Remove ads
Trosglwyddo pŵer deddfwriaethol i awdurdodau Cymru oddi wrth lywodraeth y DU From Wikipedia, the free encyclopedia
Datganoli Cymru yw’r broses o drosglwyddo pŵer deddfwriaethol ar gyfer hunanlywodraeth i Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.[1]
Gorchfygwyd Cymru gan Edward I, brenin Lloegr yn ystod y 13eg ganrif, a gyflwynodd yr ordinhad brenhinol Statud Rhuddlan yn 1284, gan achosi i Gymru golli ei hannibyniaeth "de facto" a ffurfio'r sail gyfansoddiadol ar ei chyfer fel tywysogaeth o fewn "Teyrnas Lloegr".[2]
Roedd Deddfau 1535 a 1542 yn cymhwyso cyfraith Lloegr i Gymru ac yn uno’r Dywysogaeth a’r Gororau a ddaeth i ben i bob pwrpas ac a ymgorfforodd Gymru yn Lloegr. [3][4] Diffiniodd Deddf Cymru a Berwick 1746 "Lloegr" i gynnwys Cymru hyd at Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1967 a wahanodd Cymru oddi wrth Loegr o fewn gwladwriaeth sofran y Deyrnas Unedig.[5]
Dechreuodd mudiadau gwleidyddol a oedd yn cefnogi hunanreolaeth Gymreig ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ochr yn ochr â thwf mewn cenedlaetholdeb Cymreig. [6][7]
Dechreuwyd datganoli rhai cyfrifoldebau gweinyddol yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, yn ogystal â phasio deddfau penodol i Gymru. Ers yr Ail Ryfel Byd, mae gwahanol fudiadau a chynigion wedi hyrwyddo modelau gwahanol o ddatganoli yng Nghymru. Gwrthodwyd refferendwm ar ddatganoli yn 1979 gan gyfran fawr o bleidleiswyr, ond cynyddodd y gefnogaeth i ddatganoli dros y degawdau dilynol.
Yn 1997, bu refferendwm ar ddatganoli o drwch blewyn o blaid datganoli. Pasiwyd deddfau i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoi pwerau is-ddeddfwriaethol iddo dros feysydd megis amaethyddiaeth, addysg a thai. Yn ystod y trydydd refferendwm yn 2011, roedd pleidleiswyr yn cefnogi pwerau deddfu sylfaenol llawn i’r Cynulliad Cenedlaethol dros feysydd llywodraethu penodol.[7] Ar ôl Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, ailenwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn "Senedd Cymru" ("Welsh Parliament" yn Saesneg) (y cyfeirir ati gyda'i gilydd hefyd fel y "Senedd"), a ystyriwyd fel adlewyrchiad gwell o bwerau deddfwriaethol ehangach y corff.[7] Mae Plaid Cymru wedi disgrifio datganoli fel cam tuag at annibyniaeth lawn i Gymru.[8]
Fe wnaeth Edward I, brenin Lloegr ymosod ar Gymru yn 1276-77 yn dilyn dadlau gyda Tywysog Cymru, Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf)).[9] Ar ôl lladd Llywelyn yn Cilmeri yn 1282,[10] fe wnaeth Edward derfyn annibyniaeth Cymru a chyflwyno Statud Rhuddlan yn 1284. Newid cyfansoddiadol oedd y statud a achosodd i Gymru golli ei hannibyniaeth "de facto" a ffurfio Tywysogaeth Cymru o fewn "Teyrnas Lloegr".[11][9][12]
Mae'r enw'n cyfeirio at Gastell Rhuddlan yn Sir Ddinbych, lle cafodd ei gyhoeddi am y tro cyntaf ar 19 Mawrth 1284.[13] Cadarnhaodd y statud anecsiad Cymru, a chyflwynodd gyfraith Lloegr i Gymru ar gyfer achosion troseddol, tra bod achosion sifil yn dal i gael eu trin o dan gyfreithiau Cymreig Hywel Dda.[14][9]
Yn 1400 cyhoeddwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru ac arweiniodd wrthryfel Cymreig cenedlaethol llawn yn erbyn rheolaeth Lloegr. Sefydlodd Senedd ym Machynlleth yn 1404, gan amlygu diffyg cynrychiolaeth Gymreig yng nghynghorau a seneddau brenin Lloegr. Roedd sifiliaid Cymreig yn gobeithio y gallai Cymru barhau i fod ar wahân yn wleidyddol ac yn gyfreithiol unwaith eto, a allai fod wedi dylanwadu ar gynlluniau annibyniaeth Gymreig Glyndŵr yn ogystal â phresenoldeb Cymreig yn y Cyngor Cysondeb yn 1417, er bod cynrychiolwyr Seisnig yn gwadu cenedligrwydd Cymreig yn y cyngor. Arweiniodd adwaith y Saeson yn erbyn uchelgais y Cymry am genedligrwydd at atal hawliau’r Cymry trwy’r Cyfreithiau Cosb yn erbyn Cymru yn 1402.[15] Bu'n 150 mlynedd arall yn dilyn y gwrthryfel cyn i’r Cymry gael bod yn amlwg yn y gymdeithas eto. Ar y llaw arall, roedd y gwrthryfel wedi ysbrydoli cenedlaetholdeb ar draws pob dosbarth cymdeithasol ac mewn termau modern disgrifir Owain Glyn Dŵr fel "tad cenedlaetholdeb Cymreig".[16]
Ffurfiodd Edward IV o Loegr Gyngor Cymru a'r Gororau yn 1471 i'w fab reoli'r dywysogaeth Gymreig.[17] Yn dilyn gorchfygiad Richard III mewn brwydr, parhaodd Brenin Cymreig Lloegr Harri VII i ddefnyddio Cyngor ac fe'i defnyddiwyd yn bennaf at ddibenion barnwrol.[18]
Yn ystod cyfnod y cyngor, cyflwynodd Harri VIII brenin Lloegr, Ddeddfau Cyfreithiau Cymru 1535-1542 drwy senedd Lloegr, gan integreiddio Cymru a Lloegr yn gyfreithiol. Diddymodd hyn system gyfreithiol Gymreig Hywel Dda, ac achosodd i'r Gymraeg golli unrhyw rôl neu statws swyddogol. Roedd y deddfau hefyd yn diffinio ffin Cymru-Lloegr am y tro cyntaf, a gallai aelodau a oedd yn cynrychioli etholaethau yng Nghymru gael eu hethol i Senedd Lloegr.[19] Unwyd y Mers a Thywysogaeth Cymru, gan ddod â’r ddau i ben.[20][21][22]
Diddymwyd cyngor Cymru a'r Mers yn 1641 gan Senedd Lloegr. Yn 1660 ailgyfansoddwyd y cyngor ond heb y pwysigrwydd a gafodd dan deyrnasiad Harri VII. Diddymwyd y cyngor yn 1689 ar ol i William III guro James II i ddod yn frenin Lloegr.[23][24]
Tua chanrif yn ddiweddarach ac yn ôl sylwebaeth Blackstone, pasiwyd Deddf Cymru a Berwick 1746, gan ddatgan "where England only is mentioned in any act of parliament, the same notwithstanding hath and shall be deemed to comprehend the dominion of Wales and town of Berwick upon Tweed", sy'n golygu y byddai Lloegr o hyn ymlaen yn cael ei ddefnyddio fel term i ddisgrifio Cymru, Lloegr a thref Berwick.[25]
Yn 1811, ffurfiwyd enwad y Methodistiaid Calfinaidd ac bu'n rhaid i'r clerigwr Thomas Charles dderbyn fod annibyniaeth yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Lloegr yn anochel. Y flwyddyn honno felly; ordeiniodd Thomas Charles 22 o ddynion yng Nghymru i'r weinidogaeth. Er na ddefnyddiwyd y term am flynyddoedd wedyn; roedd y Methodistiaid Calfinaidd hyn yn anghydffurfwyr o 1811 ymlaen.[26]
Deddf Cau ar y Sul (Cymru) 1881 oedd y ddeddfwriaeth gyntaf i gydnabod bod gan Gymru gymeriad wleidyddol a chyfreithiol ar wahân i Loegr.[27] Ar y pryd, roedd mwyafrif o bobl Cymru yn perthyn i gapeli anghydffurfwyr er bod gan aelodau o Eglwys Loegr breintiau cyfreithiol a chymdeithasol. Felly dathlwyd Deddf Cau ar y Sul yng Nghymru fel cam arwyddocaol tuag at sefydlu statws cyfartal i’r capeli anghydffurfiol a datgysylltu’r eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Mae'r hanesydd a chyn-gynhyrchydd BBC Cymru John Trefor yn awgrymu bod y weithred "yn fuddugoliaeth, nid yn unig i'r capeli a'r cynghreiriau dirwest, ond i hunaniaeth Gymreig. Mae’n mynd ymlaen i ddweud, “Roedd yna ymdeimlad y gallai pethau gael eu gwneud yn wahanol yma. Daeth deddfau addysg a mynwentydd Cymru yn unig yn fuan wedyn, ac ar lawer cyfrif sefydlodd yr egwyddor y mae datganoli a’r Cynulliad Cenedlaethol yn seiliedig arni.”[28]
Roedd David Lloyd George, MP Caernarfon ar y pryd, yn benderfynol dros ddatganoli i Gymru yn gynnar yn ei yrfa, gan ddechrau gyda’r Eglwys.[29] Dywedodd Lloyd George yn 1890; "I am deeply impressed with the fact that Wales has wants and inspirations of her own which have too long been ignored, but which must no longer be neglected. First and foremost amongst these stands the cause of religious liberty and equality in Wales. If returned to Parliament by you, it shall be my earnest endeavour to labour for the triumph of this great cause. I believe in a liberal extension of the principle of decentralisation."[30]
Yn 1895, mewn Mesur Eglwys yng Nghymru a fu’n aflwyddiannus yn y pen draw, ychwanegodd Lloyd George ddiwygiad er mwyn ceisio creu rhyw fath o "Reolaeth cartref" ("Home Rule") i Gymru, sef cyngor cenedlaethol ar gyfer penodi comisiynwyr Eglwysi Cymru.[31][32][33] Pasiwyd y Ddeddf Eglwys Gymreig 1914 gan roi rhyddid i’r Eglwys yng Nghymru i lywodraethu ei materion ei hun. Ar ôl cael ei hatal dros dro am gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth y Ddeddf i rym yn 1920.[34]
Yn 1822, sefydlwyd Coleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.[35] Dros ugain mlynedd yn ddiweddarach, gosodwyd carreg sylfaen 'Athrofa Gymreig Llanymddyfri' yn 1849. Yno, fe alwodd y parchedig Joshua Hughes am brifysgol genedlaethol lawn i Gymru, "Rhaid i ni gael prifysgol yng Nghymru, ac ni allwn fod yn llonydd tra fyddo ein gwlad yn yr iselder ag y mae ynddo oblegid diffygaddysgiaeth".[36] Erbyn 1852 a 1865 roedd Coleg Dewi Sant yn cymeradwyo graddau. Yn 1872 agorwyd Coleg Prifysgol Cymru (Aberystwyth); yn 1883 dechreuwyd gwaith Coleg De Cymru (Caerdydd); ac yn 1884 Coleg Gogledd Cymru (Bangor). Yn y pen draw, ffurfiwyd Prifysgol Cymru yn 1893.[37]
