From Wikipedia, the free encyclopedia
Prif ddinas Talaith Hiroshima yn Japan yw Hiroshima, a dinas fwyaf rhanbarth Chūgoku yng ngorllewin Honshū, ynys fwyaf Japan. Hiroshima oedd y ddinas gyntaf erioed i brofi arfau niwclear pan ollyngwyd bom arni gan yr Unol Daleithiau ar y 6ed o Awst, 1945 yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]
Math | dinasoedd dynodedig Japan, prefectural capital of Japan, dinas â phorthladd, dinas fawr, dinas Japan |
---|---|
Prifddinas | Naka-ku |
Poblogaeth | 1,198,021 |
Sefydlwyd | |
Anthem | municipal anthem of Hiroshima |
Pennaeth llywodraeth | Kazumi Matsui |
Cylchfa amser | UTC+09:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sassenhirofuku, 100 municipalities with water, Hiroshima metropolitan area |
Sir | Hiroshima |
Gwlad | Japan |
Arwynebedd | 905.01 ±0.01 km² |
Gerllaw | Afon Ōta, Hiroshima Bay, Seto Inland Sea |
Yn ffinio gyda | Kure, Higashihiroshima, Akitakata, Hatsukaichi, Kumano, Kaita, Fuchu, Saka, Kitahiroshima, Akiota |
Cyfesurynnau | 34.38525°N 132.45531°E |
Cod post | 730-8586 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Q11484650 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Hiroshima |
Pennaeth y Llywodraeth | Kazumi Matsui |
Sefydlwydwyd gan | Mōri Terumoto |
Cafodd Hiroshima statws bwrdeistrefol ar y 1af o Ebrill, 1889. Maer presennol y ddinas yw Kazumi Matsui a ddechreuodd ar ei swydd yn 2011.
Sefydlwyd Hiroshima ar arfordir mewnforol Môr Seto ym 1589 gan Mori Terumoto, a wnaeth y ddinas yn brifddinas wedi iddo adael Castell Koriyama.[2][3] Adeiladwyd Castell Hiroshima'n gyflym iawn, a symudodd Terumoto yno ym 1593. Collodd Terumoto Frwydr Sekigahara. Amddifadodd buddugwr y frwydr honno, Tokugawa Ieyasu, Mori Terumoto o'i eiddo, gan gynnwys Hiroshima, gan roi talaith Aki i Masanori Fukushima, arglwydd ffiwdal a oedd wedi cefnogi Tokugawa.[4] Trosglwyddwyd y castell i Asano Nagaakira ym 1619, a phenodwyd Asano yn arglwydd yr ardal hon. O dan reolaeth Asano, ffynnodd, datblygodd ac ehangodd y ddinas, a phrin oedd y gwrthdaro a'r anghydweld milwrol. Parhaodd llinach Asano i reoli tan Adfywiad Meiji yn y 19g.
Bu Hiroshima'n brifddinas ardal Hiroshima yn ystod cyfnod Edo. Ar ôl i'r han gael ei ddiddymu ym 1871, daeth y ddinas yn brifddinas Talaith Hiroshima. Daeth Hiroshima'n ardal ddinesig fawr yn ystod cyfnod Meiji wrth i economi Japan symud o'r diwydiant amaethyddol i'r diwydiannau trymach. Adeiladwyd Harbwr Ujina yn ystod y 1880au, a alluogodd Hiroshima i fod yn borthladd pwysig.
Ymestynnwyd Rheilffordd Sanyo i Hiroshima ym 1894, ac adeiladwyd rheilffordd o'r brif orsaf i'r harbwr er mwyn symud offer milwrol yn ystod y Rhyfel Sino-Japan Cyntaf.[5] Sefydlwyd ffatrïoedd diwydiannol newydd, gan gynnwys melinau gwlân, yn Hiroshima ar ddiwedd y 1880au.[6] Gwelwyd diwydiannu pellach yn Hiroshima o ganlyniad i'r Rhyfel rhwng Rwsia a Japan ym 1904, lle'r oedd angen datblygu a chynhyrchu offer milwrol. Adeiladwyd Neuadd Arddangos Masnach Talaith Hiroshima ym 1915 fel canolfan i fasnachu ac arddangos nwyddau newydd. Yn ddiweddarach, newidiodd ei enw i Neuadd Arddangos Cynnyrch Talaith Hiroshima, ac yn ddiweddarach eto i Neuadd Hyrwyddo Diwydiannau Talaith Hiroshima.[7]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lleolwyd pencadlys yr Ail Fyddin a Byddin Ranbarthol Chugoku yn Hiroshima, tra bod Pencadlys Morol y Fyddin wedi ei leoli ym mhorthladd Ujina. Roedd gan y ddinas storfeydd mawrion o adnoddau milwrol hefyd, ac roedd yn ganolfan allweddol ar gyfer allforio.
Achosodd bomio Tokyo a dinasoedd eraill yn Japan ddinistr difrifol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a lladdwyd dros 200,000, gyda'r mwyafrif llethol ohonynyt yn drigolion cyffredin. Er enghraifft, dinistrwyd ardal ddinesig Toyama, lle trigai 128,000 o bobl, bron yn llwyr, a lladdwyd tua 90,000 o bobl gan fomiau yn Tokyo.[8][9]
Yn fuan ar ôl i’r rhyfel ddechrau ym mis Hydref 1939 cafodd yr Arlywydd Roosevelt o UDA lythyr gan y ffisegwr Albert Einstein. Roedd yn sôn am y posibilrwydd o greu bom a fyddai’n fwy nerthol nag unrhyw beth a welwyd o’r blaen drwy ddefnyddio pŵer niwclear. Roedden nhw’n ofni bod gwyddonwyr yr Almaen ar fin creu ‘bom atomig’ a fyddai’n arwain at ganlyniadau trychinebus. Perswadiwyd Roosevelt i fwrw ymlaen â’r cynllun ac aeth ati i sefydlu menter ar y cyd â Phrydain o’r enw Prosiect Manhattan. Arweiniwyd y prosiect gan UDA gyda chefnogaeth Prydain a Chanada. Fe wnaeth gwyddonwyr a oedd yn cael eu hadnabod fel y ‘genhadaeth Brydeinig’ gyfraniad pwysig at y prosiect.
