prifddinas Gwlad Belg From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifddinas Gwlad Belg yw Brwsel (Bruxelles yn Ffrangeg, Brussel yn Iseldireg). Mae'r dref yng nghanolbarth Gwlad Belg. Mae hi'n brifddinas Fflandrys, ac yn ganolfan ei hardal weinyddol ddwyieithog ei hun, "Rhanbarth Brwsel-Prifddinas", sef Dinas Brwsel (Bruxelles-Ville neu Ville de Bruxelles yn Ffrangeg, de Stad Brussel yn Iseldireg). O'r cyfan, mae 19 o fwrdeistrefi yn ardal Brwsel-Prifddinas.
Math | ardal fetropolitan |
---|---|
Poblogaeth | 2,639,000, 3,350,969, 3,343,303 |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhanbarth Brwsel-Prifddinas, Brabant Fflandrysaidd, Brabant Walonaidd |
Gwlad | Gwlad Belg |
Uwch y môr | 13 metr |
Gerllaw | Camlas Brussels–Charleroi, Camlas Brussels–Scheldt Maritime, Senne |
Cyfesurynnau | 50.8467°N 4.3525°E |
Mae gan ardal Brwsel-Prifddinas yr un statws â Fflandrys a Walonia, ond mae hi wedi'i hamgylchynu gan Fflandrys.
Sefydlwyd llywodraeth a gweinyddiaeth ym Mrwsel ar ôl sefydlu Senedd Fflandrys (y 'Vlaamse Raad' y newidiwyd ei henw i 'Vlaams Parlement').
Lleolir pencadlysoedd dau o brif sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel, sef y Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor Gweinidogion Ewrop. Ac er fod y Senedd Ewropeaidd yn cyfarfod yn Strasbwrg, cynhelir nifer o gyfarfodydd y Senedd, a rhai pwyllgorau, ym Mrwsel hefyd.
Mae pencadlysoedd NATO ac Undeb Gorllewin Ewrop (WEU) ym Mrwsel.
Siaredir Iseldireg yng ngogledd Gwlad Belg a Ffrangeg yn y de. Mae ardal Brwsel yn ddwyieithog yn swyddogol, ond mae mwyafrif ei thrigolion yn siarad Ffrangeg. Yn ôl astudiaeth a wnaed yn 2001 mae'r sefyllfa fel a ganlyn:
Y 19 bwrdeistref y Rhanbarth Brwsel-Prifddinas |
|
Mae'r MIVB (yn Ffrangeg y STIB) yn rhedeg bysiau, tramiau, cyn-metro a metro yn y ddinas. Mae'r NMBS (yn Ffrangeg yr SNCB) yn rhedeg trênau o'r ddinas i lleoedd arall. Yr Orsaf y De (Zuidstation neu Gare du Midi) yn ganolbwynt y rhwydwaith trafnidiaeth, mae trênau Eurostar a Thalys hefyd yn rhedeg o'r Orsaf y De, i Lundain, Amsterdam, Lille a Pharis.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.