Wicipedia:Ar y dydd hwn/Ebrill
Wicipedia nodyn / From Wikipedia, the free encyclopedia
1 Ebrill: Ffŵl Ebrill; Gŵyl mabsant Tewdrig
- 1815 (209 blynedd yn ôl) – ganwyd Otto von Bismarck, y gwleidydd o Brwsia a unodd yr Almaen
- 1939 (85 blynedd yn ôl) – daeth Rhyfel Cartref Sbaen i ben gyda buddugoliaeth i fyddin Cadfridog Franco
- 1943 (81 blynedd yn ôl) – ganwyd y gwleidydd Dafydd Wigley
- 1973 (51 blynedd yn ôl) – cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o'r Dinesydd, sef y papur bro Cymraeg cyntaf
![Y Tywysog Arthur](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/69/Anglo-Flemish_School%2C_Arthur%2C_Prince_of_Wales_%28Granard_portrait%29_-004.jpg/58px-Anglo-Flemish_School%2C_Arthur%2C_Prince_of_Wales_%28Granard_portrait%29_-004.jpg)
![Dafydd Wigley](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/2/28/Wigley.jpg/320px-Wigley.jpg)
2 Ebrill: Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd
- 1502 (522 blynedd yn ôl) – bu farw'r Tywysog Arthur, mab hynaf Harri VII, yn 15 oed
- 1805 (219 blynedd yn ôl) – ganwyd yr awdur Danaidd Hans Christian Andersen
- 1840 (184 blynedd yn ôl) – ganwyd yr awdur Ffrengig Émile Zola ym Mharis
- 1926 (98 blynedd yn ôl) – agorwyd Portmeirion yn swyddogol
- 1982 (42 blynedd yn ôl) – dechrau Rhyfel y Falklands neu'r Malvinas
- 1810 (214 blynedd yn ôl) – bu farw Twm o'r Nant, bardd ac anterliwtiwr
- 1882 (142 blynedd yn ôl) – bu farw'r herwr Americanaidd Jesse James
- 1924 (100 mlynedd yn ôl) – ganwyd Marlon Brando, seren y ffilmiau The Godfather a Last Tango in Paris
- 1962 (62 blynedd yn ôl) – daeth Jawaharlal Nehru yn brif weinidog India
- 2007 (17 blynedd yn ôl) – bu farw Marion Eames, nofelydd Cymreig ac awdur Y Stafell Ddirgel
![MLK](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5b/Martin_Luther_King_%28cropped%29.jpg/64px-Martin_Luther_King_%28cropped%29.jpg)
4 Ebrill: Diwrnod annibyniaeth Senegal (1960)
- 186 (1838 blynedd yn ôl) – ganwyd Caracalla, ymerawdwr Rhufain
- 1870 (154 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd a'r awdur Owen Wynne Jones (Glasynys) yn Nhywyn; awdur Straeon Glasynys (1943)
- 1896 (128 blynedd yn ôl) – ganwyd y cerddor W. S. Gwynn Williams ym Mhlas Hafod, Llangollen
- 1949 (75 blynedd yn ôl) – arwyddwyd Cytundeb Gogledd yr Atlantig yn Washington, D.C.; sefydlwyd NATO
- 1968 (56 blynedd yn ôl) – llofruddiwyd Martin Luther King ym Memphis, Tennessee.
- 2007 (17 blynedd yn ôl) – darganfod Gliese 581 c, planed newydd allheulol
![Leila Megàne](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cc/Leila_Megane_1.jpg/320px-Leila_Megane_1.jpg)
5 Ebrill: Gŵyl mabsant y seintiau Brychan a Derfel Gadarn
- 1588 (436 blynedd yn ôl) – ganwyd Thomas Hobbes, athronydd gwleidyddol o Loegr
- 1891 (133 blynedd yn ôl) – ganwyd y gantores opera Margaret Jones, neu Leila Megàne, ym Methesda, Gwynedd
- 1899 (125 blynedd yn ôl) – bu farw'r gwleidydd Cymreig Thomas Edward Ellis
- 1976 (48 blynedd yn ôl) – bu farw'r biliwnydd Howard Hughes, Americanwr o dras Gymreig
- 1994 (30 blynedd yn ôl) – bu farw'r canwr a chyfansoddwr Americanaidd Kurt Cobain
![Y Gemau Olympaidd Modern](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/55/Olympic_rings_with_transparent_rims.svg/90px-Olympic_rings_with_transparent_rims.svg.png)
- 1320 (704 blynedd yn ôl) – llofnodwyd Datganiad Obar Bhrothaig, datganiad o sofraniaeth annibynnol yr Alban.
