Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015
Etholiad cyffredin y Deyrnas Unedig, 2015 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 ar 7 Mai, 2015 er mwyn ethol Aelod Seneddol ar gyfer pob un o'r 650 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig, sef prif siambr Senedd y Deyrnas Unedig.[2] Roedd yr etholiad cyffredinol hwn ledled y Deyrnas Unedig.
Remove ads
Cofir am yr etholiad hwn yn bennaf am lwyddiant Blaid Cenedlaethol yr Alban yn cipio 56 o seddau, ac yn ail am leihad yn nifer Aelodau Seneddol y Blaid Lafur a'r Rhyddfrydwyr. Daliodd Plaid Cymru eu gafael yn y tair sedd (12.1% o'r bleidlais), ond ni welwyd ymchwydd fel a fu yn yr Alban.
Yn Ionawr 2015, cyhoeddodd y cwmni arolwg barn Panelbase ganlyniadau eu hymchwiliad gan ragweld Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP) yn cynyddu nifer eu haelodau Seneddol o 6 i 35; erbyn Ebrill roedd y polau pinio yn amcangyfrif hyd at 50 o seddau.[3][4]
Remove ads
"Etholiad yr Alban"
Cipiodd yr SNP 50% o'r bleidlais a 56 sedd - 50 yn fwy nag oedd ganddynt yn dilyn Etholiad 2010. Disodlwyd Jim Murphy, arweinydd Plaid Lafur yr Alban gan Kirsten Oswald, wedi 18 mlynedd fel Aelod Seneddol, yn ogystal â Douglas Alexander.[5]
Ymateb Alex Salmond oedd "Scottish lion has roared".
Fis cyn yr etholiad, galwodd un o golofnwyr The Guardian, Jonathan Freeland, yr Etholiad Cyffredinol yn "Etholiad yr Alban", oherwydd yr holl amser a roddwyd i'r Alban gan y pleidiau yn ystod y misoedd a oedd yn arwain at yr etholiad. Mae'n bosibl fod y cynnydd aruthrol hwn yn aelodaeth a thwf yr SNP yn ganlyniad i sawl ffactor: 1. Poblogrwydd Nicola Sturgeon 2. Partneriaeth Llafur / Ceidwadwyr yn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014, gydag aelodau Llafur o'r farn fod Llafur wedi bradychu sosialaeth drwy droi at y Ceidwadwyr 3. Adwaith i ymateb negyddol pleidiau Lloegr e.e. Piers Morgan yn The Sun yn ysgrifennu: "the world’s most dangerous woman that few outside Britain have ever heard of”." neu David Cameron yn trin a thrafod hawliau a phwerau Lloegr yn hytrach na'r Alban.[6]
Remove ads
Cerrig filltir yn arwain at yr etholiad
Roedd dylanwad Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 yn fawr, yn bennaf oherwydd fod y polau piniwn yn rhagweld nifer helaeth o Aelodau Seneddol yr Plaid Genedlaethol yr Alban (yr 'SNP') yn cael eu hethol - fel adwaith i'r Refferendwm. Sylweddolwyd hefyd fod y frwydr rhwng y ddwy blaid fwyaf - Llafur a'r Ceidwadwyr - yn agos; golyga'r ddau beth yma y gall yr ASau SNP newydd, felly, ffurfio clymblaid gyda Llafur. Hyd yn oed 4 mis cyn yr etholiad daeth hi'n eglur yn y polau piniwn fod y nifer aelodau SNP am godi o 6 i fwy na 40.
Roedd ymateb y Ceidwadwyr i'r posibilrwydd hwn yn negyddol; dywedodd Cameron, ar 20 Mai, mai yn uffern y ffurfiwyd unrhyw glymblaid SNP-Llafur a rhagwelodd y perygl i'r Deyrnas Unedig o gael ASau SNP yr Alban yn rheoli gwledidyddiaeth Lloegr. Cafwyd sylwadau tebyg gan John Major ac eraill. Twt-twtian y fath bartneriaeth wnaeth y Blaid Lafur, ond ni chlowyd y drws yn glep.