Ar 20 Gorffennaf 1945 profwyd y bom atomig cyntaf yn anialwch Alamogordo ym Mécsico Newydd. Penderfynodd y Cynghreiriaid orchymyn ollwng dau fom wraniwm ar ddau darged yn Japan, sef Hiroshima a Nagasaki. Gollyngwyd yr un cyntaf ar Hiroshima, sef ‘Little Boy’, ddydd Llun 6 Awst, 1945 am 8.15 y bore gan griw y bomiwr B-29 Americanaidd, yr Enola Gay, er mwyn gorfodi Japan i ildio. Roedd y bom yn arf thermo-niwclear a oedd yn pwyso ychydig dros 2,400 pwys ond roedd y grym ffrwydrol yn gyfystyr â thanio 1.2 miliwn tunnell o TNT. Mae ceisio amcangyfrif faint o bobl a laddwyd yn Hiroshima wedi bod yn anodd ond un ffigwr yw 150,000 yn Hiroshima. Ynghyd â Nagasaki, dyma’r unig arf niwclear sydd wedi ei ddefnyddio mewn gwrthdaro milwrol erioed.
Parhaodd niferoedd uchel o bobl i farw am fisoedd ar ôl hynny oherwydd effeithiau’r bom. Bu farw llawer oherwydd effeithiau’r llosgiadau a salwch ymbelydredd. Dinistriwyd tua 69% o adeiladau’r ddinas yn gyfan gwbl gyda 6.6% wedi eu difrodi’n ddifrifol.[9] Ailadeiladwyd y ddinas ar ôl y rhyfel a sefydlwyd Cofeb Heddwch Hiroshima.
Penderfynwyd defnyddio bom niwclear gan yr Unol Daleithiau am nifer o resymau. Ym mlynyddoedd olaf y rhyfel, sylweddolodd UDA y byddai cost ariannol drud wrth geisio gorchfygu Japan ar ei phrif dir. Byddai llai o filwyr Americanaidd, sifiliaid a milwyr Japaneaidd yn cael eu lladd drwy ollwng bom niwclear yn hytrach na thrwy oresgyniad o’r awyr ac ar y tir. Roedd defnyddio bom atomig yn ffordd o orfodi Japan i ildio’n gyflym. Roedd y Cynghreiriaid wedi galw am ildiad diamod gan luoedd milwrol Japan yn Natganiad Potsdam ar 26 Gorffennaf 1945. Anwybyddodd Japan yr wltimatwm ac felly parhaodd y rhyfel. Gyda’r rhyfel yn Ewrop wedi dod i ben pan ildiodd yr Almaen ar Mai 8, 1945 (Diwrnod VE) trodd y Cynghreiriaid felly eu sylw at y rhyfel yn y Cefnfor Tawel. Ar Awst 15 1945 ildiodd Japan i’r Cynghreiriaid – chwe diwrnod wedi i’r Undeb Sofietaidd ddatgan rhyfel yn ei herbyn ac ar ôl i'r bom ddisgyn ar Nagasaki.
Cyfyngwyd gwaith ymchwil am effaith yr ymosodiad a sensorwyd gwybodaeth tan arwyddwyd Cytundeb Heddwch San Francisco ym 1951, pan ddychwelwyd rheolaeth o'r ardal yn ôl i Japan.[10]
Ysgrifennwyd llawer am Hiroshima mewn adroddiadau newyddion, nofelau a diwylliant poblogaidd yn ystod y blynyddoedd ar ôl y bomio.
Poblogaeth y ddinas yw 1,159,391 (2007) er yr amcangyfrifwyd bod gan ardal fetropolitanaidd y ddinas boblogaeth o 2,043,788 yn 2000. Arwynebedd y ddinas yw 905.08 km², gyda dwysedd poblogaeth o 1275.4 unigolyn i bob km².[11]
Roedd poblogaeth y ddinas yn 143,000 tua 1910. Cyn yr Ail Ryfel Byd, roedd poblogaeth Hiroshima wedi tyfu i 360,000 cyn cyrraedd uchafswm o 419,182 ym 1942. O ganlyniad i ollwng y bom atomig ym 1945, lleihaodd y boblogaeth i 137,197. Erbyn 1955, roedd poblogaeth y ddinas wedi dychwelyd i'r un lefel ag yr oedd cyn y rhyfel.[12][13]
Mae 8 ward (ku) yn Hiroshima:
Ku | Poblogaeth | Arwynebedd (km²) | Dwysedd poblogaeth (per km²) | |
---|---|---|---|---|
Aki-ku | 78,176 | 94.01 | 832 | |
Asakita-ku | 156,368 | 353.35 | 443 | |
Asaminami-ku | 220,351 | 117.19 | 1,880 | |
Higashi-ku | 122,045 | 39.38 | 3,099 | |
Minami-ku | 138,138 | 26.09 | 5,295 | |
Naka-ku | 125,208 | 15.34 | 8,162 | |
Nishi-ku | 184,881 | 35.67 | 5,183 | |
Saeki-ku | 135,789 | 223.98 | 606 | |
Poblogaeth ar ôl 31 Hydref 2006 |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.