cyfansoddwr a aned yn Garnant yn 1942 From Wikipedia, the free encyclopedia
Cerddor yw John Cale (ganwyd 9 Mawrth 1942). Efe a sefydlodd y band arbrofol The Velvet Underground gyda Lou Reed yn 1965. Cafodd ei eni yn y Garnant, Sir Gaerfyrddin.
John Cale | |
---|---|
Ganwyd | John Davies Cale 9 Mawrth 1942 Garnant |
Man preswyl | Garnant, Dinas Efrog Newydd, Los Angeles, Llundain |
Label recordio | Columbia Records, Reprise Records, Island Records, Illegal Records, SPY Records, A&M Records, ZE Records, Beggars Banquet Records, Hannibal Records, EMI Records, Double Six Records, I.R.S. Records, All Saints Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, cynhyrchydd recordiau, actor, awdur geiriau, hunangofiannydd, model, actor ffilm, actor teledu, trefnydd cerdd, cerddoror arbrofol, pianydd, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, cyfansoddwr, cyfarwyddwr ffilm, canwr |
Blodeuodd | 1997 |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Paris 1919, Music for a New Society |
Arddull | roc arbrofol, roc amgen, roc celf, roc poblogaidd, roc gwerin, drone music, proto-punk, avant-garde music, spoken word, cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth roc |
Math o lais | bariton |
Prif ddylanwad | Antonio Vivaldi, Iannis Xenakis, Morton Feldman, Edgard Varèse, La Monte Young, Bedřich Smetana |
Mudiad | Fluxus |
Tad | William Arthur George Cale |
Mam | Margaret Davies |
Priod | Betsey Johnson, Cynthia Wells, Risé Cale |
Partner | Claudia Gould, Jane Friedman |
Plant | Eden Cale |
Gwobr/au | OBE, gradd er anrhydedd, gradd er anrhydedd, Człowiek ze Złotym Uchem, Rock and Roll Hall of Fame |
Gwefan | https://john-cale.com |
llofnod | |
Yn enwocaf am ei gerddoriaeth roc, mae Cale hefyd wedi gweithio mewn amryw o genres yn cynnwys drôn a chlasurol. Astudiodd yng Ngholeg Goldsmith, Prifysgol Llundain. Ers gadael The Velvet Underground mae Cale wedi rhyddhau dros ddwsin o recordiau hir unigol ac wedi gweithio gyda rhai o enwau mawrion y byd roc yn cynhyrchu neu’n chwarae offerynnau.
Ymhlith y rhai mae Cale wedi cydweithio â nhw yw: Lou Reed, Nico, La Monte Young, John Cage, Terry Riley, Hector Zazou, Cranes, Nick Drake, Mike Heron, Kevin Ayers, Brian Eno, Patti Smith, The Stooges, Lio, The Modern Lovers, Art Bergmann, Manic Street Preachers, James Dean Bradfield, Super Furry Animals, Catatonia, Manchild, Big Leaves, Derrero, Tystion, Fernhill, Gorky's Zygotic Mynci, Marc Almond, Element of Crime, Squeeze, Happy Mondays, LCD Soundsystem, The Replacements a Siouxsie and the Banshees.
Fe'i ganwyd yn ardal Cwmaman i Will Cale a Margaret Davies. Roedd ei fam yn athrawes a'i dad yn löwr. Fe'i magwyd yn uniaith Gymraeg hyd nes iddo ddechrau dysgu Saesneg wrth fynychu ysgol gynradd, er bod ei dad yn ddi-Gymraeg.[1] .
Mae Cale, a oedd yn unig blentyn, yn cofio pedwar brawd ei fam yn glir, yn eu plith Davey Davies a gynhyrchai, gyda'i wraig, Mai Jones, sioe radio adloniant ysgafn BBC Wales, Welsh Rarebit; hi a gyfansoddodd y gerddoriaeth i We'll Keep a Welcome, a glywyd gyntaf yn 1940. ‘Dyma beth oedd adloniant o ddifri', meddai Cale (Cale a Bockris 1999). Roedd ewythr arall, "dylanwad mawr iawn arnaf", yn canu'r ffidil, ac o ganlyniad dechreuodd Cale ddysgu’r piano a’r fiola yn y man.[2]
Roedd cerddoriaeth ac addysg o’i gwmpas ym mhobman wrth iddo dyfu, ac aeth yn ei flaen o Ysgol Gynradd Sirol y Garnant i Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Bu cyfres o drafferthion personol pan oedd oddeutu’r 13 oed yn rhwystr i’w yrfa academaidd; ond maes o law enillodd Cale le i hyfforddi fel athro yng Ngholeg Goldsmiths yn ne Llundain, lle bu’n astudio rhwng 1960 ac 1963. Yn ystod ei blentyndod fe ymosodwyd arno'n rhywiol gan ddau dyn gwahanol, un ohonynt yn weinidog Anglicanaidd, o fewn eglwys.[1][3]
Wedi darganfod ei dalent yn chwarae'r fiola, astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Goldsmiths, Llundain. Yno, cyfrannodd at gyflwyno cerddoriaeth fodernaidd ac avant-garde ei ddydd, gan gynnwys ei waith ei hun. Yn sgil cyfarfod ag Aaron Copland cafodd le yng Nghanolfan Gerddoriaeth Berkshire yn Tanglewood, Massachusetts, ond buan y symudodd i Efrog Newydd, a fu ers hynny’n ganolbwynt daearyddol i’w fywyd. Cydweithiodd â'r mudiad avant garde Fluxus gan drefnu un o'u cyngherddau cynnar ym 1964.[4] Gyda chymorth y cyfansoddwr Americanaidd enwog Aaron Copland fe deithiodd i'r Unol Daleithiau i barhau ei astudiaethau cerddorol.
Yn Efrog Newydd cyfarfu â nifer o gyfansoddwyr dylanwadol gan gymryd rhan mewn cyngerdd piano 18 awr o Vexations gan Erik Satie. Yn dilyn y gyngerdd fe ymddangosodd ar y rhaglen deledu I've Got a Secret – ei gyfrinach ei fod o wedi perfformio mewn cyngerdd 18 awr.[5] Bu hefyd yn chwarae mewn ensemble Theatre of Eteranal Music/Dream Syndicate: roedd eu cerddoriaeth drôn yn ddylanwad ar y Velvet Underground yn ddiweddarach. Un o'i gydweithwyr cynnar oedd Sterling Morrison a ddaeth yn gitarydd y Velvet Underground.
Yn gynnar ym 1965, cyd-sefydlodd band gyda Lou Reed, yn recriwtio Angus MacLise (a oedd yn rhannu fflat ar y pryd) a Sterling Morrison. Fe ddefnyddwyd yr enwau The Primatives, a'r Falling Spikes cyn dewis y Velvet Underground, a ysbrydolwyd gan lyfr am arferion rhywiol.
Yn fuan cyn eu gig cyntaf (am ffi o $75 mewn ysgol gynradd), gadawodd MacLise y grŵp ac fe gymerwyd ei le gan Maureen Tucker ar ddrymiau. Er iddi ond cael ei recriwtio am y noson honno, daeth hi'n aelod sefydlog gyda'i steil dyrnu elfennol yn dod yn rhan annatod o sŵn y band, er gwaethaf amheuon Cale ar y dechrau.
Y recordiad cyntaf a rhyddhawyd oedd trac offerynnol o'r enw Loop ar ddisg-fflecsi a gynhwtswyd am ddim gyda'r cylchgrawn tanddaearol Aspen Magazine. Cafwyd ar y trac arbrawf atborth (feed-back) a ysgrifennwyd gan Cale a chwaraeodd y fiola.[6]
Roedd perthynas greadigol Cale a Reed yn rhan annatod o sŵn dau record hir cyntaf y band The Velvet Underground & Nico – Andy Warhol, 1967 a White Light/White Heat, 1968. Chwaraeai Cale y fiola yn bennaf ond yn roedd hefyd yn cyfrannu gitâr fâs, organ a llais cefndir ac yn siarad ar The Gift.
Chwaraeodd ar record cyntaf Nico, Chelsea Girl, 1967, a oedd yn cynnwys cyfansoddiadau ganddo ac aelodau eraill y Velvet Underground.
Gadawodd Cale y band ym 1968 yn rhannol oherwydd anghytundebau creadigol â Reed.
Yn dilyn marwolaeth Andy Warhol ym 1989 daeth Cale a Reed yngnghyd unwaith eto i recordio'r deyrnged Songs for Drella. Yn dilyn y prosiect fe ail-unodd y Velvet Underground ar gyfer nifer o gyngherddau ym 1993 er i Cale ddweud yn ddiweddarach nad oedd yn hapus gyda'r syniad.[7]
Ers gadael y Velvet Underground mae Cale wedi gweithio fel cynhyrchydd neu wedi chwarae offerynnau ar nifer fawr o recordiau hir, gan gyd-weithio â rhai o'r artistiaid mwyaf adnabyddus y byd roc.
Mae Cale wedi recordio 15 o recordiau hir unigol a hefyd wedi cynhyrchu traciau sain i nifer o ffilmiau, yn aml gan ddefnyddio steil offerynnol clasurol.
Ym 1999 cyhoeddodd ei hunangofiant What's Welsh for Zen? a chwaraeodd yn agoriad swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Roedd cyffuriau yn rhan hanfodol o gerddoriaeth Efrog newydd y 1960au a 1970au: dywedodd Cale "In the '60s, for me, drugs were a cool experiment... In the '70s, I got in over my head."[8] ond bellach mae wedi rhoi'r gorau i'w defnyddio. Yn 2009 cyflwynodd Cale raglen deledu BBC Wales Heroin, Wales and Me am broblemau cyffuriau yng Nghymru.[9]
Cynrychiolodd Cymru yn y 2009 Venice Biennale gyda'i waith 'Dyddiau Du' a archwiliai'i berthynas â'r iaith Gymraeg.[10]
Rhyddhawyd ei 16ed albwm unigol M:FANS yn Ionawr 2016. Roedd yn cynnwys fersiynau newydd o ganeuon o'i albwm Music for a New Society (1982).[11]
Mewn cyfweliad gyda Huw Stephens yn Chwefror 2016, cyhoeddodd ei fod am ddechrau cyfansoddi yn y Gymraeg a fod ganddo rhai syniadau am ganeuon yn ei famiaith yn barod.[12]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.