actor a chyfansoddwr a aned yn Brooklyn,, Efrog Newydd yn 1942 From Wikipedia, the free encyclopedia
Canwr, gitarydd a chyfansoddwr caneuon roc Americanaidd oedd Lewis Allan "Lou" Reed (2 Mawrth 1942 – 27 Hydref 2013).[1]
Lou Reed | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mawrth 1942 Brookdale University Hospital and Medical Center, Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 27 Hydref 2013 o sirosis Southampton, East Hampton, Dinas Efrog Newydd |
Label recordio | Warner Bros. Records, Metro-Goldwyn-Mayer, RCA, Pickwick, Verve Records, MGM Records, RCA Records, Arista Records, Sire Records, Warner Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, canwr-gyfansoddwr, gitarydd, ffotograffydd, cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon, bardd, actor, cynhyrchydd recordiau, cyfarwyddwr ffilm, cerddor, swyddog gweithredol cerddoriaeth |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Walk on the Wild Side, Transformer |
Arddull | cerddoriaeth roc, proto-punk, roc amgen, noise rock, roc arbrofol, roc glam, roc gwerin, roc seicedelig, blue-eyed soul, roc celf, spoken word, drone music |
Math o lais | bariton |
Priod | Betty Reed, Silvia Morales, Laurie Anderson |
Gwobr/au | Gwobr Steiger, Rock and Roll Hall of Fame, Gwobr Grammy |
Gwefan | http://www.loureed.com |
Ganwyd yn Brooklyn, Dinas Efrog Newydd, i deulu Iddewig ym 1942 a mynychodd Prifysgol Syracuse. Yn Ninas Efrog Newydd bu'n cwrdd â'r Cymro John Cale a sefydlodd y ddau y band roc The Velvet Underground ym 1965 gyda'r gitarydd Sterling Morrison a'r drymwraig Maureen Tucker, a bu'r arlunydd Andy Warhol yn rheolwr a chynhyrchydd. Erbyn i Reed adael y band ym 1970, rhyddhaodd The Velvet Underground pedwar albwm oedd yn arloesol yng nghelfyddyd avant-garde a cherddoriaeth arbrofol. Nid oedd y band yn hynod o lwyddiannus ar y pryd, ond ers hynny mae dylanwad The Velvet Underground ar gerddoriaeth roc yn amlwg.[2][3]
Ym 1972 symudodd Reed i Loegr a rhyddhaodd ei ddau albwm unigol cyntaf, Lou Reed a Transformer. Cyd-gynhyrchwyd Transformer gan David Bowie ac mae'n cynnwys rhai o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, Vicious, Perfect Day, Walk on the Wilde Side, a Satellite of Love. Dan ddylanwad Bowie mabwysiadodd Reed delwedd a sain roc glam sy'n amlwg yn y llun eiconig ohono ar glawr Transformer. Roedd ei waith hefyd yn ddylanwadol ar bync-roc yn y cyfnod hwn.[3] Bu perthynas Reed ag alcohol a chyffuriau yn effeithio ar ei yrfa, ac roedd yr ymateb beirniadol a phoblogaidd i'w albymau trwy'r 1970au yn gymysg. Ei weithiau mwyaf ddrwg-enwog yw Berlin (1973), cylch o ganeuon epig am berthynas sadomasochistaidd, a Metal Machine Music (1975), albwm dwbl o sŵn adlif gitâr yn unig.
Arbrofodd ymhellach gyda Street Hassle (1978) a The Bells (1979),[1] a dychwelodd at roc crai'r gitâr ar The Blue Mask (1982).[3] Wedi i Reed rhoi'r gorau i'w ddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau, derbynodd clod am gyfres o albymau: New York (1989); Songs for Drella (1990), cydweithrediad â John Cale er cof am Warhol; a Magic and Loss (1992) a ddangosodd medr Reed gyda'r gân roc a rôl dau-gord.[1] Yn y 1990au adunodd â The Velvet Underground nifer o weithiau, er bu peth anghytundeb rhyngddo a Cale.[2] Rhyddhaodd Reed rhagor o albymau gan arbrofi â cherddoriaeth amgylchol a llefaru, er enghraifft ar The Raven (2003) sy'n seiliedig ar weithiau Edgar Allan Poe. Yn 2011 cyd-weithiodd â'r band metel trwm Metallica i greu'r albwm Lulu.[4]
Priododd Bettye Kronstadt ym 1973, y ddylunwraig Sylvia Morales ym 1980, a'r gerddores Laurie Anderson yn 2008.[5] Cafodd trawsblaniad afu ym Mai 2013, ac yn Hydref y flwyddyn honno bu farw yn 71 oed o glefyd yr afu.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.