Yn 1896, dechreuodd Addysg yng Nghymru ddod yn wahanol pan ffurfiwyd y Bwrdd Canol Cymraeg a oedd yn arolygu ysgolion gramadeg Cymru a daethpwyd â Deddf Addysg Ganolraddol Cymru 1889 i “wneud darpariaeth bellach ar gyfer addysg ganolraddol a thechnegol trigolion Cymru a sir Fynwy." Gwnaeth hyn y bwrdd yn gyfrifol am arolygu ysgolion uwchradd.[38][39] Yn 1907, ffurfiwyd adran Gymraeg y Bwrdd Addysg ac yn yr un flwyddyn, sefydlwyd Arolygiaeth Gymreig ar gyfer arolygu ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru.[40]
Yn 1870, ffurfiwyd y "Home Government Association" yn Iwerddon gan Isaac Butt gan ennill dros 50 o seddi yn etholiad cyffredinol 1874.[41] Mewn ymateb i'r mudiad ymreolaeth yn Iwerddon, dywedodd y prif weinidog, William Gladstone mewn araith yn Aberdeen yn 1871 fod gan yr Alban a Chymru yr hawl i geisio am home rule hefyd, "I protest on behalf of Wales that they are entitled to Home Rule there."[42] Mewn ymateb i'r galw am "ymreolaeth cartref", cynigiodd y prif weinidog rhyddfrydol, William Gladstone, ddau fesur ar ymreolaeth i Iwerddon yn 1886 a 1893, a methodd y ddau.[43]
Yn 1876, galwodd Michael D. Jones am Senedd i Gymru ym mhapur 'Y Ddraig Goch', "Mae arnon fel cenedl eisiau mudiad i gynhyrfu'r wlad o Gaergybi i Gaerdydd i waeddi am Senedd Gymreig yn Aberyswyth".[44] Ym mhapur Y Celt yn 1884 cynigodd Michael y dylid dechrau mudiad a phlaid wleidyddol Gymreig a fyddai'n sefyll dros ymreolaeth (home rule).[45]
Dywed y bardd Gwenallt fod y llyfr 'Hanes Louis Kossuth: Llywydd Hwngari' yn gyfrifol am drosi Michael D. Jones a Robert Jones Derfel tuag at genedlaetholdeb.[46] Soniodd Michael ei hun am ddylawad Kossuth a chwyldrodau 1848 ar genhedloedd; "bydenwog Kossuth fel seren oleu yn ffurfafen Ewrop wedi tanio llawer enaid a'r atbrawiaeth anfarwol o "hawl pob cenedl i lywodraethu ei hunan" a rhwng dylanwadau chwyldroadau mawrion 1848, ac addysg Kossuth, nid yw cenhedloedd goresgynedig Ewrop wedi ymdawelu hyd heddyw, ond edrychant yn obeithiol yn mlaen at jiwbili pobloedd a chenhedloedd gorthrymedig."[47]
Yn y Traethodydd a gyhoeddwyd gan Thomas Gee a'i fab yn 1858, mae'n ymddengys nad oedd llawer o obaith gan y golygyddion am Senedd i Gymru, "Nid oes ond gobaith gwan y gwelir genym Senedd Gymreig mwyach", ''nid yw yn debyg y grandewid ar ein cais ni, ac y trosglwyddid yr hen hawliau a'r breintiau yn ol wedi i ni fod yn amddifad ohonynt am gynifer o ganrifoedd."[48]
Yn 1886, yr un flwyddyn ag y cynigiwyd y mesur cyntaf ar gyfer Iwerddon, sefydlwyd mudiad Cymru Fydd i hybu achos ymreolaeth i Gymru.[49] Dywed ffynhonnell arall y sefydlwyd Cymru Fydd flwyddyn yn hwyarch gan Tom Ellis. Prif amcan y mudiad oedd sefydlu corff deddfu cenedlaethol dros Gymru (ymreolaeth, ond ni awgrymwyd annibyniaeth) ac hefyd er mwyn sicrhau aelodau seneddol a fyddai'n cynrychioli Cymru'n drwyadl. Sefydlwyd Cyngor Cenedlaethol Cymru i gynrychioli'r blaid Rhyddfrydol yr un flwyddyn. Lawnsiwyd gylchgrawn o'r un enw yn 1888 o Ddolgellau; yn agos i le bu Tom Ellis yn byw.[50]
Roedd Lloyd George yn un o brif arweinwyr Cymru Fydd a oedd yn fudiad a grëwyd gyda'r nod o sefydlu Llywodraeth Gymreig[51] a "hunaniaeth Gymreig gryfach".[52] Fel y cyfryw roedd Lloyd George yn cael ei weld fel ffigwr radical yng ngwleidyddiaeth Prydain ac roedd yn gysylltiedig ag ail-ddeffro cenedlaetholdeb a hunaniaeth Gymreig, gan ddweud yn 1880, "Onid yw'n hen bryd i Gymru gael y pwerau i reoli ei materion ei hun".[53][54] Mae'r hanesydd Emyr Price wedi cyfeirio ato fel "pensaer cyntaf datganoli Cymreig a'i eiriolwr enwocaf" yn ogystal ag "eiriolwr arloesol senedd bwerus i'r Cymry".[55] Sefydlwyd cymdeithasau cyntaf Cymru Fydd yn Lerpwl a Llundain yn 1887 ac yn y gaeaf gaeaf 1886-7, sefydlwyd ffederasiynau rhyddfrydol Gogledd a De Cymru.[56]
Bu Lloyd George hefyd yn arbennig o weithgar wrth geisio sefydlu Plaid Genedlaethol Gymreig ar wahân a oedd yn seiliedig ar Blaid Seneddol Iwerddon Charles Stewart Parnell a gweithiodd hefyd i uno Ffederasiwn Rhyddfrydol Gogledd a De Cymru â Chymru Fydd i ffurfio Ffederasiwn Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymreig.[57] Yng nghyfarfod y Ffederasiwn Gogledd yn 1886 trafodwyd lywodraeth genedlaethol i Gymru ac yn 1889, methodd cynnig dros bolisi sefydlu 'Welsh National League'. Serch hynny, yn 1890 cynigodd Lloyd George bolisi o blaid ymreolaeth gartref yng nghyfarfod Ffederasiwn y De. Mewn nodyn bywgraffygol yn 1890, disgrifiodd ei hun fel "Welsh Nationalist, supporting Home Rule, temperance, disestablishment and other items in the programme of the advanced Liberals." Yn 1895, cynigodd prif weinidog Asquith ddiwygiad i gyflwyno "Welsh National Council' i reoli arian yr eglwys mewn bil ar yr eglwys yng Nghymru er mwyn ceisio ennill cefnogaeth aelodau Cymreig. Cyhoeddodd Lloyd-George hyn cyn i'r diwygiad gael ei chygoeddi'n sywddogol ac fe'i tynnwyd dynnu'n ôl ar ôl anghytuno ymysg aelodau Cymreig.[58]
