Dwyfor Meirionnydd (etholaeth seneddol)
etholaeth seneddol From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Etholaeth Dwyfor Meirionnydd yw'r enw ar etholaeth seneddol yn San Steffan. Lleolir yr etholaeth yn ne Gwynedd ac mae'n cynnwys yn fras ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd. Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) yw'r Aelod Seneddol presennol.
Cadwodd yr etholaeth ei henw ac enillodd rai wardiau, fel rhan o Adolygiad Cyfnodol 2023 o etholaethau San Steffan ac o dan argymhellion terfynol Mehefin 2023 y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar gyfer etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 2024.[1]
Remove ads
Ffiniau
Mae'r wardiau etholiadol a ddefnyddiwyd i greu'r sedd fel a ganlyn. Maent yn gyfan gwbl o fewn sir gadwedig Gwynedd.
Aberdaron, Aberdyfi, Aber-erch, Abermaw, Abersoch, y Bala, Botwnnog, Bowydd a Rhiw, Brithdir a Llanfachreth / Ganllwyd / Llanelltyd, Bryn-crug / Llanfihangel, Clynnog, Corris / Mawddwy, Criccieth, Diffwys a Maenofferen, Dolgellau, Dyffryn Ardudwy, Efailnewydd/Buan, Harlech, Llanaelhaearn, Llanbedr, Llanbedrog, Llandderfel, Llanengan, Llangelynin, Llanuwchllyn, Llanystumdwy, Morfa Nefyn, Nefyn, Penrhyndeudraeth, Dwyrain Porthmadog, Gorllewin Porthmadog, Porthmadog- Tremadog, Gogledd Pwllheli, De Pwllheli, Teigl, Trawsfynydd, Tudweiliog a Thywyn.
Remove ads
Aelodau Seneddol
- 2010-2015: Elfyn Llwyd (Plaid Cymru)
- 2015- : Liz Saville-Roberts (Plaid Cymru)
Etholiadau
Canlyniadau Etholiadau yn y 2020au
Canlyniadau Etholiadau yn y 2010au
1Amcanol yn Unig
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads