Prif Weinidog y Deyrnas Unedig o 2016 i 2019 From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o Loegr yw Alexander Boris de Pfeffel Johnson (ganwyd 19 Mehefin 1964). Roedd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ac arweinydd Y Blaid Geidwadol (DU) rhwng Gorffennaf 2019 a Medi 2022. Fe'i adnabyddir yn well fel Boris Johnson ac fel cymeriad lliwgar a gwahanol i'r rhan fwyaf o wleidyddion. Mae'n gyn Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig a newyddiadurwr. Mae'n dweud ei farn, doed a ddelo, ac yn berson dadleuol a charismatig sydd wedi cyffesu iddo ef ei hun, yn y gorffennol, smocio canabis; cred y dylid cyfreithloni'r cyffur ar gyfer defnydd meddygol.[4][5]
Boris Johnson AS | |
---|---|
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig | |
Yn ei swydd 24 Gorffennaf 2019 – 6 Medi 2022 | |
Teyrn | Elisabeth II |
Dirprwy | Dominic Raab |
Rhagflaenwyd gan | Theresa May |
Dilynwyd gan | Liz Truss |
Arweinydd y Blaid Geidwadol | |
Yn ei swydd 23 Gorffennaf 2019 – 5 Medi 2022 | |
Rhagflaenwyd gan | Theresa May |
Dilynwyd gan | Liz Truss |
Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad | |
Yn ei swydd 13 Gorffennaf 2016 – 9 Gorffennaf 2018 | |
Prif Weinidog | Theresa May |
Rhagflaenwyd gan | Philip Hammond |
Dilynwyd gan | Jeremy Hunt |
Aelod Seneddol dros Uxbridge a De Ruislip | |
Yn ei swydd 7 Mai 2015 – 12 Mehefin 2023 | |
Rhagflaenwyd gan | John Randall |
Mwyafrif | 10,695 (23.9%) |
Maer Llundain | |
Yn ei swydd 4 Mai 2008 – 9 Mai 2016 | |
Dirprwy | Richard Barnes Victoria Borwick Roger Evans |
Rhagflaenwyd gan | Ken Livingstone |
Dilynwyd gan | Sadiq Khan |
Aelod Seneddol dros Henley | |
Yn ei swydd 9 Mehefin 2001 – 4 Mehefin 2008 | |
Rhagflaenwyd gan | Michael Heseltine |
Dilynwyd gan | John Howell |
Manylion personol | |
Ganwyd | Alexander Boris de Pfeffel Johnson 19 Mehefin 1964 Manhattan, Dinas Efrog Newydd, Unol Daleithiau |
Plaid wleidyddol | Ceidwadwyr |
Priod | Allegra Mostyn-Owen (1987–1993) Marina Wheeler (1993–gwahanwyd 2018) Carrie Symonds (2021–presennol) |
Plant | 6 neu 7[1][2][3] |
Rhieni |
|
Perthnasau |
|
Alma mater | Coleg Balliol, Rhydychen |
Gwefan | Gwefan Ty'r Cyffredin |
Ganwyd Boris Johnson yn Manhattan, Efrog Newydd, yn fab i'r gwleidydd Ceidwadol Stanley Johnson a chofrestwryd ef gyda phasport deuol (UDA a DU).[6] Ar y pryd roedd ei dad yn astudio economeg ym Mhrifysgol Columbia.[7] Roedd tad Stanley (Ali Kemal) yn newyddiadurwr o Dwrci. Roedd ei fam o waed cymysg: Seisnig, Rwsieg, Iddewig a Ffrengig.[8] Brawd Jo Johnson a Rachel Johnson yw ef.
Mynychodd Johnson Ysgol Ewropead, Brwsel, Gwlad Belg; Ysgol Ashdown House, Sussex, a Choleg Eton, Windsor. Darllenodd y Clasuron yng Ngholeg Balliol, Rhydychen a bu'n Llywydd Undeb Rhydychen, y gymdeithas drafod uchel ael.
