![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/87/IAEA_02790015_%25285613115146%2529.jpg/640px-IAEA_02790015_%25285613115146%2529.jpg&w=640&q=50)
Trychineb Chernobyl
From Wikipedia, the free encyclopedia
Damwain adweithydd niwclear yn Atomfa Chernobyl yn Wcráin, a oedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd bryd hynny oedd Trychineb Chernobyl. Ystyrir y drychineb fel y drychineb waethaf erioed mewn gorsaf ynni niwclear ac un o ddim ond dwy damwain lefel 7 ar Raddfa Digwyddiad Niwclear Rhyngwladol. Achosodd i lawer iawn o ddeunydd ymbelydrol gael ei ryddhau yn sgîl gwyriadau pŵer enfawr a ddinistriodd yr adweithydd. Bu farw dau berson o ganlyniad i'r ffrwydriad stêm cychwynnol, ond priodolir y rhan fwyaf o'r marwolaethau i ymbelydredd.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | nuclear disaster, environmental disaster ![]() |
---|---|
Dyddiad | 26 Ebrill 1986 ![]() |
Lladdwyd | 4,000 ![]() |
Lleoliad | Chernobyl Nuclear Power Plant ![]() |
![]() | |
Rhanbarth | Kyiv Oblast ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/1/1b/Chernobyl_Disaster.jpg/260px-Chernobyl_Disaster.jpg)
Ar 26 Ebrill 1986 am 01:23:45 a.m. (UTC+3), ffrwydrodd adweithydd rhif pedwar yng ngorsaf ynni Chernobyl, ger Pripyat yng Ngweriniaeth Sofietaidd Wcráin. Bu ffrwydriadau pellach a achosodd i dân ddanfon cymylau o fŵg hynod ymbelydrol i'r atmosffer gan orchuddio ardal ddaearyddol eang. Rhyddhawyd bedwar can gwaith mwy o ymbelydredd nag a wnaed gan Fom Atomig Hiroshima ym 1945.[1]
Symudodd y mwg dros rannau helaeth o orllewin yr Undeb Sofietaidd, Dwyrain Ewrop, Gorllewin Ewrop, Gogledd Ewrop a rhan ddwyreiniol Gogledd America, gyda glaw niwclear ysgafn yn glanio yn Iwerddon hefyd. Llygrwyd rhannau helaeth o'r Wcrain, Belarws a Rwsia, gan achosi i dros 336,000 o bobl fudo ac ymgartrefi mewn llefydd eraill. Yn ôl data swyddogol ôl-Sofiet, glaniodd tua 60% o'r ymbelydredd ym Melarws.[2]
Arweiniodd y drychineb at nifer o bobl yn mynegi pryder am y diwydiant ynni niwclear yn yr Undeb Sofietaidd, a arafodd ddatblygiad ynni niwclear yno am nifer o flynyddoedd, a chan orfodi'r llywodraeth Sofietaidd i fod yn llai cyfrinachol. Mae Rwsia, yr Wcrain a Belarws wedi gorfod ymdrin â'r broses sylweddol o ddi-heintio a'r costau meddygol sylweddol a ddaeth yn sgîl trychineb Chernobyl. Mae'n anodd priodoli nifer pendant o farwolaethau oherwydd trychineb Chernobyl, am fod ymdrehcion y llywodraeth Sofietaidd i gelu'r ystadegau wedi ei wneud yn anodd tracio'r holl ddioddefwyr. Roedd rhestrau'n anghyflawn, ac yn ddiweddarach gwaharddwyd doctoriaid rhag nodi "ymbelydredd" ar dystygrifau marw gan yr awdurdodau Sofietaidd.[3]
Amcangyfrifir fod yr holl drychineb wedi costio $200 biliwn ($UDA), o gymryd chwyddiant i mewn i ystyriaeth. Mewn adroddiad yn 2005 a gynhyrchwyd gan Fforwm Chernobyl, o dan arweiniad yr Asiantaeth Ynni Niwclear Rhyngwladol a Chyfundrefn Iechyd y Byd, priodolwyd 56 marwolaeth yn uniongyrchol i'r drychineb (47 o weithiwyr adeg y ddamwain a naw o blant gyda chancr y thyroid, ac amcangyfrifir y gallai fod 4,000 o farwolaethau eraill o gancr o'r 600,000 posib a oedd wedi profi'r ymbelydredd.[4] Er fod rhannau o Chernobyl na ellir mynd iddynt o hyd, ystyrir y rhan fwyaf o ardaloedd a effeithiwyd bellach yn ddiogel i fyw yno ac ar gyfer gweithgarwch economaidd.[5]