pentref yn Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Cwmaman. Saif y gymuned ynghanol Dyffryn Aman, i'r dwyrain o Rydaman. Mae'n cynnwys pentref Glanaman a'r Garnant, a rhan o lethrau gorllewinol y Mynydd Du.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,486, 4,556 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,746.13 ha |
Cyfesurynnau | 51.805°N 3.915°W |
Cod SYG | W04000499 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yn yr ardal yma, ond caeodd y pwll mwyaf, sef Gelliceidrym, yn 1958, ac erbyn 1985 roedd pob un o'r pyllau glo wedi cau. Roedd hefyd ddiwydiant tunplat yma.
Cynrychiolir Cwmaman yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 4,226, gyda 78.47% yn medru Cymraeg.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Cwmaman, Sir Gaerfyrddin (pob oed) (4,486) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cwmaman, Sir Gaerfyrddin) (2,567) | 59.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cwmaman, Sir Gaerfyrddin) (3360) | 74.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Cwmaman, Sir Gaerfyrddin) (845) | 43.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.