From Wikipedia, the free encyclopedia
Ynys ger arfordir dwyreiniol Rwsia yw Sachalin, hefyd Sakhalin (Rwseg: Сахали́н). Saif rhwng Môr Ochotsk a Môr Japan. Hi yw'r fwyaf o ynysoedd Rwsia. Gydag Ynysoedd Kuril mae'n ffurfio Oblast Sakhalin, un o ranbarthau Rwsia.
Math | ynys, gweithrediaeth |
---|---|
Prifddinas | Yuzhno-Sakhalinsk |
Poblogaeth | 673,100 |
Cylchfa amser | UTC+11:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oblast Sakhalin |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 72,492 km² |
Uwch y môr | 1,609 metr |
Gerllaw | Môr Japan, North Pacific Ocean |
Cyfesurynnau | 50.5°N 143°E |
Hyd | 950 cilometr |
Mae arwynebedd yr ynys yn 76,400 km2, a'r boblogaeth tua 673,000. Y ddinas fwyaf, a phrifddinas yr oblast yw Yuzhno-Sakhalinsk, yn ne yr ynys. Gwahenir yr ynys oddi wrth dir mawr Rwsia gan Gulfor Tatar, sy'n 7.3 km yn ei fan gulaf, ac yn rhewi yn y gaeaf, tra mae Culfor La Pérouse yn ei gwahanu oddi wrth Hokkaido, yr agosaf o ynysoedd Japan.
Arferai'r ynys fod yn eiddo Tsieina, er i Japan geisio ei meddiannu hefyd. Meddiannodd Rwsia yr ynys o'r 18g ymlaen, ond parhaodd rhan o dde yr ynys ym meddiant Japan hyd 1875.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.