Prif Weinidog yr Alban ac arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o Albanes yw Nicola Sturgeon (ganwyd 19 Gorffennaf 1970) a wasanaethodd fel Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban rhwng 2014 a 2023. Cyn hynny bu'n Ddirprwy Brif Weinidog rhwng 17 Mai 2007 a 19 Tachwedd 2014.[1] Ar 15 Chwefror 2023 cyhoeddoedd ei fod am ymddiswyddo fel prif weinidog ac arweinydd yr SNP wedi i olynydd gael ei ethol.[2]
Nicola Sturgeon | |
Cyfnod yn y swydd 20 Tachwedd 2014 – 28 Mawrth 2023 | |
Dirprwy Brif Weinidog yr Alban | |
Cyfnod yn y swydd 17 Mai 2007 – 19 Tachwedd 2014 | |
Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban | |
Cyfnod yn y swydd 5 Medi 2012 – 19 Tachwedd 2014 | |
Arweinydd yr SNP | |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 14 Tachwedd 2014 | |
Geni | 19 Gorffennaf 1970 Irvine, Gogledd Swydd Ayr |
---|---|
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Peter Murrell |
Alma mater | Prifysgol Glasgow |
Bu'n aelod o Blaid Genedlaethol yr Alban (neu'r SNP) ers oedd yn 16 oed. Mae hefyd yn Arweinydd y blaid honno (a adnabyddir hefyd fel yr 'SNP') ac yn Ddepute (neu Ddirprwy) 2004-2014. Bu hefyd yn Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Stategaeth y Senedd a'r Llywodraeth ac yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Isadeiledd, Buddsoddiad a Dinasoedd. Hi yw'r Aelod Senedd yr Alban (MSP) dros Glasgow (Deheuol).[3]
Ym 1999 y daeth Sturgeon yn Aelod Seneddol yn gyntaf, gan ddod yn Llefarydd yr SNP dros iawnderau ac yna dros iechyd ac addysg. Yn dilyn ymddeoliad John Swinney yn 2004 safodd yn y frwydr dros arweinyddiaeth y blaid, ond tynnodd ei henw'n ôl pan benderfynodd Alex Salmond ymgeisio a daeth yn Ddirprwy (neu Depute). Safodd Salmond i lawr rhwng 2004 a 2007 a phenodwyd Sturgeon yn Arweinydd nes y daeth Salmond yn ei ôl i gymryd yr awenau yn etholaeth cyffredinol 2007 pan enillodd yr SNP fwy o seddau nac unrhyw blaid arall yn yr Alban. Apwyntiwyd Salmond yn Brif Weinidog ac apwyntiodd ef ei Ddirprwy: Sturgeon.
Cafodd ei geni yn Irvine, Gogledd Swydd Ayr. Cafodd ei haddysg uwchradd yn Greenwood Academy, Dreghorn ac aeth yn ei blaen i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Glasgow ble y cafodd LLB gydag Anrhydedd a Diploma mewn Cyfraith Ymarferol.[4] Yn Glasgow roedd yn flaenllaw iawn yng ngwaith yr SNP. Yna gweithiodd fel cyfreithwraig yn Stirling ac yna Canolfan y Gyfraith yn Drumchapel, Glasgow cyn iddi gael ei hethol yn MSP (Aelod o Lywodraeth yr Alban).
Yn 2012, etholodd Cabined Llywodraeth yr Alban Sturgeon i ofalu am Refferendwm annibyniaeth yr Alban, 2014,[5] ac felly'n gyfrifol am ymgyrch yr SNP dros annibyniaeth.[6] Cred Sturgeon y gall annibyniaeth gryfhau'r Alban gan ei wneud yn fwy cystadleuol,[7] gan newid blaenoriaethau gwariant y wlad ac ateb y broblem o dlodi dybryd.[8]
Mewn cyfweliad gyda'r Daily Record, dywedodd Sturgeon y gobeithiai rywdro fod y ferch gyntaf yn swydd y Prif Weinidog.[6] Ar 19 Tachwedd 2014 gwireddwyd hynny yn dilyn ymddiswydiad Alex Salmond.[9]
Enillodd Sturgeon y teitl 'Gwleidydd Albanaidd y Flwyddyn' yn 2008. Yn 2004 a 2008 enillodd Wobr Donald Dewar: Dadleuwr y Flwyddyn, cystadleuaeth a drefnir gan The Herald.
Yn Chwefror 2013 enwyd hi fel 20fed ferch mwyaf pwerus y Deyrnas Unedig gan Women's Hour ar Radio 4.[10]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.