- 1520 (504 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd Eidalaidd Raffaello Sanzio.
- 1896 (128 blynedd yn ôl) – cychwynnodd y Gemau Olympaidd Modern cyntaf yn Athen.
- 1896 (128 blynedd yn ôl) – agorwyd Rheilffordd yr Wyddfa, rheilffordd rhac a phiniwn.
- 1912 (112 blynedd yn ôl) – ganwyd y tenor David Lloyd yn Nhrelogan, Sir y Fflint.
![Clara Novello Davies](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b5/ClaraNovelloDavies.tiff/lossless-page1-320px-ClaraNovelloDavies.tiff.png)
7 Ebrill: Diwrnod Iechyd y Byd; gwyliau mabsant Brynach Wyddel a Doged
- 1770 (254 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd William Wordsworth
- 1861 (163 blynedd yn ôl) – ganwyd y gantores Clara Novello Davies, mam yr actor a'r cyfansoddwr Ivor Novello
- 1947 (77 blynedd yn ôl) – bu farw Henry Ford, sylfaenydd cwmni moduron Ford, yn 83 oed
- 1948 (76 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Cyfundrefn Iechyd y Byd
![Kofi Annan](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/72/Kofi_Annan_2012_%28cropped%29.jpg/640px-Kofi_Annan_2012_%28cropped%29.jpg)
8 Ebrill: Diwrnod Rhyngwladol y Sipsiwn
- 1421 (603 blynedd yn ôl) – derbyniodd Maredudd, mab Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru, bardwn brenhinol ar ôl 20 mlynedd o wrthryfela.
- 1761 (263 blynedd yn ôl) – bu farw Griffith Jones, Llanddowror, sylfaenydd 3,495 o Ysgolion Cylchynol Cymreig.
- 1930 (94 blynedd yn ôl) – ganwyd y sgriptiwr teledu Terry Nation, a ddyfeisiodd y Daleks yn y rhaglen Doctor Who, yng Nghaerdydd.
- 1938 (86 blynedd yn ôl) – ganwyd Kofi Annan, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, yn Kumasi, Ghana.
- 1973 (51 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd Pablo Picasso.
![Paul Robeson](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/20/Paul_Robeson_1942.jpg/640px-Paul_Robeson_1942.jpg)
9 Ebrill: Diwrnod annibyniaeth Georgia (1991). Gwylmabsant Santes Madyn.
- 1852 (172 blynedd yn ôl) – ganwyd Gwenllian Elizabeth Fanny Morgan, y ferch gyntaf yng Nghymru i gael ei gwneud yn Faer (neu'n Faeres)
- 1959 (65 blynedd yn ôl) – bu farw'r pensaer Americanaidd o dras Gymreig Frank Lloyd Wright
- 1981 (43 blynedd yn ôl) – etholwyd Bobby Sands, aelod o'r IRA, yn Aelod Seneddol dros Fermanagh
- 1867 (157 blynedd yn ôl) – pleidleisiodd Senedd yr Unol Daleithiau America i brynu Alaska oddi wrth Rwsia
- 1898 (126 blynedd yn ôl) – ganwyd Paul Robeson, actor a chanwr a serenodd yn y ffilm The Proud Valley
![David Lloyd George](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e8/David_Lloyd_George.jpg/640px-David_Lloyd_George.jpg)
10 Ebrill: 100fed diwrnod y flwyddyn yng Nghalendr Gregori (heblaw mewn blynyddoedd naid).
- 1870 (154 blynedd yn ôl) – ganwyd Vladimir Lenin, chwyldroadwr Rwsiaidd ac arweinydd 'Chwyldro Hydref'
- 1890 (134 blynedd yn ôl) – etholwyd David Lloyd George yn Aelod Seneddol etholaeth Caernarfon
- 1930 (94 blynedd yn ôl) – agorwyd hostel ieuenctid gyntaf gwledydd Prydain, yn Nyffryn Conwy
- 1932 (92 blynedd yn ôl) – ganwyd Omar Sharif, actor a serennodd yn y clasur Doctor Zhivago (1965)
- 1998 (26 blynedd yn ôl) – llofnodwyd Cytundeb Belffast gan lywodraethau y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon
- 1240 (784 blynedd yn ôl) – bu farw Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru, yn Abaty Aberconwy.
