From Wikipedia, the free encyclopedia
Darlledwr radio a theledu o Loegr oedd Annie Nightingale (ganwyd Anne Avril Nightingale), CBE (1 Ebrill 1940 – 11 Ionawr 2024). Hi oedd cyflwynydd benywaidd cyntaf BBC Radio 1. Fel y darlledwr a wasanaethodd hiraf ar BBC Radio 1, daliodd hi'r Guinness World Record am yr yrfa hiraf fel cyflwynydd radio benywaidd.[1]
Cafodd Nightingale ei geni yn Osterley, Middlesex, Lloegr,[2][3] yn ferch i Celia a Basil Nightingale. [4] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol St Catherine, Twickenham,[5] Ysgol Lady Eleanor Holles, Hampton, a'r Ysgol Newyddiaduraeth Polytechnig Canol Llundain (Prifysgol Westminster bellach). Dechreuodd Nightingale ei gyrfa fel newyddiadurwr yn Brighton, Dwyrain Sussex.
Bu Nightingale yn briod ddwywaith. Priododd â'r awdur Gordon Thomas, a bu iddynt ddau o blant. Priododd â'r actor Binky Baker. Daeth y ddwy briodas i ben mewn ysgariad.[4] Bu farw yn 83 oed.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.