Chwalodd mudiad Cymru Fydd yn 1896 ynghanol ymryson personol a rhwygiadau rhwng cynrychiolwyr Rhyddfrydol megis David Alfred Thomas.[49][59] Yn 1898 fe llwyddodd David Lloyd George i ffurfio Cyngor Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymru, sefydliad ymbarél llac yn cwmpasu'r ddau ffederasiwn.[60]
Er bod y syniad o “ymreolaeth yn gyffredinol” (home rule all round) wedi bodoli ers yr 1830au, daeth y syniad yn fwy poblogaidd yn 1910 yn ystod cynhadledd gyfansoddiadol ac ar drothwy rhyfel Gwyddelig yn ystod 1913-14.[61] Roedd y gefnogaeth i ymreolaeth i Gymru a’r Alban ymhlith y mwyafrif o bleidiau gwleidyddol ar ei gryfaf yn 1918 yn dilyn annibyniaeth gwledydd Ewropeaidd eraill ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, a Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon, ysgrifennodd Dr Davies.[62] Er bod Cymru Fydd wedi dymchwel, roedd ymreolaeth yn dal i fod ar yr agenda, gyda’r rhyddfrydwr Joseph Chamberlain yn cynnig “Home Rule All Round” i holl genhedloedd y Deyrnas Unedig, yn rhannol er mwyn cwrdd â gofynion Iwerddon ond cynnal goruchafiaeth senedd imperialaidd San Steffan. Daeth y syniad hwn a ddisgynnodd o blaid yn y pen draw ar ôl i "de Iwerddon" adael y Deyrnas Unedig a daeth yn arglwyddiaeth yn 1921 a sefydlwyd gwladwriaeth rydd Iwerddon yn 1922.[63] Daeth ymreolaeth yn gyffredinol yn bolisi swyddogol y blaid lafur, erbyn y 1920au, ond collodd y Rhyddfrydwyr ddiddordeb oherwydd pe byddai Senedd Gymreig yn cael ei ffurfio ni fyddent yn ei rheoli.[64]
Yn 1861 ffurfiwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru[65] ac yn 1898 gweler enghraifft o farddoniaeth Gymreig yn galw am ymreolaeth ac annibyniaeth.[66] Ar ddiwedd y 19g ffurfiwyd nifer o sefydliadau cenedlaethol eraill gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 1876[67], Undeb Rygbi Cymru yn 1881.[68]
Ar ddechrau'r 20g gwelwyd ffurfiant mwy o sefydliadau cenedlaethol Cymreig: 1911 – Llyfrgell Genedlaethol Cymru,[69] 1915 – Gwarchodlu Cymreig,[70] 1919 – Bwrdd Iechyd Cymru,[71] 1920 – Yr Eglwys yng Nghymru Datgysylltwyd Cymru a'i gwahanu oddi wrth Eglwys Loegr trwy Ddeddf Eglwysi Cymru 1914.[72]
Bu trafodaethau am yr angen am "blaid Gymreig" ers y 19g.[73] Yn ôl yr hanesydd John Davies, cyn 1922 bu "twf amlwg yn adnabyddiaeth gyfansoddiadol y genedl Gymreig".[74] Erbyn 1924 roedd gan bobl yng Nghymru "awydd i wneud eu cenedligrwydd yn ganolbwynt i wleidyddiaeth Cymru".[75] Yn 1925 sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru; fe’i hailenwyd yn Blaid Cymru – The Party of Wales yn 1945. Egwyddorion y blaid a ddiffiniwyd yn 1970 oedd (1) hunanlywodraeth i Gymru, (2) diogelu diwylliant, traddodiadau, iaith a sefyllfa economaidd Cymru a (3) sicrhau aelodaeth i wladwriaeth Gymreig hunanlywodraethol yn y Cenhedloedd Unedig.[76]
Ceisiodd aelodau cynnar y Blaid Lafur Annibynnol sefydlu Ffederasiwn De Cymru tua diwedd y 19g ond ni sefydlwyd Cyngor Rhanbarthol Llafur De Cymru tan 1937.[78] Roedd llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig a etholwyd yn 1945 yn ganolog iawn, ond yn yr un flwyddyn, sefydlwyd 15 o adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru.[79][80] Erbyn 1947, daeth Cyngor Rhanbarthol unedig o Lafur i Gymru yn gyfrifol am Gymru gyfan.[78] Yn 1959 newidiwyd teitl cyngor Llafur o "Welsh Regional council" i "Welsh council", ac ailenwyd y corff Llafur yn Blaid Lafur Cymru yn 1975.[78]
Roedd meinciau cefn Llafur Cymru fel DR Grenfell, WH Mainwaring a James Griffiths yn cefnogi sefydlu swydd Ysgrifennydd Gwladol tra bod Aneurin Bevan yn meddwl y byddai datganoli yn tynnu sylw oddi wrth wleidyddiaeth "mainstream" Prydain. Cyfaddawdodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chytuno i sefydlu Cyngor i Gymru a Sir Fynwy. Fodd bynnag, ni roddwyd mwy na chyfrifoldeb iddi gynghori llywodraeth y Deyrnas Unedig ar faterion o ddiddordeb Cymreig.[81]
Cyhoeddwyd y cynnig i sefydlu Cyngor i Gymru a Sir Fynwy yn Nhŷ’r Cyffredin ar 24 Tachwedd 1948. Cynhaliwyd ei gyfarfod cyntaf ym mis Mai 1949, a’i gyfarfod busnes cyntaf y mis canlynol.
