môr From Wikipedia, the free encyclopedia
Môr rhwng Ewrop, Asia ac Affrica yw'r Môr Canoldir (weithiau Môr y Canoldir). Daw'r enw o'r Lladin mediterraneus (medius, "canol" + terra, "tir"), ond roedd y Rhufeiniaid yn ei alw'n Mare Nostrum, sef "ein môr ni". Ceir tir bron ym mhobman o'i gwmpas: yn y gogledd mae Gorllewin a De Ewrop ac Anatolia, yn y de ceir Gogledd Affrica, ac i'r dwyrain o'r Môr Canoldir mae'r Lefant. Ei arwynebedd yw tua 2.5 miliwn km² (970,000 millt sg), sy'n cyfateb i 0.7% o arwyneb y cefnfor byd-eang.
Math | môr mewndirol, môr canoldir, basn draenio |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Cefnfor yr Iwerydd, Ardal Môr Canoldir |
Gwlad | Sbaen, Ffrainc, yr Eidal, Monaco, Slofenia, Croatia, Montenegro, Albania, Gwlad Groeg, Malta, Cyprus, Twrci, Libanus, Syria, Israel, Gwladwriaeth Palesteina, Yr Aifft, Libia, Tiwnisia, Algeria, Moroco, Bosnia a Hertsegofina |
Arwynebedd | 2,500,000 km² |
Uwch y môr | 0 metr |
Yn ffinio gyda | basn yr Almanzora, Cordillera Penibética, Gogledd Affrica |
Cyfesurynnau | 38°N 17°E |
Mae Culfor Gibraltar, sydd ddim ond 14 km (9 milltir) o led,[1] yn cysylltu'r Môr Canoldir â'r Môr Iwerydd yn y gorllewin ac mae Môr Marmara, y Dardanelles a'r Bosphorus yn ei gysylltu â'r Môr Du yn y dwyrain. Mae Môr Marmara yn rhan o'r Môr Canoldir ym marn rhai pobl. Yn y de-ddwyrain mae Camlas Suez yn cysylltu'r Môr Canoldir a'r Môr Coch. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd yn y Môr Canoldir (gweler isod), yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain rhwng Asia Leiaf a Gwlad Groeg.
Mae'r Môr wedi chwarae rhan ganolog yn hanes gwareiddiad y Gorllewin. Er bod Môr y Canoldir weithiau'n cael ei ystyried yn rhan o Gefnfor yr Iwerydd, cyfeirir ato fel arfer fel corff o ddŵr ar wahân. Mae tystiolaeth ddaearegol yn dangos bod Môr y Canoldir oddeutu 5.9 miliwn o flynyddoedd yn ôl wedi ei dorri i ffwrdd o Fôr yr Iwerydd gan ffurfio llyn, yn rhannol neu'n llwyr dros gyfnod o ryw 600,000 o flynyddoedd yn ystod 'argyfwng halltedd Messina' cyn cael ei ail-lenwi gan lifogydd Zanclean tua 5.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Mae gan y Môr Canoldir ddyfnder cyfartalog o 1,500 m (4,900 tr) a'r pwynt dyfnaf a gofnodwyd yw 5,267 m (17,280 tr) yn y Calypso Deep yn y Môr Ionia. Mae'n gorwedd rhwng lledredau 30 ° a 46 ° Gogledd a hydoedd 6 ° W a 36 ° Dwyrain. Mae ei hyd gorllewin-dwyrain, o Culfor Gibraltar i Gwlff Iskenderun, ar arfordir de-ddwyreiniol Twrci, tua 4,000 cilomedr (2,500 mi).
Arwynebedd Môr y Canoldir yw tua 2,500,000 km2 (970,000 metr sgwâr), sy'n cynrychioli 0.7% o arwyneb cefnfor byd-eang, ond mae ei gysylltiad â'r Môr Iwerydd trwy Culfor Gibraltar yn ddim ond 14 km (9 milltir) o led - dyma'r culfor cul sy'n cysylltu Cefnfor yr Iwerydd â Môr y Canoldir a yn gwahanu Sbaen yn Ewrop oddi wrth Moroco yn Affrica. Yn strategol, yn Oes y Celtiaid, roedd y rhan gul yma'n allweddol, ac yn rheoli'r mynd a'r dod. Yn 2009, cyflwynodd yr Athro John Koch, o'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn Aberystwyth, ddamcaniaeth newydd a chwyldroadol iawn fod bron i gant o gerrig beddau yn ardal Tartessos, de Sbaen wedi'u hysgrifennu yn yr iaith Geltaidd, gyda llawer o'r geiriau i'w cael mewn Cymraeg a Gwyddeleg, ac yn dyddio i gychwyn Oes yr Haearn.[2] Dywed ymhellach, fod y Tarteseg yn perthyn i deulu'r Ieithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn benodol, yn iaith Geltaidd, gynnar.[3] Golyga hyn fod y ddamcaniaeth draddodiadol mai crud y Celtiaid oedd canol Ewrop (Hallstatt ayb) wedi'i chwalu, a chred llawer o haneswyr, bellach, mai yn ne Portiwgal a de Sbaen mae gwir grud yr iaith Geltaidd, ac efallai'r Celtiaid eu hunain.