- 1241 (783 blynedd yn ôl) – bu farw Cadwgan o Landyfái, Esgob Bangor.
- 1765 (259 blynedd yn ôl) – bu farw Lewis Morris, bardd, llenor a hynafiaethydd.
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – ganwyd y gantores Cerys Matthews yng Nghaerdydd.
- 1970 (54 blynedd yn ôl) – cychwynnodd y daith i'r gofod Apollo 13; ddeuddydd yn ddiweddarach bu'n rhaid ei gohirio a dychwelyd y gofodwyr i'r ddaear ar ôl i danc ocsigen chwythu.
![Yuri Gagarin](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cc/Gagarin_in_Sweden.jpg/62px-Gagarin_in_Sweden.jpg)
- 238 (1786 blynedd yn ôl) – bu farw Gordian I, ymerawdwr Rhufain
- 1933 (91 blynedd yn ôl) – genedigaeth Montserrat Caballé, soprano o Farcelona
- 1945 (79 blynedd yn ôl) – bu farw Franklin Delano Roosevelt, Arlywydd Unol Daleithiau America - yn union 63 oed
- 1961 (63 blynedd yn ôl) – Yuri Gagarin, y dyn cyntaf yn y gofod, yn cylchdroi'r ddaear yn Vostok 1.
- 2000 (24 blynedd yn ôl) – bu farw'r naturiaethydd R. M. Lockley a anwyd yng Nghaerdydd.
![Tiger Woods](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b9/Tiger_Woods02.jpg/640px-Tiger_Woods02.jpg)
13 Ebrill: Dechrau Songkran yng Ngwlad Tai, eu dydd Calan; gwylmabsant Caradog
- 1742 (282 blynedd yn ôl) – yn Nulyn, perfformiwyd yr oratorio Messiah gan Georg Friedrich Händel am y tro cyntaf
- 1890 (134 blynedd yn ôl) – etholwyd David Lloyd George yn AS Bwrdeistref Caernarfon
- 1903 (121 blynedd yn ôl) – bu farw Daniel Silvan Evans, geiriadurwr, yn 85 oed
- 1992 (32 blynedd yn ôl) – enillodd Tiger Woods Gystadleuaeth y Meistri yn UDA pan oedd yn 21 oed, yr ieuengaf erioed i wneud hyn
![Cynan](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/11/Cynan_1956_Aberdar.jpg/320px-Cynan_1956_Aberdar.jpg)
14 Ebrill: Diwrnod bara lawr a Diwrnod yr iaith Georgeg
- 1864 (160 blynedd yn ôl) – saethwyd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Abraham Lincoln, mewn theatr yn Washington, D.C.; bu farw drannoeth
- 1895 (129 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd Cynan, awdur 'Pan wyf yn hen a pharchus...'
- 1985 (39 blynedd yn ôl) – bu farw Kate Roberts, awdures
- 1986 (38 blynedd yn ôl) – bu farw'r awdures a'r athronydd Ffrengig Simone de Beauvoir
- 1992 (32 blynedd yn ôl) – cyhoeddwyd y rhifyn olaf o'r Faner
- 2003 (21 blynedd yn ôl) – cwblhawyd gwaith Prosiect y Genom Dynol
- 2010 (14 blynedd yn ôl) – lladdwyd 2,700 o bobl yn Naeargryn Yushu, Yushu, Qinghai, Tsieina.
