Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Daeth swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fodolaeth ym mis Hydref 1964, a Jim Griffiths, Aelod Seneddol Llanelli oedd y cyntaf i'w llenwi. Penderfynodd llywodraeth San Steffan alluogi'r Ysgrifennydd i reoli gwariant ar ambell wasanaeth cyhoeddus a fu gynt o dan reolaeth adrannau eraill. Sefydlwyd y Swyddfa Gymreig ym mis Ebrill 1965.
Enghraifft o'r canlynol | swydd |
---|---|
Math | Ysgrifennydd Gwladol |
Rhan o | Cabinet y Deyrnas Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 18 Hydref 1964 |
Deiliad presennol | David T. C. Davies |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.walesoffice.gov.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ystod y 1980au a'r 1990au llywodraeth Geidwadol oedd mewn grym yn San Steffan. O 1987 tan 1997 roedd yr ysgrifenyddion i gyd yn cynrychioli seddau o tu allan i Gymru oherwydd diffyg cynrychiolaeth y Toriaid yng Nghymru - 1987 - 8 aelod, ac 1992 - 6 aelod.
Yn dilyn sefydliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, daeth newid mawr yn rôl yr Ysgrifennydd Gwladol, gan fod y rhan fwyaf o'i swyddogaethau bellach yn nwylo'r corff newydd. Diddymwyd y Swyddfa Gymreig, ond cadwyd swydd yr ysgrifennydd gwladol, gan ei wneud yn bennaeth ar swyddfa newydd, Swyddfa Cymru.
O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru (1998) gall Ysgrifennydd Gwladol Cymru fynychu sesiynau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a siarad ynddynt yn ogystal â chael arian o'r Senedd. Fodd bynnag, mae'n gorfod trosglwyddo hynny i'r Cynlliad Cenedlaethol, heblaw am yr arian sydd yn angenrheidiol i redeg ei swyddfa ei hun. Mae'n rhaid iddo ymgynghori â'r Cynulliad dros raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth hefyd.
Cafwyd 18 Ysgrifennydd Gwladol, gyda 3 ohonynt (David Hunt, Paul Murphy a Peter Hain) wedi eu penodi i'r swydd ar fwy nag un achlysur. Mae pedwar ohonynt, sef yr Arglwydd Morris o Aberafan (John Morris), Nicholas Edwards, Barwn Crughywel, Ron Davies, a’r Barwn Cledwyn o Benrhos (Cledwyn Hughes) wedi traddodi darlith flynyddol Archif Wleidyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Peter Thomas, y Ceidwadwr cyntaf yn y swydd, oedd yr Ysgrifennydd Gwladol cyntaf i gynrychioli sedd y tu allan i Gymru.[1]
Mae nifer o Ysgrifenyddion Gwladol hefyd wedi dal swyddi dylanwadol eraill: daeth Is-iarll Tonypandy (George Thomas) yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, daeth William Hague yn Arweinydd y Ceidwadwyr a daeth Alun Michael yn Brif Ysgrifennydd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enw | Tymor yn y swydd | Plaid wleidyddol |
Gwlad enedigol |
Etholaeth Gymreig | Prif Weinidog | ||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Jim Griffiths | 18 Hydref 1964 | 5 Ebrill 1966 | Llafur | Cymru | Llanelli | Harold Wilson | |||
Cledwyn Hughes | 5 Ebrill 1966 | 5 Ebrill 1968 | Llafur | Cymru | Ynys Môn | ||||
George Thomas | 5 Ebrill 1968 | 20 Mehefin 1970 | Llafur | Cymru | Gorllewin Caerdydd | ||||
Peter Thomas | 20 Mehefin 1970 | 5 Mawrth 1974 | Ceidwadwyr | Cymru | Na[2] | Edward Heath | |||
John Morris | 5 Mawrth 1974 | 5 Mai 1979 | Llafur | Cymru | Aberafon | Harold Wilson | |||
James Callaghan | |||||||||
Nicholas Edwards | 5 Mai 1979 | 13 Mehefin 1987 | Ceidwadwyr | Lloegr | Sir Benfro | Margaret Thatcher | |||