Ei gylch gorchwyl oedd:
Roedd gan Gyngor Cymru a Sir Fynwy 27 o aelodau penodedig. O'r rhain, enwebwyd 12 gan awdurdodau lleol Cymru; yr oedd hefyd enwebeion o'r Cyd-Bwyllgor Addysg, Prifysgol Cymru, Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, Bwrdd Croeso a Gwyliau Cymru, ac o ochrau rheolaeth ac undeb diwydiant ac amaethyddiaeth Cymru.[83] Y cadeirydd oedd Huw T. Edwards, arweinydd undeb llafur.[84] Cyfarfu'r Cyngor yn breifat, ffynhonnnell arall o ddadl.[85] Sefydlwyd paneli a phwyllgorau amrywiol i ymchwilio i faterion sy'n effeithio ar Gymru, gan gynnwys Panel Iaith Gymraeg i astudio ac adrodd ar sefyllfa bresennol yr iaith; Panel Gweinyddu'r Llywodraeth; Panel Diwydiannol; Panel Datblygu Gwledig; Panel Trafnidiaeth; a Phanel Diwydiant Twristiaeth.[86]
Yn y 1950au, roedd dirywiad yr Ymerodraeth Brydeinig hefyd yn dirwyio rhywfaint o'r synnwyr o Brydeindod a sylweddolwyd nad oedd Cymru mor llewyrchus â de-ddwyrain Lloegr a gwledydd Ewropeaidd llai. Arweiniodd buddugoliaethau olynol y Blaid Geidwadol yn San Steffan at awgrymiadau mai dim ond trwy hunanlywodraeth y gallai Cymru sicrhau llywodraeth sy’n adlewyrchu pleidleisiau etholwyr Cymreig. Roedd Boddi Cwm Tryweryn, y pleidleisiwyd yn ei erbyn gan bob Aelod Seneddol Cymreig, yn awgrymu bod Cymru fel cenedl yn ddi-rym.[87] Disgrifiwyd Clirio Epynt yn 1940 hefyd fel "pennod sylweddol – ond yn aml yn cael ei hanwybyddu – yn hanes Cymru".[88]
Gorymdeithiodd y rhai oedd o blaid Senedd Gymreig ym Machynlleth (lle Senedd olaf Owain Glyndŵr) ar 1 Hydref 1949. Roedd siaradwyr ac adloniant yn y digwyddiad hefyd.[89] O 1950-1956, daeth ymgyrch Senedd i Gymru yn ôl i'r agenda wleidyddol. Arweiniwyd ymgyrch drawsbleidiol gan Megan Lloyd George, merch David Lloyd-George a fu farw yn 1945.[90] [91] Lansiwyd yr Ymgyrch Senedd i Gymru yn ffurfiol ar 1 Gorffennaf 1950, mewn rali yn Llandrindod. Arweiniodd y digwyddiad hwn at greu deiseb o 240,652 o enwau yn galw am sefydlu senedd Gymreig, a gyflwynwyd i Dŷ’r Cyffredin gan Megan Lloyd George yn 1956.[89] Cafodd hyn ei wrthod gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. Cyflwynwyd deisebau hefyd i Dŷ’r Cyffredin am Ysgrifennydd Gwladol i Gymru a gafodd eu gwrthod hefyd.[91]
Yn hanner cyntaf yr 20g, roedd nifer o wleidyddion wedi cefnogi creu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel cam tuag at ymreolaeth i Gymru. Crëwyd swydd Gweinidog Materion Cymreig yn 1951 o dan yr ysgrifennydd cartref a chafodd ei dyrchafu i lefel gweinidog gwladol yn 1954.[92] Yn 1964, ffurfiodd llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig swyddfa newydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn 1965 crëwyd y Swyddfa Gymreig a oedd yn cael ei rhedeg gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac a oedd yn gyfrifol am weithredu polisïau llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru.[92] Yn 1999 gwnaeth y Swyddfa Gymreig le i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a symudodd staff o'r Swyddfa Gymreig i'r Cynulliad Cenedlaethol.[93]
Yn 1897, 1901, 1910, 1935 ac 1945 mewn ymdrech i gael cydnabyddiaeth genedlaethol bu ceisiadau i gynnwys y Ddraig Goch yn yr arfbais brenhinol, ond gwrthod bob tro a wnaeth y Coleg Arfbais, "There is no such thing as a Welsh national flag", dywedant.[94] Yn 1901, ychwanegwyd y ddraig goch i arfbais Tywysog Cymru Brenhiniaeth Prydain gan y brenin.[95]
Yn y pen draw, cynigiodd y palas Brydeinig fathodyn brenhinol newydd fel cyfaddawd yn ystod blwyddyn coroni 1953. Ailgynlluniwyd y ddraig draddodiadol ac ychwanegwyd coron iddo gyda'r arwyddair "Y DDRAIG GOCH DDYRY CYCHWYN".[94]
Gwrthwynebodd Orsedd y Beirdd y faner â'r bathodyn brenhinol yn 1958 gan ddweud ei bod yn "rhy druenus i arwyddo dim".[96] Dan arweiniad cofrestrydd yr Orsedd, Cynan (Albert Evans-Jones), penderfynwyd mai dim ond baner y ddraig goch boblogaidd a fyddai'r orsedd yn ei hadnabod. Galwodd ar bob sefydliad a chorff cyhoeddus i ddilyn eu harweiniad. Derbyniodd yr alwad gefnogaeth unfrydol gan gynnwys bron pob cyngor lleol. Danfonodd hyn neges clir i lywodraeth Prydain.[97] Fis Chwefror 1959, cyhoeddodd y gweinidog dros faterion Cymreig mai dim ond y faner â'r ddraig (nid y fathodyn) fyddai'n cael ei chwifio ar adeiladau'r Llywodraeth yng Nghymru ac yn Llundain. Daeth baner y ddraig goch yn swyddogol ar 1 Ionawr 1960.[96][98]
Ar 21 Rhagfyr 1955, cyhoeddodd Arglwydd Faer Caerdydd i dyrfa fod Caerdydd bellach yn brifddinas swyddogol Cymru yn dilyn pleidlais seneddol y diwrnod cynt gan aelodau awdurdodau lleol Cymru. Enillodd Caerdydd y bleidlais gyda 136 o bleidleisiau a daeth Caernarfon yn ail gydag 11 pleidlais. Roedd ymgyrch i Gaerdydd ddod yn brifddinas wedi bod ar y gweill ers 30 mlynedd cyn y bleidlais. Amlinellodd yr hanesydd James Cowan rai rhesymau pam y dewiswyd Caerdydd gan gynnwys; sef y ddinas fwyaf yng Nghymru gyda phoblogaeth o 243,632, adeiladau ym mharc Cathays megis Neuadd y Ddinas ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru ymhlith rhesymau eraill. Awgrymodd Dr Martin Johnes, darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, yn dilyn ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, fod Caerdydd wedi dod yn “brifddinas mewn ffordd ystyrlon, fel cartref llywodraeth Cymru, ond o’r blaen, roedd ei statws fel prifddinas yn amherthnasol. dim ond symbolaidd oedd hi". [99]