Ar 9 Ebrill trodd sylwadau negyddol y Gweinidog Amddiffyn Michael Fallon yn ei wyneb, pan ymosododd ar Milliband; dywedodd fod Milliband wedi rhoi cyllell yng nghefn ei frawd ac y byddai'n rhoi cyllell arall yng nghefn y DU os cytuna gyda'r SNP i ddiddymu arfau niwclear Trident. Hyd yn oed gan rai aelodau Ceidwadol, sylweddolwyd fod sylwadau fel hyn yn gwneud mwy o ddrwg i'r blaid a'i llefarodd nag i'r gwrthrych-darged, a gwelwyd y Ceidwadwyr yn colli llawer o bleidleisiau yn y polau a ddilynodd hyn.
Ar 20 Ebrill cyhoeddwyd maniffesto'r SNP, a oedd yn cynnwys nifer o feysydd y tu allan i'r Alban, gan gynnwys diddymu Trident, canslo 'treth y stafell wely' lleihau ffioedd Lloegr o £9,000 i £6,000, codi 100,000 o dai newydd ym Mhrydain, diddymu gwaith 'oriau sero' a chodi lleiafswm cyflogau. Ar hyd y bedlan, mae'r SNP wedi siarad yn gryf o ran gwario yn hytrach na thoriadau ariannol. Roedd hyn yn ymgais i leddfu ofnau rhai Saeson a gwneud ei phlaid yn fwy derbyniol pe ffurfiwyd clymblaid.
Union wythnos cyn yr etholiad cyhoeddwyd canlyniadau pôl piniwn IPSOS Mori, rhagwelwyd y posibilrwydd y gallai'r SNP ennill pob sedd yn yr Alban: 54% o'r bleidlais.[7]
Remove ads
Dosbarthiad y pleidiau yn Nhy'r Cyffredin o 2015 ymlaen
Ar ôl i'r 650 canlyniad gael eu cyhoeddi, gwelwyd fod sefyllfa'r pleidiau fel a ganlyn:[8][9]
Plaid | Arweinydd | Nifer y Pleidleisiau | Seddi | |||
Ceidwadwyr | David Cameron | 11,334,920 (36.9%) | 330 (50.8%) | 330 / 650 | ||
Llafur | Ed Miliband | 9,344,328 (30.4%) | 232 (35.7%) | 232 / 650 | ||
UKIP | Nigel Farage | 3,881,129 (12.6%) | 1 (0.2%) | 1 / 650 | ||
Democratiaid Rhyddfrydol | Nick Clegg | 2,415,888 (7.9%) | 8 (1.2%) | 8 / 650 | ||
Plaid Genedlaethol yr Alban | Nicola Sturgeon | 1,454,436 (4.7%) | 56 (8.6%) | 56 / 650 | ||
Y Blaid Werdd | Natalie Bennett | 1,154,562 (3.8%) | 1 (0.2%) | 1 / 650 | ||
Unoliaethwyr Democrataidd | Peter Robinson | 184,260 (0.6%) | 8 (1.2%) | 8 / 650 | ||
Plaid Cymru | Leanne Wood | 181,694(0.6%) | 3 (0.5%) | 3 / 650 | ||
Sinn Féin | Gerry Adams | 176,232 (0.6%) | 4 (0.6%) | 4 / 650 | ||
Plaid Unoliaethol Ulster | Mike Nesbitt | 114,935 (0.4%) | 2 (0.3%) | 2 / 650 | ||
SDLP | Alasdair McDonnell | 99,809 (0.3%) | 3 (0.5%) | 3 / 650 | ||
Eraill | N/A | 349,487 (1.1%) | 1 (0.2%) | 1 / 650 | ||
Y Llefarydd | John Bercow | 1 (0.2%) | 1 / 650 | |||
Dosbarthiad y pleidiau yn Nhy'r Cyffredin 2010-15
- ^1 Gweler Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010 am ychwaneg o wybodaeth parthed tymor 2010-15.
