From Wikipedia, the free encyclopedia
Ar Ddydd Llun 1 Ionawr 2024, am 16:10 Amser Safonol Japan (07:10 UTC), cafodd Gorynys Noto yn Nhalaith Ishikawa, yng ngogledd canolbarth ynys Honshū, Japan, ei tharo gan ddaeargryn a fesurai 7.6 ar raddfa Asiantaeth Feteorolegol Japan neu 7.5 ar raddfa maint moment. Cofnodwyd uwchganolbwynt y ddaeargryn 7 cilometr (4.3 mi) i ogledd-ogledd-orllewin dinas Suzu. Hon oedd y ddaeargryn fwyaf yn Japan ers daeargryn Ogasawara yn 2015.
Enghraifft o'r canlynol | Daeargryn |
---|---|
Dyddiad | 1 Ionawr 2024 |
Lladdwyd | 241 |
Rhan o | Noto earthquake swarm |
Lleoliad | Noto Peninsula |
Gwladwriaeth | Japan |
Rhanbarth | Ishikawa |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Wedi'r ysgytwad, cyhoeddwyd rhybudd tswnami, a chyngor hefyd o bosibilrwydd tswnami ar hyd bron holl arfordiroedd Môr Japan, gan gynnwys gorllewin ynys Hokkaido yng ngogledd Japan, ynys Sakhalin a chreiau Khabarovsk a Primorsk yn Rwsia, dwyrain Gogledd Corea, a gogledd-ddwyrain De Corea. Gorchmynnwyd i 50,000 o bobl adael aneddiadau ar hyd arfordir Talaith Ishikawa a llochesu yng nghanol y tir. Yn hwyr y prynhawn mesurwyd tswnami o 1.2 metr (3 tr 11 mod) yng Ngorynys Noto.[1] Er yr oedd yn llawer llai na'r rhagdybiad—bu ofn ar y cychwyn y gallai tonnau gyrraedd uchder o 5 metr (16 tr)—difrodwyd nifer o gartrefi, porthladdoedd, ac adeiladweithiau eraill ar lan y môr, a chafodd nifer o gychod pysgota eu suddo neu eu hysgubo i mewn i'r wlad.[1][2]
Trannoeth, cyhoeddwyd o leiaf 48 o farwolaethau, y mwyafrif o ganlyniad i hen dai pren yn cwympo. Un o'r cymunedau a effeithwyd oedd Wajima, ar lan y môr rhyw 20 milltir o uwchganolbwynt y ddaeargryn, lle cychwynnodd tanchwa o ganlyniad i'r difrod a losgodd o leiaf 200 o adeiladau yng nghanol y dref dros nos.[2]
Dilynwyd y ddaeargryn gan nifer o ôl-gryniadau ar hyd arfordir gogleddol Honshū yn bennaf, gan gynnwys graddfa 5 yn Kashiwazaki a graddfa 4 yn Komatsu, Kanazawa, Toyama, Joetsu, ac yn fewndirol yn Nagano a Niigata.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.