Enillodd arweinydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans sedd gyntaf erioed y blaid yn San Steffan yng Nghaerfyrddin yn 1966, a "helpodd i newid cwrs cenedl" yn ôl Dr Martin Johnes. Gallai hyn, ynghyd ag ennill sedd Winnie Ewing o'r SNP yn Hamilton, yr Alban yn 1967 fod wedi cyfrannu at bwysau ar Brif Weinidog Harold Wilson i ffurfio Comisiwn Kilbrandon.[100][101] Efallai fod y digwyddiad hwn hefyd wedi cyfrannu at basio Deddf yr Iaith Gymraeg 1967.[101] Diddymodd y ddeddf hon ddarpariaeth yn Neddf Cymru a Berwick 1746 y dylai'r term "Lloegr" gynnwys Cymru, gan ddiffinio Cymru i fod yn endid ar wahân i Loegr yn y Deyrnas Unedig.[102][103] Roedd y ddeddfwriaeth yn caniatáu defnydd swyddogol o’r Gymraeg gan gynnwys mewn llysoedd barn. Roedd y ddeddf yn rhannol seiliedig ar Adroddiad Hughes Parry o 1965. Er bod Deddf Llysoedd Cymru yn 1942 wedi caniatáu defnydd cyfyngedig o’r Gymraeg yn flaenorol os oedd gan ddiffynyddion neu achwynwyr wybodaeth gyfyngedig o’r Saesneg, roedd deddf 1967 yn llawer mwy cadarn. Er bod y weithred ei hun yn eithaf cyfyngedig, roedd ganddi bwysigrwydd symbolaidd mawr.[103] Yn 1966, darbwyllodd Emlyn Hooson fwyafrif o'r cynrychiolwyr i uno'r ddau ffederasiwn rhyddfrydol Cymreig yn un endid, gan ffurfio'r Blaid Ryddfrydol Gymreig. Roedd gan y blaid newydd lawer mwy o awdurdod, ac yn raddol canolwyd cyllid a pholisi'r blaid yng Nghymru.[104]
Cyflwynodd llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig fesurau datganoli ar wahân ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn 1977 yn dilyn cefnogaeth i senedd i’r Alban gan Gomisiwn Kilbrandon.[105] Ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1979 cynhaliwyd refferendwm datganoli Cymreig ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ond daeth ar ddiwedd y Gaeaf Anniddigrwydd ac roedd “tribalism” o fewn Cymru. Yn ôl John Morris, roedd pobl yn Ne Cymru wedi’u perswadio y byddai’r Cynulliad yn cael ei ddominyddu gan siaradwyr Cymraeg "bigoted" o’r gogledd a’r gorllewin; tra yn y gogledd, roedd pobl wedi’u perswadio y byddai’r Cynulliad yn cael ei ddominyddu gan "Taffia" Cyngor Sir Morgannwg.[106] Dywed Richard Wyn Jones y gallai amheuon o elit cyfrinachol o “Taffia” neu “crachach” fod wedi effeithio ar ganlyniadau’r refferendwm, “Roedd canfyddiad ymysg gwrth-ddatganolwyr mai rhyw fath o gynllwyn gan y sefydliad oedd datganoli, gan y crachach. Ategwyd eu syniad [y gwrth-ddatganolwyr] eu bod yn sefyll dros y ‘bobl’ erbyn 1979.”[107] Pleidleisiodd y mwyafrif yn erbyn ffurfio Cynulliad, gyda 79.7% yn pleidleisio yn erbyn ac 20.3% yn pleidleisio Ie. Yn y cyfamser, roedd yr Alban wedi pleidleisio o drwch blewyn o blaid senedd Albanaidd gyda 51.6% o blaid. [105]
Darparodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 gyfraith newydd i sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru gael cynlluniau dwyieithog, a fyddai’n cael eu goruchwylio gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Roedd rhai cwmnïau yn y sector preifat gan gynnwys British Telecoms (BT) a Nwy Prydain eisoes wedi cynnwys cynlluniau iaith Gymraeg ym mholisïau cwmnïau cyn y Ddeddf hon.[108]
Yn y 1980au, disgrifiwyd ailstrwythuro economaidd a diwygiadau marchnad gan Margaret Thatcher fel rhai a achosodd ddadleoli cymdeithasol i rannau o Gymru, a bu gynt y "sector cyhoeddus mwyaf i'r gorllewin o'r Llen Haearn".[109] Portreadwyd olyniaeth o Ysgrifenyddion Gwladol y tu allan i’r Ceidwadwyr Cymreig ar ôl 1987 gan wrthwynebwyr fel rhai "colonial" a oedd yn arwydd o "ddiffyg democrataidd".[109]
Yn gynnar yn y 1990au, daeth Llafur yn ymrwymedig i ddatganoli i Gymru a'r Alban, ac yn 1997 fe'i hetholwyd gyda mandad i gynnal refferenda ar Senedd yr Alban a Chynulliad Cymreig.[110] Roedd yr hinsawdd wleidyddol yn wahanol iawn i un refferendwm datganoli Cymreig 1979 gyda chenhedlaeth newydd o aelodau senedd San Steffan a chonsensws eang ar fater cynhennus yr iaith Gymraeg.[110] Yn refferendwm datganoli Cymru 1997, pleidleisiodd mwyafrif etholwyr Cymru o blaid sefydlu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru o 50.3% (bleidleisiodd o 50.2% o'r boblogaeth).[111]
Caniataodd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 ffurfio’r Cynulliad Cenedlaethol a rhoi iddo nifer sylweddol o bwerau newydd a oedd yn cynnwys y rhan fwyaf o’r pwerau a oedd yn flaenorol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac o leiaf 20 o sefydliadau cenedlaethol gan gynnwys Dysgu ac Addysgu Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.[112][113] Ffurfiwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 ond chadwodd Senedd y Deyrnas Unedig yr hawl i osod terfynau ar ei phwerau.[114]
Ffurfiwyd y Comisiwn ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn Richard) yn 2002. Gwnaeth y comisiwn hwn gyfres o argymhellion yn 2004. Roedd y rhain yn cynnwys cynyddu nifer o aelodau'r Senedd; datganoli pwerau i greu deddfau; a gwahanu y ddeddfwrfa (cabinet) a’r farnwriaeth (Cynulliad gyfan). Defnyddiwyd mwyafrif helaeth o’r canfyddiadau hyn gan lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno Deddf Llywodraeth Cymru 2006, gan ddisgrifio pwerau a chyfrifoldebau’r awdurdodau datganoledig ar gyfer deddfu, gwneud penderfyniadau a llunio polisïau.[115][116] Ym mis Mawrth 2011, cynhaliwyd refferendwm ynghylch a ddylid rhoi pwerau deddfu sylfaenol llawn i’r Cynulliad Cenedlaethol yn yr ugain maes pwnc lle’r oedd ganddo awdurdodaeth. Daeth y refferendwm i ben gyda 63.5% o bleidleiswyr yn cefnogi trosglwyddo pwerau deddfu sylfaenol llawn i'r Cynulliad.[117]
Yn 2011, newidiodd y Sefydliad Safonau Rhyngwladol statws Cymru i wlad yn swyddogol ar ôl i'r term "tywysogaeth" gael ei ddefnyddio mewn camgymeriad. Digwyddodd hyn yn dilyn lobïo gan Aelod Cynulliad (AC) Plaid Cymru Leanne Wood. Yn gyfreithiol nu fu Cymru'n dywysogaeth ers cyfnod gweithredol Statud Rhuddlan rhwng 1284 a 1542.[118] Mae llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru bron yn ddi-eithriad yn diffinio Cymru fel gwlad.[119][120] Dywed VisitWales.com “Nid yw Cymru yn Dywysogaeth. Er ein bod wedi ein huno â Lloegr gan dir, a’n bod yn rhan o Brydain Fawr, mae Cymru yn wlad yn ei rhinwedd ei hun.”[121][122]
Moderneiddiodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 gan roi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru am y tro cyntaf, sy’n garreg filltir bwysig i’r iaith. Cymraeg yw unig iaith swyddogol de jure unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig. Roedd y Mesur hefyd yn gyfrifol am greu swydd Comisiynydd y Gymraeg, gan ddisodli Bwrdd yr Iaith Gymraeg.[123] Yn dilyn y refferendwm yn 2011, y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol oedd y gyfraith Gymreig gyntaf i gael ei chreu ers 600 mlynedd, yn ôl Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Carwyn Jones. Pasiwyd y ddeddf hon gan ACau Cymru yn unig a gwnaeth y Gymraeg yn iaith swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol.[124]
Hefyd, ffurfiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk). Cyhoeddodd y comisiwn ran 1 o’i adroddiad yn 2012, yn argymell pwerau ariannol newydd i Gymru gan gynnwys benthyca a threthiant, a ddaeth i rym yn Neddf Cymru 2014.[125] Pasiwyd Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 gan y Cynulliad Cenedlaethol i hwyluso pwerau ariannol Deddf Cymru 2014.[125] Y Dreth Trafodiadau Tir (yn lle’r Dreth Stamp) a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi oedd y ddwy dreth ddatganoledig gyntaf oll. Yn 2019, datganolwyd dros £2 biliwn o dreth incwm i’r Senedd.[125]
Diffiniodd Deddf Cymru 2017 y Cynulliad Cenedlaethol a sefydliadau datganoledig i fod yn gydran barhaol o gyfansoddiad y Deyrnas Unedig, a byddai angen refferendwm i ddileu'r sefydliad. Newidiodd y ddeddf hefyd fodel gweithredu'r sefydliadau datganoledig o fod yn "fodel rhoi pwerau" i fodel "cadw pwerau".[126] Roedd hyn yn caniatáu i'r Cynulliad ddeddfu ar unrhyw fater nad yw wedi'i "gadw'n" benodol o'i gymhwysedd. [127] Cafodd y Cynulliad hefyd y pŵer i benderfynu ar ei henw ei hun a system bleidleisio aelodau.[126] Ym mis Mai 2020, yn Neddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, ailenwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn "Senedd Cymru" neu "Welsh Parliament" yn Saesneg (yn gyffreinol, gelwir yn Senedd yn y ddwy iaith), i adlewyrchu pwerau deddfwriaethol cynyddol.[128] Caniataodd y Ddeddf yr hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio am y tro cyntaf erioed, gan ddechrau gydag etholiad Senedd 2021.[129]
Cynigiodd Plaid Cymru ddau fesur i senedd y Deyrnas Unedig yn sesiwn seneddol 2021-22 na chafodd gydsyniad brenhinol yn y pen draw. Bil Ystad y Goron (Datganoli i Gymru) – Noddwyd bil i ddatganoli rheolaeth ac asedau Ystâd y Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru gan Liz Saville Roberts.[130] Bil Cronfa Ffyniant Gyffredin (Cymru) – Noddwyd bil a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno adroddiad i’r Senedd ar rinweddau datganoli rheolaeth a gweinyddiaeth yr arian a ddyrennir i Gymru drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i Lywodraeth Cymru, gan Ben Lake.[131]
Noddwyd y Bil Gwyliau Banc (Cymru) [HL] yn sesiwn 2022-23 i ddatganoli pwerau i osod gwyliau banc, gan Christine Humphreys, a gynigiwyd yn yr un modd gan Mark Williams, hefyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn ystod sesiwn 2015-16. Ni gafwyd ddarlleniad o'r bil yn nhŷ'r cyffredin.[132][133]
Noddwyd Bil Llywodraeth Cymru (Pwerau Datganoledig) [HL] sy’n gwahardd pwerau’r Senedd rhag cael eu diwygio neu eu tynnu’n ôl heb bleidlais uwch-fwyafrif o aelodau’r Senedd, a noddir gan Dafydd Wigley o Blaid Cymru. Ni gafwyd ail ddarlleniad o'r bil yn nhŷ'r cyffredin.[134]
Bu cyfarfod cyntaf Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau ar 11 Hydref 2024. Keir Starmer sefydlodd y Cyngor, ac fe ddaeth Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, arweinwyr y gwledydd datganoledig a meiri rhanbarthol Lloegr i'r cyfarfod cyntaf.[135] Cyn y cyfarfod, cyhoeddwyd fod Sue Gray yn dechrau rôl fel cennad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar gyfer y cenhedloedd a'r rhanbarthau.[136]
Yn gryno, y pwerau a ddefnyddir gan y Senedd ar hyn o bryd yw:
Cyflwynwyd yr opsiynnau canlynol fel newidiadau cyfansoddiadol i hunanreolaeth Cymru gan Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru;
Ymhlith y materion a chynigwyd eu datganoli mae; Darlledu[139], Ystad y Goron[140], Adnoddau naturiol[141], Cronfa ffyniant rhanedig (Shared Prosperity Fund, a gymerodd le cyllid yr Undeb Ewropeaidd) [142], gwyl y banc[143], trethiant a rheoleiddio cwmniau egni[144], hunaniaeth rhyw[145], y system gyfiawnder[146], seilwaith rheilffordd [147], gosod cyfraddau a bandiau treth incwm[148], system les a phwerau treth llawn[149].