Peter Walker | 13 Mehefin 1987 | 4 Mai 1990 | Ceidwadwyr | Lloegr | Na | ||||
David Hunt | 4 Mai 1990 | 27 Mai 1993 | Ceidwadwyr | Cymru | Na | John Major | |||
John Redwood | 27 Mai 1993 | 26 Mehefin 1995[3] | Ceidwadwyr | Lloegr | Na | ||||
David Hunt (acting[3]) |
26 Mehefin 1995 | 5 Gorffennaf 1995 | Ceidwadwyr | Cymru | Na | ||||
William Hague | 5 Gorffennaf 1995 | 3 Mai 1997 | Ceidwadwyr | Lloegr | Na | ||||
Ron Davies | 3 Mai 1997 | 27 Hydref 1998[4] | Llafur | Cymru | Caerffili | Tony Blair | |||
Alun Michael | 27 Hydref 1998 | 28 Gorffennaf 1999[5] | Llafur | Cymru | De Caerdydd a Phenarth | ||||
Paul Murphy | 28 Gorffennaf 1999 | 24 Hydref 2002 | Llafur | Cymru | Torfaen | ||||
Peter Hain | 24 Hydref 2002 | 24 Ionawr 2008 | Llafur | Cenia | Castell-nedd | ||||
Gordon Brown | |||||||||
Paul Murphy | 24 Ionawr 2008 | 5 Mehefin 2009 | Llafur | Cymru | Torfaen | ||||
Peter Hain | 5 Mehefin 2009 | 11 Mai 2010 | Llafur | Cenia | Castell-nedd | ||||
Cheryl Gillan | 11 Mai 2010 | 4 Medi 2012 | Ceidwadwyr | Cymru | Na | David Cameron (Clymblaid) | |||
David Jones | 4 Medi 2012 | 14 Gorffennaf 2014 | Ceidwadwyr | Lloegr | Gorllewin Clwyd | ||||
Stephen Crabb | 15 Gorffennaf 2014 | 19 Mawrth 2016 | Ceidwadwyr | Yr Alban | Preseli Penfro | ||||
David Cameron (Ail gabinet) | |||||||||
Alun Cairns | 19 Mawrth 2016 | 6 Tachwedd 2019[6] | Ceidwadwyr | Cymru | Bro Morgannwg | ||||
Theresa May | |||||||||
Boris Johnson Liz Truss | |||||||||
Simon Hart | 16 Rhagfyr 2019 | 6 Gorffennaf 2022 | Ceidwadwyr | Cymru | Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro | ||||
Syr Robert Buckland | 7 Gorffennaf 2022 | 25 Hydref 2022 | Ceidwadwyr | Cymru | De Swindon | ||||
David T. C. Davies | 25 Hydref 2022 | 5 Gorffennaf 2024 | Ceidwadwyr | Cymru | Mynwy | Rishi Sunak | |||
Jo Stevens | 5 Gorffennaf 2024 | Deiliad | Llafur | Cymru | Canol Caerdydd | Keir Starmer |
1 AS yn flaenorol dros Sir Benfro, ond yn cynrychioli etholaeth yn Lloegr tra yn y swydd.
2 AS yn flaenorol dros Gonwy, ond yn cynrychioli etholaeth yn Lloegr tra yn y swydd.
3 Ymddiswyddodd Redwood i sefyll yn etholiad arweinydd y Ceidwadwyr yn 1995. Yn ystod yr etholiad, gweithredodd Hunt fel y Ysgrifennydd Gwladol.
4 Ymddiswyddodd ar ôl "moment o wallgofrwydd" ar Clapham Common.
5 Yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998, daliodd y swydd fel Prif Weinidog cyntaf cymru o 12 Mai 1999.
6 Ymddiswyddodd yn dilyn ffrae dros yr hyn oedd yn ei wybod am ran cyn-gydweithiwr mewn dymchwel achos llys.
Mae dyfodol y swydd wedi cael ei gwestiynu nifer o weithiau ers dyfodiad datganoli. Galwyd am ddileu’r swydd gan 'Uned y Cyfansoddiad' yn 2001, a gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, cyn Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn 2011. Yn ei ddarlith yn 2013, galwodd yr Arglwyd Morris am ddileu’r swydd gan fod y rhan fwyaf o’r dyletswyddau wedi cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad gan ddweud. Dywedodd:
“ | Y pumed olwyn yn y goets seneddol ydyw bodolaeth Ysgrifennydd Gwladol yn yr Alban a Chymru. Mae dau is-weinidog yn Swyddfa Cymru, un yn Nhŷ’r Cyffredin ac un newydd sbon am y tro cyntaf erioed yn Nhŷ’r Arglwyddi. Beth yn y byd y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd, Duw a ŵyr!” | ” |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.