From Wikipedia, the free encyclopedia
Tel Aviv neu Tel Aviv-Yafo (Hebraeg:תֵּל־אָבִיב-יָפוֹ} , "Bryn y Gwanwyn") yw'r ail ddinas yn Israel o ran poblogaeth. Mae poblogaeth y ddinas ei hun yn 405,300, tra mae poblogaeth yr ardal ddinesig Gush Dan yn 3.15 milwn.
Math | dinas fawr, cyngor dinas, dinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Altneuland |
Poblogaeth | 467,875 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ron Huldai |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Toulouse, Philadelphia, Frankfurt am Main, Buenos Aires, Chişinău, Warsaw, Milan, Dinas Efrog Newydd, Łódź, Dinas Panamâ, Thessaloníci, Barcelona, İzmir, São Paulo, Beijing, Cannes, Dinas Gaza, Bonn, Budapest, Beograd, Essen, Sofia, Almaty, Incheon, Moscfa, Fienna, Cwlen, Oslo, Fenis, Dinas Mecsico, Addis Ababa, Rio de Janeiro, Helwan |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tel Aviv District |
Gwlad | Israel |
Arwynebedd | 52 km² |
Uwch y môr | 5 ±1 metr |
Gerllaw | Môr y Lefant |
Yn ffinio gyda | Herzliya, Bat Yam, Holon, Bnei Brak, Givatayim, Ramat HaSharon, Ramat Gan |
Cyfesurynnau | 32.08°N 34.78°E |
Cod post | 61000–61999 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Tel Aviv-Yafo |
Pennaeth y Llywodraeth | Ron Huldai |
Sefydlwyd y ddinas yn 1909 ar gyrion Jaffa (Hebraeg: יָפוֹ, Yafo), efallai y porthladd hynaf yn y byd. O dan ei Maer gyntaf, Meir Dizengoff tyfodd Tel Aviv yn llawer cyflymach na Jaffa, ac yn 1950 cyfunwyd hwy yn un ddinas. Dynodwyd ardal "y Ddinas Wen" yn Tel Aviv yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2003, oherwydd yr adeiladau Bauhaus yma.
Tel Aviv yw prif ganolfan economaidd a diwylliannol Israel, ac mae'n gyrchfan i dwristiaid hefyd oherwydd y traethau.
Mae Tel Aviv wedi bod yn rhan anatod, os nad yn symbol, o lwyddiant y wladwriaeth Seionistaidd, Israel. Ceir cyfeiriadau lu i'r ddinas mewn caneuon. Mae un cân gan Omer Adam o'r enw Tel Aviv wedi cael dros 18 miliwn o wylwyr ar Youtube.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.