From Wikipedia, the free encyclopedia
Damascus neu Dimashq (Arabeg دمشق), a elwir hefyd Esh Sham ar lafar yn Arabeg, yw prifddinas Syria.[1] Fe'i gelwir yn aml, yn Syria, fel aš-Šām (الشَّام) a'i enw "Dinas Jasmin" (مَدِينَة الْيَاسْمِين Madīnat al-Yāsmīn).
Math | dinas, dinas fawr, populated place in Syria, national capital, y ddinas fwyaf |
---|---|
Poblogaeth | 2,584,771 |
Pennaeth llywodraeth | Bishr Al Sabban |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Hauran |
Sir | Rhaglawiaeth Damascus |
Gwlad | Syria |
Arwynebedd | 105 km² |
Uwch y môr | 680 ±1 metr |
Gerllaw | Barada |
Cyfesurynnau | 33.51°N 36.29°E |
Pennaeth y Llywodraeth | Bishr Al Sabban |
Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y wlad, yn agos i'r ffin â Libanus ac mae ganddi boblogaeth o tua 2,584,771 (2023)[2] ac arwynebedd o tua 105 km2. [3] Daeth yn ddinas fwyaf y wlad yn gynnar yn y 2010au, yn dilyn y dirywiad ym mhoblogaeth Aleppo wedi Brwydr Aleppo (2012–2016). Mae Damascus yn ganolfan ddiwylliannol fawr yn y Lefant a'r byd Arabaidd.
Yn ne-orllewin Syria, mae Damascus yn ganolbwynt ardal fetropolitan fawr sydd wedi'i hymgorffori ar odre dwyreiniol y mynyddoedd, 80 cilomedr (50 milltir) i mewn i'r tir o lan ddwyreiniol Môr y Canoldir ar lwyfandir 680 metr (2,230 tr) uwch lefel y môr. Yma, ceir hinsawdd sych oherwydd yr effaith y "glaw cysgodol". Llifa Afon Barada trwy Damascus.
Mae hi'n un o ddinasoedd hynaf yn y byd ac yn ddinas fasnachol o'r cychwyn un. Roedd yn un o ddeg dinas y Decapolis yn nghyfnod y Rhufeiniaid. Yno y ceir y Stryd a elwir Syth. Ar ei ffordd i Ddamascus y cafodd sant Paul o Darsus ei droedigaeth.
Mae'r Fosg Fawr, a elwir weithiau'n "Fosg yr Ummaiaid yn un o'r rhai pwysicaf yn y byd Arabaidd. Dywedir bod Ioan Fedyddiwr wedi'i gladdu yno ac mae'n sanctaidd i Fwslemiaid a Christnogion fel ei gilydd.
Dan reolaeth Saladin roedd Damascus yn ganolfan weinyddol bwysig. Mae beddrod Saladin i'w gweld yn y ddinas heddiw. Roedd hi dan reolaeth yr Ottomaniaid o 1516 hyd 1918. Cipiwyd y ddinas gan Ffrainc yn 1920. Daeth yn brifddinas y Syria annibynnol yn 1941.
Ymddangosodd enw Damascus gyntaf yn rhestr ddaearyddol Thutmose III fel T-m-ś-q yn y 15g CC. Mae etymoleg yr enw hynafol "T-m-ś-q" yn ansicr.[4] Yr enw Cymraeg, Saesneg a Lladin y ddinas yw "Damascus", a fewnforiwyd o'r Groeg Δαμασκός ac a darddodd o'r "Qumranic Darmeśeq (דרמשק), a Darmsûq (ܕܪܡܣܘܩ) yn Syrieg", sy'n golygu "gwlad sydd wedi'i dyfrio'n dda".[5][6][7]
Adeiladwyd Damascus mewn safle strategol ar lwyfandir 680 m (2,230 tr) uwch lefel y môr a thua 80 km (50 milltir) i mewn i'r tir o Fôr y Canoldir. Fe'i cysgodir gan fynyddoedd "Gwrth-Libanus" (Jibāl Lubnān ash-Sharqiyyah), gyda chyflenwad dŵr o Afon Barada. Mae'n groesffordd rhwng llwybrau masnach: y llwybr gogledd-de sy'n cysylltu'r Aifft ag Asia Leiaf, a'r llwybr traws-anialwch o'r dwyrain i'r gorllewin sy'n cysylltu Libanus â dyffryn afon Ewffrates. Mae'r mynyddoedd Gwrth-Libanus yn nodi'r ffin rhwng Syria a Libanus.[8]
Mae'r gadwyn yma o gopaon, sydd dros 10,000 troedfedd, yn blocio dyodiad o fôr Môr y Canoldir, fel bod rhanbarth Damascus weithiau'n lle sych. Fodd bynnag, yn yr hen amser cafodd hyn ei liniaru gan Afon Barada, sy'n tarddu o nentydd mynydd sy'n cael eu bwydo gan eira'n dadmer. Mae Damascus wedi'i amgylchynu gan y "Ghouta", tir ffermio ffrwythlon wedi'i ddyfrhau, lle mae llawer o lysiau, grawnfwydydd a ffrwythau wedi'u ffermio ers cyn cof. Mae mapiau o Syria Rufeinig yn nodi bod afon Barada wedi gwagio i mewn i lyn i'r dwyrain o Damascus. Heddiw fe'i gelwir yn Bahira Atayba, "y llyn petrusgar" oherwydd mewn blynyddoedd o sychder difrifol nid yw hyd yn oed yn bodoli.