![Leonardo da Vinci](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/38/Leonardo_da_Vinci_-_presumed_self-portrait_-_WGA12798.jpg/58px-Leonardo_da_Vinci_-_presumed_self-portrait_-_WGA12798.jpg)
15 Ebrill: Diwrnod Rhyngwladol Celf; diwedd Songkran (Gwlad Tai)
- 1450 (574 blynedd yn ôl) – Brwydr Formigny yn y Rhyfel Can Mlynedd; bu'r Cymro Mathau Goch yn filwr blaenllaw yn y frwydr
- 1452 (572 blynedd yn ôl) – ganwyd Leonardo da Vinci yng ngweriniaeth Fflorens, yr Eidal
- 1780 (244 blynedd yn ôl) – ganwyd yr hynafieithydd Angharad Llwyd yng Nghaerwys, Sir y Fflint
- 1912 (112 blynedd yn ôl) – boddwyd 1,514 o bobl pan suddodd y Titanic
- 1937 (87 blynedd yn ôl) – ganwyd Tony Lewis un o arweinwyr Byddin Rhyddid Cymru
- 1989 (35 blynedd yn ôl) – bu farw 96 o gefnogwyr pêl-droed yn Nhrychineb Hillsborough
![John Morris-Jones](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/78/Morris-Jones.jpg/320px-Morris-Jones.jpg)
16 Ebrill: Gŵyl Mabsant Padarn; Diwrnod annibyniaeth Syria (1946)
- 1881 (143 blynedd yn ôl) – ganwyd yr ysgolhaig Ifor Williams ym Mhendinas, Tregarth, Gwynedd
- 1889 (135 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actor Charlie Chaplin yn Walworth, Llundain
- 1927 (97 blynedd yn ôl) – ganwyd y Pab Bened XVI ym Marktl, Bafaria
- 1929 (95 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd, yr ysgolhaig, y gramadegydd a'r beirniad llenyddol John Morris-Jones
- 1939 (85 blynedd yn ôl) – ganwyd Dusty Springfield, cantores Cerddoriaeth yr enaid (soul)
- 1998 (26 blynedd yn ôl) – lansiwyd Gwennol y Gofod, gyda'r gofodwr Dafydd Rhys Williams arni
![Pen y Fan (Bannau Brycheiniog)](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3a/Brecon_beacons_arp.jpg/640px-Brecon_beacons_arp.jpg)
- 1621 (403 blynedd yn ôl) – ganwyd dau efaill yn Sgethrog, Sir Frycheiniog: yr athronydd, Thomas Vaughan, a'r bardd Henry Vaughan
- 1903 (121 blynedd yn ôl) – ganwyd 'y dewra o'n hawduron' - T. Rowland Hughes
- 1957 (67 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- 1970 (54 blynedd yn ôl) – dychwelodd y llongofod Apollo 13 yn ddiogel i'r ddaear, wedi iddi fethu a glanio ar y lleuad
- 1975 (49 blynedd yn ôl) – daeth diwedd ar ryfel cartref Cambodia pan ildiodd lluoedd y llywodraeth i'r Khmer Rouge.
![Albert Einstein](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d3/Albert_Einstein_Head.jpg/640px-Albert_Einstein_Head.jpg)
18 Ebrill: Diwrnod annibyniaeth Simbabwe (1980)
- 1849 (175 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd Japaneaidd Hokusai
- 1906 (118 blynedd yn ôl) – trawyd San Francisco, Califfornia, gan ddaeargryn a ddilynwyd gan dân a lladdwyd o leiaf 3,000 o bobl.
- 1949 (75 blynedd yn ôl) – daeth Deddf Gweriniaeth Iwerddon (1948), a basiwyd gan yr Oireachtas Éireann, i rym gan greu gweriniaeth yn Iwerddon a thynnu'n ôl ei haelodaeth o'r Gymanwlad
- 1955 (69 blynedd yn ôl) – bu farw'r gwyddonydd Albert Einstein wedi iddo wrthod rhagor o driniaeth llawfeddygol
- 2004 (20 mlynedd yn ôl) – bu farw'r gwleidydd Geraint Howells, AS Aberteifi ac yna Ceredigion, rhwng 1974 a 2004.
![Diwrnod y Beic](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/98/Emoji_u1f6b2.svg/90px-Emoji_u1f6b2.svg.png)
- 1770 (254 blynedd yn ôl) – 'darganfuwyd' Awstralia gan y Capten James Cook
- 1775 (249 blynedd yn ôl) – dechreuodd Rhyfel Annibyniaeth America
- 1900 (124 blynedd yn ôl) – ganwyd y nofelydd Richard Hughes
- 1958 (66 blynedd yn ôl) – bu farw Billy Meredith, pêl-droediwr Cymreig yn 83 oed
- 1971 (53 blynedd yn ôl) – bu farw Niclas y Glais, sosialydd a bardd
- 1971 (53 blynedd yn ôl) – lansiwyd yr orsaf ofod gyntaf erioed, Salyut 1
- 1176 (848 blynedd yn ôl) – bu farw'r awdur Richard Fitz Gilbert de Clare, 2il Iarll Penfro
- 1795 (229 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)
- 1881 (143 blynedd yn ôl) – bu farw'r pensaer William Burges
- 1893 (131 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actor Harold Lloyd a'r arlunydd Joan Miró
- 2010 (14 blynedd yn ôl) – cafwyd ffrwydrad ar rig ddrilio olew Deepwater Horizon yng Ngwlff Mexico gan ladd 11 o bobl a arweiniodd at arllwysiad olew ar raddfa fawr.