- ^2 Etholwyd Lindsay Hoyle (Llafur), Eleanor Laing (Ceidwadwyr) a Dawn Primarolo (Llafur) yn Gadeirydd, Is-gadeirydd ac ail Ddirprwy Gadeirydd Ways and Means. Nid ydynt yn ymddiswyddo o'u plaid, ond maent yn rhoi'r gorau i bleidleisio. Caniateir peidleisio i hollti'r ddadl. Nid ydynt ychwaith yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid, nes y daw'n etholiad.
- ^3 Mae gan Sinn Féin swyddfeydd yn San Steffan, ond maent yn ymatal rhag cymryd rhan yn Nhŷ'r Cyffredin oherwydd nad ydynt yn cydnabod y Frenhines ayb.[11]
- ^4 Ail-etholiwyd John Bercow i etholaeth Buckingham fel Llefarydd.[12]
- ^5 Mae 'Mwyafrif gwirioneddol y Llywodraeth' yn cynnwys y Glymblaid Ceidwadwyr / Democratiaid Rhyddfrydol ac yn anwybyddu Aelodau nad ydynt yn pleidleisio (Sinn Féin, y Llefarydd a'i ddirprwyon) a seddi gweigion.
Remove ads
Dadleuon a ddarlledwyd
Dyma'r ail etholiad cyffredinol lle gwelwyd dadleuon ffurfiol wedi'u trefnu ar y teledu rhwng arweinyddion y prif bleidiau. Yn rhan o'r gyfres o ddadleuon, rhwng gwahanol bleidiau, ar 2 Ebrill, cafwyd dadl a oedd yn cynnwys 7 plaid gan gynnwys tair merch: Nicola Sturgeon (SNP), Natalie Bennett (Y Blaid Werdd) a Leanne Wood (Plais Cymru).[13] Am ryw reswm ni wahoddwyd arweinwyr pleidiau Gogledd Iwerddon, ac mae'r DUP yn ystyried mynd i gyfraith oherwydd hyn.[14] Yn gyffredinol, mae sawl beirniad / gwleidydd wedi awgrymu Nicola Sturgeon oedd y gorau o'r saith a bod y tair merch wedi trawsnewid gwleidyddiaeth gonfensiynol (tair-plaid) drwy'r darllediad.
Roedd y drydedd dadl, a gynhaliwyd ar 16 Ebrill yn cynnwys y "cystadleuwyr" i'r Llywodraeth h.y. heb Cameron a Clegg. Unwaith eto, y sylwadau mwyaf cyffredin oedd mai'r merched a enillodd y ddadl: Wood, Sturgeon a Bennette. Bydd dwy ddadl arall yn dilyn hyn: y naill rhwng Cameron a Miliband a'r llall rhwng Cameron, Miliband a Clegg ble bydd y gwleidyddion yn ateb cwestiynnau'n hytrach nag yn dadlau gyda'i gilydd.
Remove ads
Cymru
Trosolwg o'r canlyniadau yn ôl plaid
Ceir rhestr gyflawn o'r canlyniadau ar House of Commons Library General Elections Online.[15] Daw'r canlynol o wefan y BBC:[16]
1 Cyhwysir Llafur a’r Blaid Gydweithredol hefyd yn ffigurau'r Blaid Lafur.
Rhestr o'r ymgeiswyr llwyddiannus
Mae 40 Etholaeth Seneddol yng Nghymru. Rhestrir yr ymgeiswyr ar eu cyfer isod gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus mewn lythrennau bras. Dynodir Aelodau Seneddol oedd yn ail-sefyll i gadw eu seddi gyda *. Yna, yn dilyn, gwelir rhestr o'r ASau a etholwyd yn 2015.
Remove ads
Rhestr o'r ASau a etholwyd yn Etholiad 2015
|
Remove ads
Yr Alban
Oriel
- Enghraifft o bapur pleidleisio drwy'r post a ddefnyddiwyd yn Etholaeth Gorllewin Clwyd; 2015
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads