athro, cyflwynydd teledu, newyddiadurwr (1942- ) From Wikipedia, the free encyclopedia
Darlledwr ac awdur o Gymro yw Roy Noble CBE, DL, O.St.J (ganwyd 8 Tachwedd 1942). Mae wedi darlledu yng Gymraeg a Saesneg ar radio a theledu ers yr 1980au.
Ganwyd Noble yn 1942 ym Mrynaman, Sir Gâr, yn unig fab i lôwr, Ivor Noble, a'i wraig Sadie. Magwyd ym Mrynaman, ac ar ôl pasio ei arholiad Wedi 11 mynychodd Ysgol Dyffryn Aman lle roedd ei gyd-ddisgyblion yn cynnwys Vernon Pugh a John Cale.[1]
Fe symudodd o Rydaman i Gaerdydd er mwyn gwneud ymarfer dysgu. Yna fe aeth yn athro yn Lloegr cyn dychwelyd i Gymru.
Fe ddaeth yn Brifathro ar ysgol Thomas Stephens ym Mhontneddfechan ac yna Ysgol Gynradd Llangatwg yng Nghrucywel.
Yn ddiweddarach fe ddechreuodd weithio yn rhan amser i BBC Radio Wales gan gyflwyno eitem Letters from Aberdare ar y rhaglen foreol. Yn 1985 fe adawodd fyd addysg gan gymryd swydd llawn amser gyda'r BBC. Fe gyflwynodd rhaglen ddyddiol ar BBC Radio Wales gan ennill gwobr Sony yn 1999. Yn 2012 fe adawodd y rhaglen ddyddiol a fe gychwynodd rhaglen wythnosol ar fore Sul ar yr un gorsaf.
Roedd yn un o gyflwynwyr rheolaidd y rhaglen ddyddiol Heno ar S4C o 1994 hyd at 2001.[2]
Mae'n byw gyda'i wraig Elaine ym mhentre Llwydcoed ger Aberdâr yng Nghwm Cynon. Mae gan y cwpl un mab, Richard.
Yn 2001, derbyniodd OBE am ei waith elusennol.[3] Ym Mehefin 2024 derbyniodd CBE yn rhestr Anrhydeddau'r Brenin, am ei gyfraniad i ddiwylliant, iaith a chymunedau Cymru.[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.