![Catrin Fawr](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d9/Grand_Duchess_Catherine_Alexeevna_by_L.Caravaque_%281745%2C_Gatchina_museum%29.jpg/320px-Grand_Duchess_Catherine_Alexeevna_by_L.Caravaque_%281745%2C_Gatchina_museum%29.jpg)
21 Ebrill: Gŵyl mabsant Beuno a Sant Dyfan
- 1729 (295 blynedd yn ôl) – ganwyd Catrin Fawr, ymerodres Rwsia
- 1910 (114 blynedd yn ôl) – bu farw Mark Twain, awdur Adventures of Huckleberry Finn
- 1927 (97 blynedd yn ôl) – yr agorodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ei drysau
- 2003 (21 blynedd yn ôl) – bu farw'r gantores Affricanaidd-Americanaidd Nina Simone
- 2005 (19 blynedd yn ôl) – bu farw Gwynfor Evans, cyn-Lywydd Plaid Cymru.
![Y Ddaear](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f5/Terra.png/320px-Terra.png)
22 Ebrill: Diwrnod y Ddaear
- 1724 (300 blynedd yn ôl) – ganwyd yr athronydd Immanuel Kant yn Königsberg, Prwsia
- 1902 (122 blynedd yn ôl) – ganwyd y gwleidydd Megan Lloyd George yng Nghricieth, Gwynedd
- 1915 (109 blynedd yn ôl) – defnyddiwyd nwy gwenwynig (clorin) am y tro cyntaf mewn rhyfel, yn Ail Frwydr Ypres
- 1933 (91 blynedd yn ôl) – ganwyd y mathemategydd John Rigby a fu'n gweithio o Goleg Prifysgol De Cymru, Caerdydd
- 1977 (47 blynedd yn ôl) – defnyddiwyd ffibr optig am y tro cyntaf i gludo sgyrsiau ffôn byw
- 1977 (47 blynedd yn ôl) – bu farw Ryan Davies, canwr, actor a digrifwr.
![William Shakespeare](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a2/Shakespeare.jpg/640px-Shakespeare.jpg)
23 Ebrill: Dygwyl Siôr, nawddsant Brasil, Ethiopia, Georgia, Portiwgal a gwledydd eraill
- 1616 (408 blynedd yn ôl) – bu farw Miguel de Cervantes a William Shakespeare
- 1887 (137 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd John Ceiriog Hughes, bardd o Lanarmon Dyffryn Ceiriog
- 1912 (112 blynedd yn ôl) – ganwyd y cricedwr Haydn Davies yn Llanelli
- 1927 (97 blynedd yn ôl) – enillodd Dinas Caerdydd Gwpan yr FA, yr unig dro i dîm o Gymru ei ennill
- 1993 (31 blynedd yn ôl) – bu farw'r cyfansoddwr Daniel Jones.
![Swyddfa Bost Gyffredinol Dulyn](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a4/General_Post_Office_Dublin_20060803.jpg/640px-General_Post_Office_Dublin_20060803.jpg)
24 Ebrill: Gwylmabsant Meugan. Diwrnod coffa Hil-laddiad Armenia
- 1558 (466 blynedd yn ôl) – priododd Mari, brenhines yr Alban François, Dauphin Ffrainc, yn Notre-Dame de Paris
- 1800 (224 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Llyfrgell y Gyngres yn Washington, D.C.
- 1886 (138 blynedd yn ôl) – ganwyd y cowboi a'r biliwnydd Hywel Hughes (Bogotá) yn yr Wyddgrug
- 1916 (108 blynedd yn ôl) – dechreuodd Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn
- 2014 (10 mlynedd yn ôl) – cydnabyddwyd y Cernywiaid yn lleiafrif cenedlaethol gan Lywodraeth Lloegr.
![DNA](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c2/ADN_static.png/320px-ADN_static.png)
25 Ebrill: Diwrnod Ymwybyddiaeth Malaria, Gŵyl Sant Marc (Cristnogaeth)
- 1283 (741 blynedd yn ôl) – syrthiodd Castell y Bere i'r Saeson
- 1792 (232 blynedd yn ôl) – cyfansoddwyd La Marseillaise, anthem genedlaethol Ffrainc
- 1944 (80 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actor John Ogwen yn Sling, ger Tregarth, Gwynedd
- 1953 (71 blynedd yn ôl) – cyhoeddwydd y papurau gwyddonol cyntaf ar adeiledd DNA
- 2004 (20 mlynedd yn ôl) – bu farw'r awdur a'r cenedlaetholwr Eirug Wyn
![Derwen Gernika](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d6/GernikakoArbola-improved.jpg/59px-GernikakoArbola-improved.jpg)
26 Ebrill Gwylmabsant Bidofydd a Fidalis
- 1937 (87 blynedd yn ôl) – dinistriwyd Gernika yng Ngwlad y Basg gan fomiau awyrlu'r Almaen, yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.
- 1952 (72 blynedd yn ôl) – defnyddiwyd brechiad yn erbyn polio am y tro cyntaf, mewn treialon a gynhaliwyd yn UDA
- 1964 (60 blynedd yn ôl) – unwyd Tanganyika a Sansibar gan ffurfio Gweriniaeth Unedig Tansanïa
- 1986 (38 blynedd yn ôl) – ffrwydrodd gorsaf ynni niwclear Chernobyl yn yr Wcráin.
![Mary Wollstonecraft](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/36/Mary_Wollstonecraft_by_John_Opie_%28c._1797%29.jpg/640px-Mary_Wollstonecraft_by_John_Opie_%28c._1797%29.jpg)
27 Ebrill: Diwrnod annibyniaeth Togo (1960) a Sierra Leone (1961)
- 1759 (265 blynedd yn ôl) – ganwyd Mary Wollstonecraft, athronydd
- 1794 (230 blynedd yn ôl) – bu farw Syr William Jones, ieithegwr
- 1955 (69 blynedd yn ôl) – bu farw William Ambrose Bebb, hanesydd, llenor a gwleidydd
- 1963 (61 blynedd yn ôl) – ganwyd Russell T. Davies, cynhyrchydd teledu a sgriptiwr
![Arfbais yr Arglwydd Rhys](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a7/Escutcheon_of_Deheubarth.svg/320px-Escutcheon_of_Deheubarth.svg.png)
28 Ebrill: Diwrnod cenedlaethol Sardinia
- 1197 (827 blynedd yn ôl) – bu farw'r Arglwydd Rhys, Arglwydd y Deheubarth; claddwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi
- 1844 (180 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd Thomas Jones (Tudno) yn Llandudno
- 1923 (101 blynedd yn ôl) – cynhaliwyd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn Stadiwm Wembley am y tro cyntaf
- 1976 (48 blynedd yn ôl) – bu farw'r nofelydd Richard Hughes yn Nhalysarn, Gwynedd
- 2012 (12 blynedd yn ôl) – bu farw Matilde Camus, bardd o Sbaen, yn 92 oed
![Thomas Jones](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/93/Thomas_Jones_1742%E2%80%931803.jpg/320px-Thomas_Jones_1742%E2%80%931803.jpg)
29 Ebrill: Diwrnod Dawns Rhyngwladol; Gŵyl Mabsant Sannan
- 1429 (595 blynedd yn ôl) – daeth Jeanne d'Arc i Orléans er mwyn codi'r gwarchae ar y ddinas
- 1803 (221 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd Thomas Jones
- 1865 (159 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd Thomas Evans (Telynog) yn 24 oed
- 1968 (56 blynedd yn ôl) – cyhoeddodd y Swyddfa Bost stamp â thestun Cymraeg arni am y tro cyntaf: stamp 'Pont y Borth'.
- 1980 (44 blynedd yn ôl) – bu farw'r cyfarwyddwr ffilmiau Alfred Hitchcock
![Rheilffordd Ffestiniog](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a8/Ffestiniog-Railway-07419u.jpg/640px-Ffestiniog-Railway-07419u.jpg)
- 1789 (235 blynedd yn ôl) – gwnaed George Washington yn Arlywydd cyntaf Unol Daleithiau America
- 1907 (117 blynedd yn ôl) – canwyd yr emyn-dôn Cwm Rhondda am y tro cyntaf
- 1945 (79 blynedd yn ôl) – bu farw Adolf Hitler, Canghellor yr Almaen, yn ei fyncer ym Merlin
- 1975 (49 blynedd yn ôl) – daeth diwedd ar Ryfel Fietnam pan ildiodd lluoedd y De i luoedd y Gogledd.
- 1983 (41 blynedd yn ôl) – ailagorwyd y cyfan o Reilffordd Ffestiniog
- 1993 (31 blynedd yn ôl) – rhoddodd CERN y We Fyd-eang ar drwydded agored, gan ei rannu a'r byd cyfan.