Dafydd Wigley
gwleidydd Cymreig a chyn arweinydd Plaid Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Dafydd Wigley (ganed 1 Ebrill 1943), sydd yn uchel ei barch yng Nghymru. Bu'n cynrychioli etholaeth Caernarfon fel Aelod Seneddol yn San Steffan am 27 mlynedd ac yn y Cynulliad rhwng 1999 a 2003. Roedd yn arweinydd Plaid Cymru rhwng 1981 a 1984 ac eto rhwng 1991 a 2000.
Dafydd Wigley | |
![]() | |
Aelod Seneddol dros Gaernarfon | |
Cyfnod yn y swydd 1974 – 2001 | |
Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 3 Mai 2003 | |
Geni | 1 Ebrill 1943 Derby, Lloegr |
---|---|
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Priod | Elinor Bennett |
Alma mater | Prifysgol Manceinion |
Cefndir
Ganwyd David Wynne Wigley yn Derby, Lloegr[1], yn unig blentyn i Myfanwy ac Elfyn Edward Wigley.[2] Dychwelodd y teulu i Gymru yn 1946.
Roedd ei fam yn wreiddiol o Bwllheli. Roedd ei mam hithau'n weithgar gyda'r Rhyddfrydwyr a'i thad yn gyfreithiwr ac yn weithgar gyda'r Toriaid. Roedd tad Wigley'n gweithio ym myd llywodraeth leol. Bu yn drysorydd Cyngor Sir Gaernarfon o 1947 tan 1974.
Cafodd Wigley ei fagu yn bennaf yn y Bontnewydd, Caernarfon. Mynychodd Ysgol Ramadeg Caernarfon ac Ysgol breswyl Rydal Penrhos, Bae Colwyn cyn mynd i Brifysgol Manceinion. Ar ôl graddio yn 1964 ymunodd â Chwmni Moduron Ford yn Dagenham i'w hyfforddi mewn cyllid diwydiannol.
Yn 1967 priododd ag Elinor Bennett Owen. Y flwyddyn honno hefyd yr ymunodd â chwmni Mars; cwmni sy'n enwog am gynhyrchu siocled a melysion. Bu'n reolwr cyllid i Hoover, Merthyr Tudful cyn ei ethol yn aelod seneddol.
Gyrfa wleidyddol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.