhyrchydd recordiau o Gymru oedd Karl Edmond De Vere Wallinger (19 Hydref 1957 10 Mawrth 2024). Roedd e'n fwyaf adnabyddus am ei amser yn y bandiau World Party a The Waterboys.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Karl Wallinger
Thumb
GanwydKarl Edmond De Vere Wallinger 
19 Hydref 1957 
Prestatyn 
Bu farw10 Mawrth 2024 
Hastings 
Man preswylHastings 
Dinasyddiaeth Cymru
Alma mater
  • Ysgol Charterhouse 
Galwedigaethcynhyrchydd recordiau, cyhoeddwr cerddoriaeth, canwr, cerddor, cyfansoddwr, offerynnau amrywiol 
Arddullcerddoriaeth roc, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth y byd 
Prif ddylanwadBob Dylan, Love, The Beatles, The Beach Boys 
Cau

Wallinger oedd ysgrifennwr y caneuon "Ship of Fools" a "She's the One", a gafodd sylw yn ddiweddarach gan Robbie Williams.[1]

Cafodd Wallinger ei eni ym Mhrestatyn. Cafodd ei addysg yn yr ysgol Charterhouse yn Surrey).[2] [3]

Dechreuodd gyrfa gerddorol Wallinger ym Mhrestatyn yn 1977 fel chwaraewr allweddellau gyda'r bandiau Pax a Quasimodo gyda Dave Sharp a Nigel Twist (a aeth yn eu blaen i fod yn aelodau o The Alarm). Wedyn daeth yn gyfarwyddwr cerdd y Rocky Horror Show.

Ymunodd Wallinger i fand Mike Scott y Waterboys fel chwaraewr bysellfwrdd ym 1983, Ysgrifennodd Wallinger y gerddoriaeth wreiddiol ar gyfer "Don't Bang the Drum" (trac agoriadol yr albwm This Is the Sea).

Roedd Wallinger yn briod â'r cerflunydd Suzie Zamit. Bu iddynt ddau o blant.[3] Datgelodd Wallinger ei fod wedi dioddef ymlediad ar yr ymennydd ym mis Chwefror 2001.[4] [5] Er bod yr aniwrysm yn golygu bod yn rhaid iddo atal ei holl waith am bron i bum mlynedd, fe ailddechreuodd ar daith yn 2006.

Bu farw Wallinger ar 10 Mawrth 2024, yn 66 oed [1]

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.