From Wikipedia, the free encyclopedia
Academydd o Gymru oedd yr Athro Chris Williams (9 Mawrth 1963 – 4 Ebrill 2024)[1][2]. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith ar olygu dyddiaduron Richard Burton.[3]
Chris Williams | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mawrth 1963 Griffithstown |
Bu farw | 4 Ebrill 2024 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | awdur, hanesydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol |
Ganwyd Christopher Mark Williams yn Griffithstown, Sir Fynwy i Peter a Josephine Williams.[4] Treuliodd dair mlynedd cyntaf ei fywyd yng Nghasnewydd, ond symudodd ei deulu wedyn i Swindon, lle gwnaeth e Lefel O ac A. Treuliodd flwyddyn yn y fyddin cyn mynychu Coleg Balliol, Rhydychen.[5]
Wedi graddio o Rhydychen, astudiodd am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd cyn dod yn ddarlithydd yno.[6]
Wedi hynny gweithiodd ym Mhrifysgol Morgannwg ac yn 2005 daeth yn Athro Hanes Cymru a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd yn Gomisiynydd Brenhinol gyda Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac yn Gadeirydd Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.[7] Yn 2013 dychwelodd i Brifysgol Caerdydd.
Roedd Williams yn Bennaeth Coleg y Celfyddydau, Astudiaethau Celtaidd a Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn Athro Hanes yng Ngholeg Prifysgol Cork, Iwerddon, o 2017 i 2024.[8]
Yn 2016 fe'i etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.[9]
Cyhoeddwyd ei argraffiad o ddyddiaduron Burton gan Yale University Press.[10] Rhoddwyd y dyddiaduron i Brifysgol Abertawe gan weddw Burton, Sally Burton, yn 2006.[11][12] Ysgrifennodd yn helaeth ar Faes glo De Cymru a hanes Cymru fodern. Yn fwy diweddar ysgrifennodd ar hanes gartwnau a gwawdluniau gwleidyddol yng ngwledydd Prydain o'r 18 ganrif i'r Ail Ryfel Byd.[13]
Roedd yn briod â Siobhan hyd eu hysgariad yn 1993 a ganwyd mab iddynt. Ail-briododd i Sara (nee Spalding) yn 2003, a chawsant ddau fab.
Darlithiodd ar fynydda yng Nghymru ac o gwmpas y byd. Roedd yn gerddwr brwd a dringodd La Breche De Rolland yn y Pyrenees Ffrengig, Ben Nevis, Yr Wyddfa a Pen-y-Fan.
Bu farw o drawiad ar y galon ar 4 Ebrill 2024.[14]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.