Mae Johnson wedi gweithio fel newyddiadur i sawl cyhoeddiad, cyn ac yn ystod ei amser fel gwleidydd. Dechreuodd ei yrfa gyda'r Times, cyn cael ei ddiswyddo am ei fod wedi ffugio dyfyniad.[9] Symudodd wedyn i'r Telegraph, lle gweithiodd fel colofnydd gwleidyddol. Ymysg ei waith oedd darn golygyddol ar ôl i Gordon Brown ddod yn Brif Weinidog heb etholiad cyffredinol, yn cwyno am ddiffyg cyfreithlondeb democrataidd ac yn galw am etholiad cyffredinol ar unwaith.[10] Gweithiodd hefyd fel golygydd i'r Spectator. Yn y swydd hwnnw, creodd ddadl enwog pan ganiataodd gyhoeddu darn a gyhuddodd bobl Lerpwl o "wallowing in victim status" ar ôl trychineb Hillsborough a marwolaeth Ken Bigley, ac ailadroddodd honiadau'r Sun bod ymddygiad cefnogwyr Lerpwl wedi cyfrannu at y trychineb.[11] Gorfodwyd ef gan Michael Howard, arweinydd y blaid Ceidwadwyr ar y pryd, i deithio i Lerpwl er mwyn ymddiheuro am yr erthygl.[12]
Methodd ag ennill sedd De Clwyd yn etholiad cyffredinol 1997.
Bu'n olygydd y Spectator rhwng 1999 a Rhagfyr 2005. Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros etholaeth Henley yn Swydd Rydychen yn 2001, o dan Michael Howard a David Cameron, ac ymunodd â Chabined yr Wrthblaid fel Gweinidog dros Ddiwylliant, y Diwydiant Creadigol ac yna Addysg Uwch.
Cafodd ei ethol yn Faer Llundain ar 2 Mai 2008 wedi iddo drechu cynrychiolydd y Blaid Lafur, Ken Livingstone; ymddiswyddodd ar unwaith fel Aelod Seneddol. Ar unwaith, aeth ati i wahardd alcohol o fannau cyhoeddus, a chwblhaodd gynllun oedd wedi'i ddechrau gan Livingstone[13] i greu rhwydwaith o feics i'w llogi, a alwyd yn "Boris Bikes" yn anffurfiol. Enillodd ail dymor o bedair blynedd fel Maer yn 2012, gan drechu Livingstone eilwaith; yn ystod yr ail dymor, cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 2012. Ni chystadleuodd y drydedd waith; yn hytrach cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Uxbridge a De Ruislip yn Etholiad cyffredinol 2015, a gadawodd ei waith fel Maer.
Etholwyd Johnson yn arweinydd y blaid Geidwadol ar 23 Gorffennaf 2019. Y diwrnod canlynol, ymddiswyddodd Theresa May fel Prif Weinidog. Dywedodd Johnson y byddai’n sicrhau bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref 2019, hyd yn oed pe na bai cytundeb yn cael ei wneud.[14][15] Ym mis Medi 2019 ymddiswyddodd ei frawd Jo Johnson o’r llywodraeth a chyhoeddi y byddai’n camu i lawr fel AS oherwydd y gwrthdaro rhwng buddiannau teuluol a gwleidyddol.[16]
Ar ôl yr Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019, roedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif o 80 sedd yn y Senedd San Steffan. Ar 31 Ionawr 2020 gadawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd ac yn cychwyn y Cyfnod Pontio. Bu nifer o sgandalau yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog, gan gynnwys "Partygate", a ddatgelwyd gan y newyddiadurwr Cymreig Paul Brand.[17]
Yn y diwedd collodd Johnson hyder y Blaid Geidwadol ym mis Gorffennaf 2022 a chafodd ei orfodi i ymddiswyddo. Dywedodd Mark Drakeford: "I’m pleased the prime minister has now done the right thing and agreed to resign. All four nations need a stable UK government. The way to achieve that is by a general election so the decision about the next prime minister is made by the people and not by the narrow membership of the Conservative party."[18] Ymddiswyddodd Johnson fel arweinydd y blaid Geidwadol ond gwrthododd ymddiswyddo fel prif weinidog tan ar ôl cynhadledd y blaid.[19] Ar 8 Gorffennaf, dywedodd yr Aelod Seneddol Cymreig Liz Saville Roberts y dylid canslo gwyliau'r haf yn San Steffan er mwyn “cadw sgwatiwr Prif Weinidog yn onest”.[20]
Ym mis Mehefin 2023, yn dilyn beirniadaeth o’i restr anrhydeddau ymddiswyddiad ac ar ôl gweld canfyddiadau adroddiad ar ei ymddygiad gan bwyllgor o Dŷ’r Cyffredin, ymddiswyddodd Johnson fel aelod seneddol.[21]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.