teyrn ers 2022 (ganed 1948) From Wikipedia, the free encyclopedia
Brenin y Deyrnas Unedig a 14 teyrnas arall y Gymanwlad yw Charles III (Charles Philip Arthur George; ganwyd 14 Tachwedd 1948).[1][2] Roedd wedi bod yn etifedd eglur am y mwyafrif helaeth o'i fywyd pan ddaeth yn frenin yn 73 oed yn 2022, wedi marwolaeth ei fam Elisabeth II.
Charles III | |||||
---|---|---|---|---|---|
Pennaeth y Gymanwlad | |||||
Charles III yn 2023 | |||||
Brenin y Deyrnas Unedig ac eraill teyrnasoedd y Gymanwlad | |||||
8 Medi 2022 – presennol | |||||
Coronwyd | 6 Mai 2023 | ||||
Rhagflaenydd | Elisabeth II | ||||
Etifedd | William, Tywysog Cymru | ||||
Ganwyd | Y Tywysog Charles o Caeredin 14 Tachwedd 1948 Palas Buckingham, Llundain, Lloegr | ||||
Priod |
| ||||
Plant | |||||
| |||||
Teulu | Windsor | ||||
Tad | Y Tywysog Philip, Dug Caeredin | ||||
Mam | Elisabeth II | ||||
Crefydd | Protestannaidd |
Cafodd ei eni ym Mhalas Buckingham, gyda'r teitl Tywysog Charles o Gaeredin. Fe'i wnaed yn Dywysog Cymru yn 1958.
Gelwir ef yng Nghymru yn aml yn Carlo, ar ôl cân enwog Dafydd Iwan o'r un enw, a oedd yn boblogaidd iawn yng Nghymru adeg ei arwisgo yn 1969.
Daeth ei arwisgo yn fater gwleidyddol a dadleuol iawn. Roedd twf Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn wrth drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969. Roedd y genhedlaeth ifanc o genedlaetholwyr yn gweld hyn yn sarhad ar Gymru ac ar yr iaith.[3]
Bu George Thomas yn ddigon cyfrwys i gael y tywysog yn fyfyriwr yng ngholeg Aberystwyth am dri mis i ddysgu'r Gymraeg. Ond pan ymwelodd Charles ag Eisteddfod yr Urdd a gwneud ei araith yn Gymraeg protestiodd nifer o'r bobl ifanc a cherdded allan. Cynhaliwyd rali enfawr yn erbyn yr arwisgo yng Nghilmeri.
Cafodd Charles a'i ail wraig Camilla eu seremoni i goroni ar 6 Mai 2023 yn Llundain.
Yn 2024, ar ôl arhosiad byr yn yr ysbyty, cyhoeddwyd bod gan Charles ganser. Dwedodd y Palas ei fod "yn parhau'n hollol bositif ynghylch ei driniaeth ac yn edrych ymlaen at ddychwelyd i ddyletswyddau cyhoeddus llawn cyn gynted â phosib".[4]
Ganed Charles Philip Arthur George ym Mhalas Buckingham, yn Ninas Westminster, Llundain, ar 14 Tachwedd 1948, yn blentyn hynaf i'r Dywysoges Elisabeth, Duges Caeredin (yn ddiweddarach y Frenhines Elisabeth II) a Philip, Dug Caeredin. Cafodd ei fedyddio ar 15 Rhagfyr 1948, yn bedair wythnos oed, yn Ystafell Gerdd Palas Buckingham gan Geoffrey Fisher, Archesgob Caergaint. Hefyd yn Rhagfyr 1948 ym Mhalas Buckingham, cafodd y baban Charles ei enwaedu gan y Dr Jacob Snowman.[5]
Bu farw ei daid, y Brenin Siôr VI, ar 6 Chwefror 1952 ac esgynnodd Elisabeth II i'r orsedd. Daeth Charles felly yn etifedd eglur y goron. Yn ôl siarter a ddyddia yn ôl i Edward III, Brenin Lloegr, ym 1337, derbyniodd Charles - gan mai ef oedd mab hynaf y teyrn - deitl traddodiadol Dug Cernyw, ac ym mhendefigaeth yr Alban, teitlau Dug Rothesay, Iarll Carrick, Barwn Renfrew, Arglwydd yr Ynysoedd, a Thywysog a Stiward Mawr yr Alban. Ar 2 Mehefin 1953, coronwyd ei fam yn Abaty Westminster.
Cafodd Charles ei addysgu yn ysgol baratoi Hill House yn Llundain, Cheam yn Hampshire, a Gordonstoun ym Moray. Fe'i derbyniwyd i Goleg y Drindod, Caergrawnt, ym 1967 ac enillodd ei radd baglor yn y celfyddydau ym 1971. Yn ystod ei ail flwyddyn yn y brifysgol, treuliodd dymor yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i astudio hanes Cymru a'r iaith Gymraeg.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.