J. Beverley Smith

Hanesydd ac awdur o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia

Hanesydd o Gymru oedd yr Athro J. Beverley Smith (ganwyd 27 Medi 193119 Chwefror 2024).[1][2] Ei brif faes oedd hanes Cymru'r Oesoedd Canol yn Oes y Tywysogion.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
J. Beverley Smith
GanwydJenkyn Beverley Smith 
27 Medi 1931 
Bu farw19 Chwefror 2024 
Aberystwyth 
Dinasyddiaeth Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, llenor, academydd 
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol 
Cau

Roedd yn enedigol o Orseinon, ac aeth i'r brifysgol yn Aberystwyth.

Wedi cyfnod yn y fyddin a chyfnod yn gweithio i Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru dychwelodd i Aberystwyth i weithio yn Adran Lawysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol cyn cael ei benodi yn ddarlithydd yn Adran Hanes Cymru yn Mhrifysgol Aberystwyth.[3]

Roedd yn awdur nifer o erthyglau dysgedig yn ogystal â'r gyfrol fawr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, sy'n astudiaeth drylwyr o yrfa Llywelyn Ein Llyw Olaf a'i gyfnod a'r unig fywgraffiad safonol o'r tywysog hwnnw.

Bu'n un o olygwyr Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd am gyfnod a bu'n o gyd-olygyddion Studia Celtica, un o'r prif gofnodolion astudiaethau Celtaidd, rhwng 1996 a 2010.

Bu'n gwasanaethu sawl corff cyhoeddus - roedd yn aelod o Gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1974 a 1984, bu'n aelod o Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru am dros 40 mlynedd ac yn gadeirydd arno o 1985-91.

Bu hefyd yn gadeirydd Comiswn Brenhinol Henebion Cymru ac yn gadeirydd Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd.

Bywyd personol

Roedd yn briod â Llinos a ganwyd dau fab iddynt - Robert a Huw. Bu farw yn 92 mlwydd oed. Cynhaliwyd ei angladd ar 6 Mawrth 2024 yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth am 12.30pm.[3]

Llyfryddiaeth

  • J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1986)

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.