Teulu ieithyddol From Wikipedia, the free encyclopedia
Teulu ieithyddol yw'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Maen nhw'n cynnwys y rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop a llawer o ieithoedd De a De-orllewin Asia. Maen nhw'n tarddu o un iaith hynafiadol (Proto-Indo-Ewropeg).
(Mae'r ieithoedd gyda bidog (†) wedi marw).
Mae’r holl ieithoedd Indo-Ewropeaidd yn synthetig i ryw radd neu gilydd; yr ieithoedd Slafeg yw’r ieithoedd mwyaf ceidwadol i Broto-Indo-Ewropeg yn nhermau’u morffoleg gyda lefelau uchel o ffurfdroad enwol a berfol, a Saesneg ac Affricaneg yw’r ieithoedd lleiaf ceidwadol. Maent hefyd yn ymasiadol, er enghraifft yn Lladin mae’r terfyniad -us yn y gair bonus ‘da’ , yn dynodi’r cenedl gwrywaidd, y cyflwr goddrychol, rhif unigol a’r modd dangosol. Mae hyn hefyd yn amlwg yn yr ieithoedd Germanaidd a Cheltaidd lle effeithir gwreiddyn y gair gan y ffurfdroad, er enghraifft y Saesneg sing, sang, sung a song a’r Gymraeg ffordd a ffyrdd. Mae Ffrangeg fel eithriad wedi dod yn fwy dodiadol. Tuedd ymysg yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd yw i ddod yn fwy analytig, er enghraifft mae’r ieithoedd Romáwns a’r ieithoedd Celtaidd wedi colli eu holl gyflyrau enwol. Yn wahanol i grwpiau eraill o ieithoedd mae’r ieithoedd Indo-Ewropeaidd wedi colli morffoleg heb ei ail-greu; mae’r symudiad unffordd hwn tuag at ddadelfeniad wedi bod yn digwydd am 6,000 o flynyddoedd yn wahanol i nifer o ieithoedd eraill lle gynhelir morffoleg yn well.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.