Mae gan y ddinas fodern ardal o 105 km2 (41 metr sgwâr), y mae 77 km2 (30 metr sgwâr) ohoni yn drefol, a Jabal Qasioun yw'r gweddill.[9]
Mae hen ddinas Damascus, wedi'i hamgáu gan waliau'r ddinas, ar lan ddeheuol afon Barada sydd bron yn sych. I'r de-ddwyrain, y gogledd a'r gogledd-ddwyrain mae wedi'i hamgylchynu gan ardaloedd maestrefol y mae eu hanes yn ymestyn yn ôl i'r Oesoedd Canol: Midan yn y de-orllewin, Sarouja ac Imara yn y gogledd a'r gogledd-orllewin. Cododd y cymdogaethau hyn yn wreiddiol ar ffyrdd sy'n arwain allan o'r ddinas, ger beddrodau pobl crefyddol nodedig.
Yn y 19g datblygodd pentrefi pellennig ar lethrau Jabal Qasioun, yn edrych dros y ddinas, a oedd eisoes yn safle cymdogaeth al-Salihiyah wedi'i ganoli ar gysegrfa bwysig Sheikh Andalusaidd ganoloesol a'r athronydd Ibn Arabi. Cafodd y cymdogaethau newydd hyn eu sefydlu i ddechrau gan filwyr Cwrdaidd a ffoaduriaid Mwslimaidd o ranbarthau Ewropeaidd yr Ymerodraeth Otomanaidd a oedd wedi dod o dan lywodraeth Gristnogol. Felly fe'u gelwid yn al-Akrad (y Cwrdiaid) ac al-Muhajirin (yr ymfudwyr). Maent yn gorwedd 2–3 km (1–2 milltir) i'r gogledd o'r hen ddinas.
O ddiwedd y 19g ymlaen, datblygodd canolfan weinyddol a masnachol lwyddiannus i'r gorllewin o'r hen ddinas, o amgylch y Barada, wedi'i chanoli ar yr ardal a elwir yn al-Marjeh neu'r "Ddôl". Yn fuan daeth Al-Marjeh yn enw ar yr hyn a oedd yn sgwâr canolog Damascus modern, gyda neuadd y ddinas wedi'i leoli yno. Roedd y llysoedd cyfiawnder, y brif swyddfa bost a gorsaf reilffordd yn sefyll ar dir uwch, ychydig i'r de. Cyn bo hir, dechreuwyd adeiladu y rhan preswyl Ewropeaidd ar y ffordd sy'n arwain rhwng al-Marjeh ac al-Salihiyah. Yn raddol, symudodd canolfan fasnachol a gweinyddol y ddinas newydd tua'r gogledd ychydig tuag at yr ardal hon.
Yn yr 20g, datblygodd maestrefi newydd i'r gogledd o'r Barada, ac i raddau i'r de, gan ymestyn i fewn i werddon Ghouta.Ym 1956–1957, daeth cymdogaeth newydd Yarmouk yn ail gartref i filoedd o ffoaduriaid Palesteinaidd.[10] Roedd yn well gan gynllunwyr dinasoedd warchod y Ghouta cyn belled ag y bo modd. Ar ddiwedd yr 20g roedd rhai o'r prif datblygiadau i'w gweld yn y gogledd, yng nghymdogaeth orllewinol Mezzeh ac yn fwyaf diweddar ar hyd dyffryn Barada yn Dummar yn y gogledd orllewin ac ar lethrau'r mynyddoedd yn Berze yn y gogledd-ddwyrain. Mae ardaloedd tlotach, a adeiladir yn aml heb ganiatad swyddogol, wedi datblygu i'r de o'r brif ddinas.
Mae gan Damascus hinsawdd lled-cras, oer - y math a elwir yn "Bsk" yn system Köppen-Geiger, oherwydd effaith cysgodol glaw y mynyddoedd Gwrth-Libanus a cheryntau'r cefnfor.[11][12] Mae'r hafau'n hir, yn sych ac yn boeth gyda llai o leithder. Mae'r gaeafau'n cŵl ac yn wlyb braidd; anaml y ceir cwymp eira. Byr ac ysgafn yw'r hydref, ond mae ganddo'r newid tymheredd yn sydyn, yn wahanol i'r gwanwyn lle mae'r newid i'r haf yn fwy graddol a chyson. Mae'r glawiad blynyddol oddeutu 130 mm (5 mewn), yn digwydd rhwng Hydref a Mai.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.