Pasiodd Senedd y Deyrnas Unedig Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn 2020 sy'n "cyfyngu'n uniongyrchol ar ddatganoli" yn ôl Llywodraeth yr Alban. Disgrifir gweithredoedd y Ddeddf mewn adroddiad gan aelod senddol yr Alban, Michael Russell, Ysgrifennydd y Cabinet dros y Cyfansoddiad, Ewrop a Materion Allanol; Mae’r ddeddf yn caniatáu i nwyddau a werthir mewn un rhan o’r Deyrnas Unedig gael eu derbyn yn awtomatig yng ngweddill y DU, er gwaethaf rheolau datganoledig gwahanol. Gall y ddeddf hefyd achosi i reoleiddio gwasanaeth mewn un rhan o'r Deyrnas Unedig gael ei gydnabod ar draws y DU gyfan. Mae'r ddeddf yn caniatáu i weinidogion y Deyrnas Unedig wario ar bolisïau datganoledig heb ganiatad Senedd Cymru.[150]
Mae Llywodraeth Cymru wedi lleisio pryderon ynghylch Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, a basiwyd gan Senedd y DU, gan ddisgrifio ei phasio fel "ymosodiad ar ei chymhwysedd". Lansiodd Llywodraeth Cymru gais am adolygiad barnwrol o’r ddeddf, a gafodd ei wrthod ar y sail ei bod yn gynamserol. Ym mis Chwefror 2022, roedd llywodraeth Cymru yn aros am apêl yn erbyn penderfyniad y llys adrannol.[151]
Dyma bolisiau pleidiau gwleidyddol cymru sy'n dal o leifa un sedd yn y Senedd.
Dyddiad | Cwestiwn | Cefnogi datganoli pellach (%) | Yn erbyn datganoli pellach (%) | Pleidleiswyr (%) |
---|---|---|---|---|
3 Mawrth 2011[157] | A ydych am i’r Cynulliad allu deddfu’n awr ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ar eu cyfer? | 63.5 | 36.5 | 35.2 |
18 Medi 1997[158] | (i) Rwyf yn cytuno y dylai fod Cynulliad Cenedlaethol; neu
(ii) Nid wyf yn cytuno y dylai fod Cynulliad Cendlaethol |
50.3 | 49.7 | 51.3 |
1 Mawrth 1979 [159] | A ydych eisiau i ddarpariaethau Deddf Cymru 1978 gael eu rhoi ar waith? | 20.3 | 79.7 | 58.8 |
Roedd arolwg barn BBC Wales/ICM Mehefin 2007 yn dangos bod 47% yn cefnogi Ie mewn refferendwm, 44% yn erbyn a 9% yn dweud nad oeddent yn gwybod.[160]
Dangosodd arolwg barn ITV Wales/YouGov ym mis Ionawr 2011 y byddai 49% yn cefnogi Ie a yn pleidleisio 26% yn pleidleisio Na gyda'r nifer nad oeddent yn gwybod yn codi i 26%.[160]
Roedd y bwlch arwain i Ie yn amrywio o 27% (ITV Wales/YouGov Mehefin 2010), i 32% (Western Mail/Beaufort Tachwedd 2010) a 33% (BBC Wales/ICM Tachwedd 2010).[160]
Ar 4 Mawrth 2011, fe wnaeth mwyafrif o 63.5% bleidleisio i ddatganoli pwerau deddfu ar gyfer materion datganoliedig y Senedd.[161]
Dyddiad | Sefydliad | Cefnogi annibyniaeth (%) | Cefnogi mwy o bwerau i'r Senedd (%) | Cefnogi'r
status quo (%) |
Cefnogi llai o bwerau i'r Senedd (%) | Cefnogi diddymu'r Senedd(%) | Dim barn/ddim yn gwybod/arall(%) |
---|---|---|---|---|---|---|---|
5-25 Mehefin 2023[162] | Beaufort Research / WalesOnline | 16 | 23 | 25 | 6 | 17 | 13 |
12-17 Mai 2023[163] | YouGov / Barn Cymru | 13 | 21 | 20 | 7 | 20 | 16 |
3-7 Chwefror 2023[164] | YouGov / Barn Cymru | 15 | 20 | 21 | 7 | 20 | 16 |
25 Tachwedd - 1 Rhagfyr 2022[165] | YouGov | 14 | 21 | 23 | 7 | 20 | 14 |
20-22 Medi 2022[165] | YouGov | 17 | 19 | 21 | 7 | 19 | 15 |
28 Ionawr – 21 Chwefror 2021[166] | BBC / ICM Unlimited | 14 | 35 | 27 | 3 | 15 | 6 |
4–22 Chwefror 2020[167] | BBC / ICM | 11 | 43 | 25 | 2 | 14 | 3 |
7–23 Chwefror 2019[168] | BBC / ICM | 7 | 46 | 27 | 3 | 13 | 4 |
Rhagfyr 2018[169] | SkyData | 8 | 40 | 23 | 4 | 18 | 7 |
Chwefror 2017[170] | BBC / ICM | 6 | 44 | 29 | 3 | 13 | 4 |
31 Ionawr 2017 | Deddf Cymru 2017 | ||||||
Chwefror 2016[171] | BBC / ICM | 6 | 43 | 30 | 3 | 13 | 4 |
Chwefror 2015[172] | BBC / ICM | 6 | 40 | 33 | 4 | 13 | 4 |
17 Rhagfyr 2014 | Deddf Cymru 2014 | ||||||
Medi 2014[173] | BBC / ICM | 3 | 49 | 26 | 2 | 12 | 6 |
18 Medi 2014 | Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 | ||||||
Chwefror 2014[174] | BBC / ICM | 5 | 37 | 28 | 3 | 23 | 5 |
2013[175] | BBC / ICM | 9 | 36 | 28 | 2 | 20 | 4 |
2012[175] | BBC / ICM | 7 | 36 | 29 | 2 | 22 | 4 |
2011[175] | BBC / ICM | 11 | 35 | 18 | 17 | 15 | 4 |
3 Mawrth 2011 | Refferendwm datganoli i Gymru, 2011 | ||||||
2010[175] | BBC / ICM | 11 | 40 | 13 | 18 | 13 | 4 |
2006[176] | BBC / ICM | 16 | 39 | 21 | - | 20 | - |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.