Y gwledydd o amgylch Môr y Canoldir mewn trefn clocwedd yw Sbaen, Ffrainc, Monaco, yr Eidal, Slofenia, Croatia, Bosnia a Herzegovina, Montenegro, Albania, Gwlad Groeg, Twrci, Syria, Libanus, Israel, yr Aifft, Libya, Tiwnisia, Algeria, a Moroco; mae Malta a Chyprus yn wledydd-ynysoedd yn y môr. Yn ogystal, mae gan Llain Gaza a Thiriogaethau Tramor Prydain yn Gibraltar ac Akrotiri a Dhekelia arfordiroedd ar y môr.
Mae hinsawdd arbennig o amgylch y Môr Canoldir, a nodweddir gan aeafau byr a chymhedrol ar y cyfan a hafau poeth, er ei bod yn amrywio o wlad i wlad o gwmpas y môr.
Mae gan y rhan fwyaf o'i harfordir de-ddwyreiniol hinsawdd anialwch poeth, ac mae gan lawer o arfordir dwyreiniol Sbaen (Môr y Canoldir) hinsawdd lled-cras oer. Er eu bod yn brin, mae seiclonau trofannol yn ffurfio weithiau ym Môr y Canoldir, ym mis Medi-Tachwedd, fel arfer.
Ion | Chwe | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Aws | Med | Hyd | Tach | Rhag | Blwy | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Málaga[4] | 16 | 15 | 15 | 16 | 17 | 20 | 22 | 23 | 22 | 20 | 18 | 16 | 18.3 |
Barcelona[5] | 13 | 12 | 13 | 14 | 17 | 20 | 23 | 25 | 23 | 20 | 17 | 15 | 17.8 |
Marseille[6] | 13 | 13 | 13 | 14 | 16 | 18 | 21 | 22 | 21 | 18 | 16 | 14 | 16.6 |
Napoli[7] | 15 | 14 | 14 | 15 | 18 | 22 | 25 | 27 | 25 | 22 | 19 | 16 | 19.3 |
Malta[8] | 16 | 16 | 15 | 16 | 18 | 21 | 24 | 26 | 25 | 23 | 21 | 18 | 19.9 |
Fenis[9] | 11 | 10 | 11 | 13 | 18 | 22 | 25 | 26 | 23 | 20 | 16 | 14 | 17.4 |
Athen[10] | 16 | 15 | 15 | 16 | 18 | 21 | 24 | 24 | 24 | 21 | 19 | 18 | 19.3 |
Heraklion[11] | 16 | 15 | 15 | 16 | 19 | 22 | 24 | 25 | 24 | 22 | 20 | 18 | 19.7 |
Antalya[12] | 17 | 17 | 16 | 17 | 21 | 24 | 27 | 29 | 27 | 25 | 22 | 19 | 21.8 |
Limassol[13] | 18 | 17 | 17 | 18 | 20 | 24 | 26 | 27 | 27 | 25 | 22 | 19 | 21.7 |
Mersin[14] | 18 | 17 | 17 | 18 | 21 | 25 | 28 | 29 | 28 | 25 | 22 | 19 | 22.3 |
Tel Aviv[15] | 18 | 17 | 17 | 18 | 21 | 24 | 27 | 28 | 28 | 26 | 23 | 20 | 22.3 |
Alexandria[16] | 18 | 17 | 17 | 18 | 20 | 23 | 25 | 26 | 26 | 25 | 22 | 20 | 21.4 |
Mae Môr y Canoldir yn cael ei ystyried yn fan allweddol a difrifol ar gyfer effeithiau newid hinsawdd; cynyddodd tymheredd dŵr dwfn 0.12 ° C (0.22 ° F) rhwng 1959 a 1989.[17] Yn ôl sawl amcangyfrif, fe allai Môr y Canoldir gynhesu ymhellach a gallai'r gostyngiad mewn dyodiad dros y rhanbarth arwain at fwy o anweddiad yn y pen draw, gan cynyddu halltedd y môr.[18][17][19] Oherwydd y newidiadau hyn mewn tymheredd a halltedd, gall Môr y Canoldir ddod yn fwy 'haenog' erbyn diwedd 21g, gyda chanlyniadau enbyd ar gylchrediad y dŵr a'i biocemeg.
Mae ynysoedd mawr y Môr Canoldir yn cynnwys:
Yn y Môr Aegeaidd ceir nifer mawr o ynysoedd llai a'r rhan fwyaf yn perthyn i Wlad Groeg.
Y gwledydd sydd ar lannau y Môr Canoldir yw:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.