![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6c/World_Inflation_Rate_2019.png/640px-World_Inflation_Rate_2019.png&w=640&q=50)
Chwyddiant
From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn gyffredinol, cyflwr economaidd yw chwyddiant pan fo prisiau nwyddau a gwasanaethau'n codi am ysbaid o amser, hynny yw, pan fo swm yr arian dreigl a chredyd yn cynyddu o'u cymharu â maint y cynnyrch mewn nwyddau masnachol.[1][2]
Delwedd:Cpis.PNG, CPI GDP M2 and Velocity.png | |
Enghraifft o'r canlynol | cysyniad economaidd, ffenomen ![]() |
---|---|
Math | economic problem ![]() |
Y gwrthwyneb | deflation ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6c/World_Inflation_Rate_2019.png/640px-World_Inflation_Rate_2019.png)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/20/US_Historical_Inflation_Ancient.svg/640px-US_Historical_Inflation_Ancient.svg.png)
Ceir tri phrif fath o chwyddiant:
- Chwyddiant galw-tynnu (demand-pull inflation), pan fo'r galw am nwyddau yn uwch na'r cyflenwad ar y farchnad.
- Chwyddiant cost-gwthio (cost-push infaltion), pan fo cynnydd mewn prisiau nwyddau yn absenoldeb cynnydd yn y galw amdanynt.
- Chwyddiant ariannol (monetary inflation), pan geir cynnydd yn y cyflenwad arian.
Pan fo prisiau nwyddau a gwasanaethau'n codi, mae uned o arian yn prynu llai o nwyddau; adlewyrcha hyn y 'pŵer prynu' (purchasing power) gwladwriaeth; po fwya'r chwyddiant, po leiaf ydy'r pŵer prynu, a pho fwyaf yw'r diffyg a'r gwerth real yr economi.[3][4] Mesurir chwyddiant gan raddfa blynyddol chwyddiant a'r consumer price index.[5]
Mae chwyddiant yn effeithio'r economi mewn ffyrdd gwahanol: yn adeiladol ac yn negyddol. Yn negyddol, gwelir cynnydd yng nghostau buddsoddi, ansicrwydd o lefel chwyddiant y dyfodol (sy'n atal buddsoddi), ac (ar ei eithaf) lleihad yn y nwyddau sydd ar gael. Yn adeiladol, mae'n caniatáu i fanciau canolog graddfeydd llog, a rheoli neu leihau'r posibilrwydd o ddirwasgiad,[6] ac yn annog buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf.