Ffibr optig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffeibr ystwyth, ysgafn a thryloyw wedi'i wneud o wydr neu blastig yw fibr optig, sydd ychydig tewach na thrwch blewyn y gwallt. Gall weithio fel canllaw i donnau optig neu i gludo golau o'r naill ben i'r llall. Gelwir y maes oddi fewn i wyddoniaeth gymhwysol a pheirianneg sy'n ymwneud â chynllunio a chymhwyso'r ffibrau hyn yn 'ffibr optig'.[1][2]
Cânt eu defnyddio'n helaeth oddi fewn i'r maes 'cyfathrebu', gan fod y ffibl hwn yn caniatáu i ddata deithio heb ymyrraedd ac ar fand mwy llydan na cheblau weiren ac am bellter hirach. Oherwydd nad metel yw eu gwneuthuriaeth, ni cheir ymyriant electromagnetig. Fe'u defnyddir hefyd i oleuo, a gellir eu casglu'n fwndeli twt i gario delweddau, sy'n eu gwneud yn hynod o ddefnyddio mewn lle bychan, cyfyng. Gellir eu defnyddio hefyd fel synhwyryddion ac i gario laser.